Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

24.6.12

Carnifal a chiciau cosb

Roedd Carnifal Tanygrisiau heddiw. Es i ddim.
Fel arfer mi allwch chi ddibynnu ar ddau beth yn yr haf. Un ydi fod y Saeson methu’n glir a chicio penaltis mewn cystadleuaeth beldroed.  Y llall ydi ei bod hi’n piso bwrw ar ddiwrnod Carnifal Tangrish. 

Gallwn floeddio haleliwia heddiw am ddau reswm. Roedd y pnawn yn sych, ac mae sêr hunanbwysig Lloegr ar eu ffordd adra... VIVA Italia!

Roedd rhai o'r pethau oedd dal yn y tŷ gwydr yn gwegian o ddiffyg lle a diffyg maeth yn eu potiau, felly mi o’n i’n falch o gael mynd allan ar ôl cinio i’w plannu nhw allan. Aeth rhai i'r ardd gefn, a rhai i’r rhandir. Persli, berwr dŵr, letys y mwynwyr, a gwahanol flodau.
Unwaith eto, daeth y Fechan efo fi i’r rhandir -mae hi mwya’ balch o’i chyfraniad hi fel Garddwr Cynorthwyol!  Cario llechi oedd hi heddiw i’w rhoi ar ymylon ei phwll, tra oeddwn i’n plannu ac yn taro golwg dros y pethau sydd yn y ddaear yn barod.
Mae’r pys yn amlwg yn diodde’ efo’r gwynt yno, a tydi’r india corn/pys melyn heb dyfu dim mewn mis ers eu plannu ar y 26ain o Fai. Digon truenus yr olwg ydi’r pedwar marchysgall hefyd, ond be ddiawl dwi’n ddisgwl, yn trio tyfu planhigyn o’r Med ar ochr mynydd ‘n de?  Dyna sut ddysga’i  be wneith yn dda yno dros y blynyddoedd am wn i. Mae’r tymheredd wedi bod lawr o gwmpas y deg gradd eto yn y boreua felly tydi hynny ddim yn helpu. Mae gen’ i gyfres o luniau o’r ardd gefn y llynedd, sy’n awgrymu fod popeth o leia’ ddeg diwrnod ar ei hôl hi eleni. Mi rannaf ambell un pan gaf gyfle.

Ar ôl dechrau fel jôc fisoedd yn ôl, dwi wedi plannu berwr dŵr yno heddiw. Ambell un ar ymyl y pwll, ac eraill yn y ffosydd. Dwi heb dyfu watercress o’r blaen, felly gawn ni weld sut gymrith o at randir gwlyb!


Rhywbeth arall sy’n gwneud yn dda mewn ardaloedd mynyddig, oer a llaith ydi letys y mwynwr, Claytonia (uchod). Mae'n cael ei enw am fod mwyngloddwyr gogledd America wedi dibynnu arno ar un adeg am fitamin C mae'n debyg. Amser a ddengys ydi’r stwff yn werth ei fwyta, ond o leia’ mae o’n saff o dyfu i mi!

Un peth sy’n sicr, mae’r blwmin glaswellt yn gwneud yn dda iawn yno.
 

Mae rhannau o’r ardd gefn yn edrych yn 
dda rŵan, ond mae peryg i ni golli’r gorau 
o’r lliw am fod y tywydd mor uffernol o sâl. 

Mae mwy o babi coch nag erioed o’r blaen, ond maen nhw’n cael eu pannu gan y glaw di-baid, ac yn edrych yn ddigon bler.


Ta waeth, mae canlyniad y peldroed wedi codi ‘nghalon i heno, ac mae’r byd yn teimlo’n le gwell o lawer yn barod!















No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau