Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.6.12

Briwsion

Parhad o fanion ddoe..

Pwll!
Mi arhosodd yn ddigon sych ddydd Mercher i mi a’r fechan dreulio rhai oriau yn yr ardd gefn, ac ar y lluarth. Roeddwn wedi gaddo creu pwll bach iddi hi yn un o’r corneli gwlyb a dyna fu’r ddau ohonom yn wneud ar ôl cyrraedd.
Wedyn, tra oedd hi’n cario dŵr i lenwi’r pwll -a dal llyffantod i’w rhoi ynddo hefyd- mi ges i orffen creu’r gwely newydd a phlannu’r marchysgall (globe artichoke). Erbyn heddiw, tydyn nhw dal ddim yn edrych yn hapus iawn, (mi fuon nhw yn y swyddfa bost am ddeuddydd ar ol i'r postmon fethu a'n dal ni adra).
Mi blannais ffa Ffrengig rhwng yr india corn, a dau blanhigyn pwmpen ar y twmpath compost. Eto, tydi'r planhigion corn ddim yn edrych yn fodlon iawn eu byd, ond wedyn mae'r tymheredd wedi bod o gwmpas y 10 i 15 gradd 'ma ers dyddiau. Gyda lwc, cawn gyfnod cynhesach o hyn ymlaen, a dwi angen eu gwarchod rhag y gwynt dwi'n meddwl.

Jiwbilol.

Roeddwn i wedi dweud trwy’r flwyddyn fy mod i am weithio ar ddiwrnod gŵyl banc brenhines Lloegr, ond yn y diwedd mi gymerais fantais o'r gwyliau er mwyn mynd ar daith i ddathlu Glyndŵr, a chael diwrnod wrth fy modd.


Criw Canolfan HanesUwchgwyrfai  oedd wedi trefnu, ac mi gawsom sgwrs hynod ddifyr gan Eryl Owain yng Nghanolfan Glyndŵr, Machynlleth, ac ymweld â thŷ hynafol Cefn Caer  ger Pennal, i weld copi o lythyr Pennal, a replica o ‘Gleddyf y genedl’, a choron Owain Glyndŵr. Parch mawr  i yrrwr y bws am gyrraedd y ffasiwn le yn ddidrafferth, a diolch i Elfyn Rowlands, y perchennog am ein diddanu.
Braf oedd cael peint a phryd o fwyd yng nghwmni hanner cant o wladgarwyr; i gyd yno, fel fi, i anghofio am y dathlu prydeinig, ac i gofio pwy ydym ni, a pham ein bod fel cenedl yma o hyd.

Cwhwfan.
Mi fu’r tylwyth i gyd yn crwydro de Meirionnydd ddydd Iau. Rhuthro trwy’r glaw i fwynhau orig yn arddangosfa newydd gwarchodfa natur Cadair Idris, a’r caffi newydd yno, Tŷ Te Cadair.
Gostegodd y glaw am gyfnod wedyn, ac mi fuon ni’n hedfan cutan ar draeth Tywyn dan gymylau duon blin.


Mae glan y môr yn le gwych i fod mewn tywydd gwyllt, ond roedd cyfran o boblogaeth yr ardal yn amlwg yn anghytuno efo fi am brydeindod, a baneri a bynting coch, gwyn a glas yn bla siomedig.
Ddydd Gwener, roedd yn brafiach o lawer cael mwynhau dwsinau o ddreigiau coch, a baneri coch, gwyn a gwyrdd wrth inni deithio trwy Eifionydd ac Arfon i Steddfod yr Urdd, er inni gael diwrnod difrifol o wlyb ac oer ar ol cyrraedd!



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau