Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

4.7.12

Daw eto haul ar fryn...


Dwi wedi bod yn teimlo chydig fel rhywun sy'n byw yng nghylch yr Arctic (neu yn Nant Peris!) y p’nawn ‘ma, yn croesawu'r haul ar ôl hirlwm diflas gaeaf. Roedd pobl yn dod allan i sefyll yn eu drysau a phwyntio mewn rhyfeddod at y peth mawr melyn oedd yn sbecian trwy’r cwmwl...
Fydd o ddim yn para’n hir mae’n debyg, felly mi fues i allan am orig yn mwynhau’r ardd tra medrwn.


Be gei di’n well na Dahlia Esgob Llandaf i godi calon ar ddiwrnod lle clywsom fod mis Mehefin wedi bod ddwywaith gwlypach na’r arfer yng Nghymru, a’r Mehefin gwlypaf erioed ar gofnod!

Dyma ambell i beth arall ddenodd fy llygaid tra oeddwn wrthi.

Kniphofia -procer poeth melyn

Dau fath o radish. Y rhain, a dail salad ydi'r ychydig bethau sy'n barod i'w hel, o, a rhiwbob wrth gwrs.
Cyrins duon. Cnwd da eleni, os gan nhw lonydd gan yr adar!

Yn olaf, mi soniais i yn gynharach am y lluniau o 2011, oedd yn dangos mor bell ar ei hôl hi mae’r ardd acw eleni. 
Tynnwyd llun y mefus yma ar 14eg Mehefin 2011, a dim ond rwan maen nhw’n dechrau edrych yr un fath eleni. Mae nifer o bethau 20 diwrnod yn hwyrach eleni nag oedden nhw y llynedd! Asiffeta, mae’r tymor tyfu’n ddigon cwta yma fel mae, heb sôn am golli tair wythnos!
Ta waeth, dwi’n obeithiol y daw eto haul ar fryn...plîs!

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau