Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

27.7.12

Crwydro


Mi gymrais ddiwrnod off ddechrau'r wythnos, ac ar ôl blino aros i’r haul ddod allan, mi aeth y Fechan a finne i grwydro ganol y pnawn. Penderfynu aros yn y tŷ i ddarlunio a darllen wnaeth y ddwy fawr eto. 

Wrth ddilyn ein trwynau mi aethom ni mor bell â phen ucha’ Cwm Teigl, un o gorneli hyfrytaf plwy’ Stiniog, ac edrych drosodd at chwarel Rhiwbach ym mhlwy’ Penmachno.
Roedd hi’n pigo bwrw, felly ddaru ni ddim mentro’n rhy bell.


Dyrchafaf fy llygaid...






Galw yn nhŷ Anti Nita wedyn i dorri cangen geirios a chlirio llwyn lelog iddi hi gael rhoi mainc yng ngardd goffa Bobi Twm.

Mi fuon ni’n rhyfeddu at gawr o blanhigyn bysedd y cŵn yno, yn ddwywaith taldra’r Fechan!







Erbyn amser cinio Dydd Mercher roedd yr haul wedi cyrraedd -am ryw hyd- ac roeddwn i’n crwydro tir garw’r Rhinogydd. Un o wobrau’r daith galed ar hyd crib Clogwyn Pot oedd cael mwynhau llus cynta’r flwyddyn. 


Gan ‘mod i’n gweithio, ches i ddim hel pwysi ohonynt; dim ond tamaid i aros pryd. 

Galla’i ddim aros rŵan i drefnu helfa dda, a rhoi cynnig ar y grib hel aeron a ges i’n anrheg Dolig. 

Mi roddaf lun o’r teclyn ar y blog ar ôl bod, ac adolygiad o’i lwyddiant wrth hel. Mi gafodd ‘Nhad un mewn da bryd at dymor hel y llynedd ac mi heliodd o gnwd da yn hanner yr amser arferol. Mae unrhyw beth sy’n lleihau cyfle gwybed bach i boeni rhywun yn werth y byd... gawn ni weld.

Ar hyd y daith, mi ges fwynhau mefus gwyllt hefyd. Mi fyswn i wedi gorfod talu crocbris taswn i ym mwyty Portmeirion am y fath ddanteithion! Hyfryd.



Llus coch oedd yr olaf o'r triawd bwytadwy i mi weld y diwrnod hwnnw. Chwerw braidd ydyn nhw i'w bwyta efo bys a bawd, ond mae Ikea yn gwerthu jam digon blasus ohono! Efallai eu bod yn tyfu'n drwch yn Sweden, ond mae nhw'n rhy wasgaredig o lawer ym Meirionnydd i hel digon ohonynt i wneud jam fy hun. Cowberry, neu lingonberry yn yr iaith fain, mae hwn -fel llus (bilberries)- yn perthyn i'r blueberries dwi'n gyfeirio atynt yn y darn dwytha'.











No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau