Pytiau o golofn 'Cynefin -yr amgylchedd ym Mro Stiniog' Llafar Bro
Mai
Er iddi deimlo’n ddigon oer am gyfnodau ym mis Mai, arhosodd y tymheredd dros y rhewbwynt trwy’r mis, a’r isaf oedd 2.5°C ar y 12fed.
Cafwyd 10
diwrnod heb ddiferyn o law, ac roedd wythnos hanner tymor yn braf a
chynnes, gan aros dros 25 gradd am 5 diwrnod (32.1°C ar y 26ain).
Bu cyfnod hir o ddreigio gyda’r nos ar y 27ain a chwarter awr o law trwm. Clywais gan ffrind oedd yn ‘sgota nos yn Llyn Conglog ei fod yn ofni am ei fywyd wrth i’r aer glecian efo gwreichion a mellt yn taro glannau’r llyn! Cyfanswm glaw: 136.79mm.
< Llun: egin afalau ddechrau mis Mai. Addewid am flwyddyn dda yn yr ardd...
Mehefin
Prif bennawd Mehefin heb os oedd gwres mawr 21ain-26ain, ac yn wahanol i fis Mai yn drymaidd iawn hefyd, ac yn teimlo’n drofannol o’r herwydd!
Cyhoeddwyd rhybudd coch am y gwres am y tro cyntaf erioed yng Nghymru, er mae oren oedd hi yma yn y gogledd-orllewin. Cauwyd ambell ysgol, canslwyd trenau, a thorwyd bob math o records!
33.8°C oedd y poethaf yma (35.9°C yng Nghaerdydd) ar y 25ain a’r tymheredd brin wedi disgyn o dan 22 gradd trwy’r nos! Bu 11 diwrnod heb ddiferyn o law; cyfanswm y mis oedd 221mm efo’r 1af a’r 11eg yn cyfrannu bron i hanner hynny.
![]() |
| Tymheredd (coch) 25ain Mehefin ('Dew point' sydd mewn gwyrdd). Cododd dros 30 gradd am 11:14 ac aros felly tan bum munud i naw y nos! |
Gorffennaf
‘Rargian... Am haf! Yng Nghymru, mae’r MetOffis yn diffinio Ton Wres -heatwave- fel tri diwrnod yn olynol efo’r tymheredd yn codi dros 25 gradd. Cafwyd un ym mis Mai ac un arall ym Mehefin yn barod, ac er inni gael ychydig o law yn nyddiau cyntaf Gorffennaf daeth ton wres arall i’n gyrru i’r cysgod am naw diwrnod o’r 8fed, gan gyrraedd 32.6°C ar y 10fed!
![]() |
| Enghraifft brin o Stiniog ar fap tywydd y BBC (15fed Mehefin) |
Cyfartaledd tymheredd y mis oedd 18°C, yn gyfartal efo'r record blaenorol o’r Gorffennaf cynhesaf.
Dyma hefyd y Gorffennaf sychaf, a'r mwyaf heulog ar gofnod yng Nghymru.
Datganwyd sychder trwy Gymru; gwaharddwyd pibelli dŵr yn siroedd Ceredigion, Penfro, a Chaerfyrddin.
Llosgodd tân y Rhinogydd gan ddifrodi unig Warchodfa Biogenetig Cymru o’r 12fed-27ain.
Cyfanswm glaw Stiniog oedd 83.5mm, efo 17 diwrnod heb ddiferyn a 6 arall efo llai nag 1mm.
Awst
Daeth 4ydd ton wres eleni rhwng yr 11eg a’r 13eg o Awst, ar ei uchaf yn 33.1°C.
Bu hen ddarogan am stormydd at ddiwedd y mis, ond heblaw am ychydig o ddreigio, daeth dim terfysg. Roedd croeso, ar y llaw arall i fwy o law o’r 26ain ymlaen, er na fu dilyw o bell ffordd. Cyfanswm glaw Awst: 111.8mm, efo 12 diwrnod heb ddiferyn o law, a 7 arall efo llai nag 1mm.
Haf cofiadwy iawn rhwng bob dim, a dychrynllyd hefyd: Mae’n bryder meddwl nad oes troi yn ôl o’r newid hinsawdd yr ydym wedi’i achosi, efo tanau gwyllt trwy Ewrop; llifogydd difrifol yn Nepal oherwydd toddi’r rhewlifoedd; a tornado yn dinistrio pentref yn Ffrainc!
| Cwt weindio inclên Chwarel Newydd Diffwys yn fframio'r Moelwynion ar ddiwrnod chwilboeth arall ym mis Awst 2026 |
Ymddangosodd yr uchod (heb y lluniau) yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026 a rhifyn Medi 2026, Llafar Bro



No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau