Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

8.10.12

Dydd Llun(iau)

Rhannu ambell lun ydw i heno, yn hytrach na malu awyr...

Wedi bod am dro bnawn ddoe, gan ei bod yn sych, lawr at Lyn Ystradau -Llyn Tangrish fel 'da ni'n ddeud- a cherdded ar hyd yr argae.
Mae'r llun gynta'n edrych dros y llyn at inclên chwarel y Wrysgan, a Moel yr Hydd. Braidd yn fflat ydi lliwiau'r llun mae gen i ofn, am bod yr haul wedi mynd dan gwmwl.


Beicio oedd y Fechan ar yr argae. Roedd 'na amser pan nad oedd hi'n ffit i grwydro'r argae efo plant, gan fod pawb yn mynd yno i wagio eu cŵn, ond mae'r sefyllfa wedi gwella'n arw erbyn hyn. Y Wrysgan yn y golwg eto, ac Allt y Ceffylau yn y pellter yng nghanol y llun; Bwlch Cwmorthin, a thomen chwarel Cwmorthin wedyn, a Chraig Nyth y Gigfran ar y dde.

Yr Arlunydd wedi bod yn brysur tra oedden ni allan: tartenni siocled i bawb!

Pry' hofran ar flodau origano. Yr ardd gefn wedi bod yn berwi efo pryfed hofran, cacwn, a gwyfynnod, wedi gwirioni ar eiliadau prin o haul. Hwn yn un o aelodau'r teulu Platycheirus (albimanus dwi'n meddwl). Maen nhw'n ddiawledig o anodd i'w nabod fel grwp, ac ychydig iawn sy'n hawdd eu nabod heb eu dal, fel hwnnw sydd wedi bod yn llun y mis.

Lindysyn gwalch-wyfyn helyglys (elephant hawkmoth) ydi'r anghenfil yma. Mae ymylon safle'r rhandiroedd, a'r plots segur yn llawn chwyn, ond mae canfod y lindys trawiadol yma -a gwybod fod y gwyfyn hardd ar y safle hefyd- yn ein hatgoffa bod 'chydig o flerwch a chwyn yn llesol. Roedd o dros ddwy fodfedd o hyd, ac yn edrych fel petai'n dechrau magu croen caled i droi yn chwiler/pupa am y gaeaf.

Dyma (hen) lun o'r 'oedolyn' hardd. Mae'r rhain yn cael eu denu'n aml at olau yn yr ardd gefn. 

Mari-a-Meri (capan cornicyll/nasturtium) yn gwneud eu gorau glas i ychwanegu lliw i'r rhandir. 
Craig Bwlch-y-gwynt yn y cefndir.

Dail y llus mawr sy'n ychwanegu lliw i'r ardd gefn ar hyn o bryd. Y llwyni wedi eu tocio, a gorchudd newydd o ddeilbridd conwydd ar y gwely, yn barod am y gaeaf...yn wahanol iawn i mi!


5.10.12

Canmol!

Dwi wedi bod yn ddigon parod i ladd ar Byw yn yr Ardd, ar fwy nag un achlysur, felly mae'n iawn imi ganmol hefyd pan fo hynny'n briodol.


Oherwydd y gyfres o raglenni'n ail-ddangos 'uchafbwyntiau' dros yr haf, roeddwn wedi rhoi'r gorau i recordio'r rhaglen, ac felly mi fethais ddwy bennod ola'r gyfres yn ail hanner Medi.


Ar ol i bawb arall fynd i'r gwely heno, i ges i gyfle i ddal i fyny trwy wasanaeth Clic ar wefan S4C.



Rhaglenni gwreiddiol oedd y rhain (pennod 10 ac 11), ac roedd y ddwy raglen yn wirioneddol dda; yn wir, doedd dim un o'r eitemau yn wan.




Mae Russel wedi torri ei wallt ac yn cymryd ei hun ychydig llai o ddifri mae'n ymddangos. Roedd ei wylio'n perfformio 'dawns y tadau' ym mhennod 10, yn ddoniol iawn! Ar ddiwedd y bennod olaf, roedd wyneb Bethan Gwanas (llun uchod) yn amhrisiadwy pan oedd Russel yn bloeddio ei "TA-RAAA" angerddol!

Ym mhennod 11, roedd y darn yn Felin Uchaf, lle'r oedd Russel yn naddu giat o hen dderwen oedd wedi disgyn, yn arbennig o ddifyr. Roedd ei adolygiad o'r flwyddyn ar y 'Patsh' yn werth ei weld hefyd, ond eto, biti na fysa ganddo fwy o amser. Syniad am raglen arbennig yn fy marn i.

