Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

7.4.14

Gwell hwyr na hwyrach

Ddiwrnod yn hwyrach na'r ddwy flynedd ddwytha' -ac roedd hynny'n hwyr- dwi wedi dechrau hau o'r diwedd!

 A hithau'n ddiwrnod gwlyb, diflas ddoe, mi es i allan i'r ty gwydr, o gywilydd, a'i glirio a golchi'r ffenestri. Mi fuodd y Fechan allan efo fi yn golchi potiau a labeli aballu hefyd chwarae teg iddi. Gawson ni gwmpeini cacynen gynnar.


Mi fuon ni'n hau pys a ffa a chorn a phwmpenni. Dwi wedi cychwyn dwy dysan mewn sach a dau ddwsin o sets nionod coch mewn potiau yn y ty gwydr. Hefyd hau courgettes, nasturtiums, chilis, pupurod, tri math o domatos, aeron goji a mefus gwyn.

Mae rhai ohonynt ar ffenest y gegin (peth amhoblogaidd iawn bob gwanwyn), efo tatws sy'n dal i fagu llygaid (chitio),  a'r lleill ar fyrddau a silffoedd y ty gwydr, ond dwi ddim hanner ffordd trwy'r hau eto..


Dwi wedi prynu compost di-fawn, fel pob blwyddyn, ond hen stwff bras iawn ydi o eto, yn llawn darnau pren. Felly ar gyfer hadau, dwi'n gogri'r naddion allan ohono fo a chymysgu'r deunydd mân
efo compost pridd John Innes rhif 1 neu JI Seed. Mae'r naddion yn mynd ar ben y sach datws, ac mi welwch o'r llun pa mor fras ydyn nhw.


Sharpes express ydi'r tatws- rhai cynnar; bydd y gweddill ohonynt yn mynd allan i'r ardd erbyn dydd Gwener Groglith. Mae gen i hanner dwsin o datws had coch Diwc-of-iorc; cynnar ydi'r rhain hefyd, dwi ddim am drafferthu efo tatws diweddar eleni.



Mae'r cyffro a'r edrych ymlaen wedi dechrau eto!
 Diolch byth am wanwyn.

 



Pryfetach...
Nid y gacynen oedd yr unig bryf yn y ty gwydr. Dwi heb weld gweirloyn y cloddiau* (wall brown) yma o'r blaen, ac roedd yr un oedd yn y ty gwydr wedi marw'n anffodus: yn amlwg wedi mynd i mewn rywbryd y llynedd. Roedd gloyn gwyn wythiennog (green veined white) wedi marw yno hefyd.

Doedd y gacynen ddim wedi marw ond doedd ganddi fawr o egni chwaith, wedi bod yn y ty gwydr trwy'r nos dwi'n amau. Aeth y Fechan i nol diferyn o fêl o'r ty ac ar ol llyfu ychydig mi hedfanodd y gacynen tua'r gorwel.

Dim ond dau ddwsin o fathau o gacwn sydd ym Mhrydain i gyd, felly bysa rhywun yn meddwl ei bod yn hawdd nabod p'run 'di p'run, ond gan fod y frenhines a'r gweithwyr a'r cacwn gwrywaidd yn aml iawn yn edrych yn wahanol i'w gilydd ond yn debyg i rywogaethau eraill, mae'n reit anodd bod yn sicr. Dwi'n meddwl taw'r gacynen gynnar, Bombus pratorum oedd hon, ond dwi ddim gant-y-cant yn siwr. Mae'r llun yma'n dangos yn well mai un rhesen felen sydd ar y thorax (ar yr ysgwydd), a'r abdomen yn ddu, melyn, du, coch.


Efo'r paill ar y coesau ol, mae hi'n amlwg yn fenywaidd, felly dim ond B. terrestris ydi'r posiblirwydd arall ond mae honno'n fwy, a'r melyn yn fwy llachar.

Mae'r enw Cymraeg am bumblebee yn achosi trafferth weithiau. Cacynen, cachgi bwm, gwenynen, hwrli bwm. Mae'r Bumblebee Conservation Trust wedi cynhyrchu taflen yn Gymraeg**, ac yn anffodus maen nhw'n eu galw yn 'wenyn mawr'!!

* tudalen gweirloyn y cloddiau ar wicipedia
   gwefan Gymraeg ymddiriedolaeth Butterfly Conservation

** bumblebee conservation.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau