Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.6.12

Brwgaitsh


Ychydig iawn o esgusodion sydd gen’ i am adael bron i bythefnos rhwng dau bost. Diffyg lluniau yn fwy na diffyg amser sy’n bennaf gyfrifol; a’r tywydd heb helpu. Bu’n hanner tymor yma a chant o bethau i’w gwneud, felly dipyn o hyn, a ‘chydig o’r llall ydw i am gofnodi, a dim byd o dragwyddol bwys.
Gwaelod y gasgen.
Ar ôl sgwennu yma ddwytha’, parhaodd y sychder am rai dyddiau, a bu’n rhaid imi gario dŵr i’r rhandir, a finna wedi treulio wythnosau’n cwyno fod y lle’n rhy wlyb! Mae gorfod cario dŵr yn ‘Stiniog yn hurt bost, felly bydd yn rhaid gwneud rhyw drefniant i storio glaw ar y lluarth rhag ofn y cawn gyfnod sych eto. Fel canodd yr Anweledig: “Wir i chi mae hi’n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog...”
Mae’r gasgen las sydd yn y llun uchod wedi bod yn yr ardd gefn yn llawn o ddŵr ers tair blynedd, heb fod fawr o ddefnydd, felly mi es i a hi i’r rhandir. Mi es i a 3 llond can 25 litr o ddŵr i lenwi’r gasgen, a dim ond ar ôl stryffaglu i wneud hynny, sylwi fod twll yng ngwaelod y sglyfath! Bu’n llawn am dair blynedd, ond rŵan fod gen i ddefnydd iddi...blwmin twll!

Gadael y nyth.



Hedfanodd y pedwar cyw mwyalchen dros ddeuddydd olaf mis Mai, ac erbyn heddiw, mae’r iâr yn gori tri wy newydd.






Paentio'r byd yn las. 
Mi ddaeth y glaw ar ddiwrnod ola’ Mai. Un o’r pethau olaf a lwyddais wneud cyn y glaw oedd paentio dwy gadair efo paent sbâr y ffens. Pan oeddwn yn  byw mewn tŷ hynod fach ym Maentwrog, mi brynais y rhain am bedair punt yr un, am eu bod yn plygu i’w cadw o dan fwrdd y gegin. 1991 oedd hynny. Ers symud oddi yno maen nhw wedi cael defnydd allan yn yr ardd bob haf, ac mae’r paent yma wedi rhoi bywyd newydd iddynt. P’run ai fydden nhw yma am ugain mlynedd eto ai peidio, dwn ‘im, ond am £4, maen nhw wedi hen dalu am eu lle fyswn i’n deud!

“Wai-o, wai-o: pawb yn deud bod hi’n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog...”
Mae pob diwrnod hyd yma ym mis Mehefin –mwy neu lai- wedi cael rhywfaint o law. Mwy am hynny ‘fory.

Deio.
Bu farw cymydog yn ystod yr wythnos. Mi fydd hen chwith ar ôl yr hen lanc addfwyn, a byddaf yn methu’r sgyrsiau rheolaidd a gawsom dros wrych yr ardd gefn. Gobeithio y caiff ei goed afalau fyw’n hir ar ei ôl, ac ar ôl ei chwaer hoffus a’n gadawodd yn 2010.
Blodau afal Enlli


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau