Llwyth o bethau'n blodeuo ar hyn o bryd: dwi'n falch bod yr haul a'r gwenyn a'r pryfaid allan i'w peillio, er i rhywfaint o law gyrraedd heddiw wrth i mi grwydro efo camera.
Dyma ambell lun yn dangos cyflwr y blodau ar goed ffrwythau'r ardd gefn....
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEjk_tgo0T7nK1c_Ev5iNgf1L6aoHouHys_JVIiQWju8jP38YrcQrM9R8ktjT7Cu9otPUQofcV__p38XbY8lPIhcUNpzuJNZ9hEQXST5BXbm8CFvUUSmk5B_Kcp-yuBxJdF8S9VdMKQ0DK0/s1600/blodau+ffrwythau+coed+20+Ebrill+2014+%25284+cnau+codog%2529.JPG) |
Tyrd 'nol mewn bythefnos... cnau codog: braidd yn gynnar i'r planhigyn diarth yma. Dagrau Adda, a bladdernut yn enwau eraill (Staphylea pinnata). Poblogaidd ar y cyfandir. Amser a ddengys a ddaw hadau gwerth eu hel arni yma yn Stiniog. |
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEjfyxs55OfBbuUTYFqRtacKMJUeoWRLAYFXE3kBTGTglVwKhICy5PeOocDFj7ab4gP-aQ7qcOxnBWWqlIo4rL66WiT-UOBhBh-teU_in_f5D0aeTqPnn6H_GVmW5aAFBdKd3dqud2RJV3o/s1600/blodau+ffrwythau+coed+20+Ebrill+2014+(1+afal+enlli).JPG) |
Aros mae... afal Enlli: roedd 2013 yn flwyddyn sal; gobeithio am well cnwd eleni. |
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEiB44ou7Pj3uq25kijt7K597w22cNTcu6tBAyXXwxt-IhAfb4Lrto59CzVpru2MONsCC-eBI0a2amYDNoTnocDQxtzJYpY2x_RSSSZCrCcIDgeOxhgPA26sBW_RuJwn3vRYKOm8BhIjTtE/s1600/blodau+ffrwythau+coed+20+Ebrill+2014+(2+ceiriosen+morello).JPG) |
Barod amdani... ceiriosen morello: dwi wedi cael gwell hwyl ar y tocio y tro 'ma, a chasgliad da o flodau yn tynnu dwr i'r dannedd yn barod. |
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEiqyYYYhaZu_ssIP4MVrxEBO7ZJPrqQm9mjwa3ABcDLRJG7cQmuEU_Tiwg37KLJkMXhIKIqgP81tpVXGdguYZCRuDJU4qjGRwk0XotXvh5MbmddteGMQ2LpC1zUWFt5fmIwmxyR-MFQ3oY/s1600/blodau+ffrwythau+coed+20+Ebrill+2014+(3+gellygen+conference).JPG) |
Llawn addewid... gellygen conference: wedi cael y ffrwythau cynta llynedd, mae llwyth o flodau ar hon eleni. Mmmmm. |
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEixvTPViJsD29OATPN3sXDcZgye1q3-UMhOla6yM6JgedLKSB6qEbBwPV7a9Q_3HSWGeLOXx855bJQDEJygoVw1j54qdADhx9idRJSIdUJg3NOW31ZsQbVOK1BeGsITRkc79yaTvljXPpo/s1600/blodau+ffrwythau+coed+20+Ebrill+2014+(5+eirinen+Ddinbych).JPG) |
Bin dder, dyn ddat.... eirinen Ddinbych: y gwenyn wedi bod wrthi, a'r blodau wedi gorffen. Gobaith am ffrwyth cyntaf ar hon yr haf yma. |
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEh6dBvKpVwJz6aAZ4GQqlJV0rXSwywvM08mhwXKiwS1g0BTDNursODUfk_FyTNZ82-d8Ci30BqrBABa6xkyj_ufPEJ6mFyDcW-30a1NfAg5PF2Ay5iteVHHMaH28kry9SudqblxBIfI61k/s1600/blodau+ffrwythau+coed+20+Ebrill+2014+(6+hefinwydden).JPG) |
Daw hyfryd fis... hefinwydden: hon yn edrych yn wych eleni hefyd, a hen edrych ymlaen yma. |
Llunia da, wa!
ReplyDeleteVPW
Diolch VP!
Delete