Roedd gwylio cyffro Bethan Gwanas wrth ennill efo'i mel yn Sioe Talybont yn wych, a rhywun yn teimlo'i blachder. Mae mwy o fanylion am ei gorchest ar ei blog difyr iawn (dolen ar y dde).

Mi wnes i fwynhau cyfraniadau Sioned hefyd: Twm Elias yn ddifyr a smala fel bob tro wrth drafod perlysiau Canolfan Hanes Uwchgwrfai, ac eitem digon diddorol ar blannu Heucheras mewn basgedi.

Braf iawn oedd gweld mwy o ddefnydd o'r labeli, yn enwi'r planhigion oedd y cyflwynwyr yn cyfeirio atyn nhw hefyd.

Am y tro cynta ers talwm, mi ffeindis i fy hun yn diawlio nad oedd y rhaglen yn awr o hyd yn hytrach na hanner awr. Llongyfarchiadau i'r cynhyrchwyr ar ddwy bennod arbennig; melys moes mwy.

Biti garw fod y gyfres wedi gorffen rwan. Mae'r ddwy bennod ar gael ar Clic, trwy wefan S4C: pennod 10 am dair wythnos, a phennod 11 am bedair wythnos, arall. Os na welsoch chi nhw, brysiwch i'w gwylio, a gadwch imi wybod eich barn.

Ydw i wedi bod yn or-feirniadol o'r rhaglen yn y gorffennol? Ynta', ydi hi wedi gwella'n arw at ddiwedd y gyfres? Dyma edrych ymlaen at bennod y Nadolig, a chyfresi'r dyfodol.

30.9.12

Yn y mynydd mae'r gerddinen

Mae 'di bod yn flwyddyn ddifrifol am ffrwythau coed yma. O'i gymharu efo'r llynedd, oedd yn flwyddyn ryfeddol. Dwi'n ailadrodd efallai, ond dim ond un afal ddaeth ar y goeden Enlli; dim un ar y croen mochyn; dim un eirinen Ddinbych; a dim ond dyrnaid o geirios.

Yn y gwyllt, mae'r eirin (damsons) gwyllt; eirin tagu; afalau surion; ysgawen; a chnau cyll wedi bod yn reit dlawd. Ond mae un ffrwyth sy'n groes i bob dim arall yn yr ardal hon eleni, sef criafol. Aeron cochion y gerddinen, neu'r goeden griafol. Coeden fynydd, sy'n hardd yn y gwanwyn efo'i blodau, ac yn hardd wedyn, pan mae'n drwm o ffrwythau. Wedi arfer gorfod dygymod a thywydd gwaeth na llawr gwlad, felly bosib fod yr oerfel a rwystrodd beillio coed eraill heb effeithio cymaint arni?

 Deg munud gymrodd i hel dau bwys. Mi faswn wedi medru dod adra efo hanner can pwys taswn i eisio.

 Wedi berwi'r ffrwyth -efo tua hanner pwys o afalau surion wedi eu torri, ar gyfer y pectin- dyma hidlo'r hylif pinc o'r trwyth. Dwi ddim yn un i gymryd sylw o'r cyngor i beidio gwasgu rhag gwneud y jeli'n gymylog. Gwneud hwn i'w fwyta ydw i; ddim i'w arddangos, felly pan mae'n ddigon oer, dwi'n gwasgu a godro pob diferyn ohono! Mae yn werth prynu bagiau mwslin da, ond dwi ddim isio gwario ar declynnau crand i hongian y bag aballu. Dim ond bachyn o dan gadair sydd angen!


Union litr ges i y tro 'ma, felly ychwanegu 800g o siwgr, a berwi'n ffyrnig am ddeg munud. Saith o botiau bach yn hen ddigon inni gael rhai yn y cwpwrdd a rhai i'w rhannu.

Tydi o ddim yn stwff i'w fwyta ar dost, am fod blas braidd yn chwerw arno sy' ddim at dant pawb, ond mae o'n dda efo cig oer a chaws.


 Nid ein bod wedi mynd heb bethau melys chwaith...
Y Fechan (a'r Pobydd) wedi gwneud cacenna' gri.







A'r Pry' Llyfr wedi arbrofi efo cacenna' bach, a hufen a siocled.







Hyfryd iawn ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog.



 Dyfynnu: 
'Cân y Medd'- Dafydd Iwan ac Ar Log. (Geiriau T. Gwynn Jones)

Yn y mynydd mae'r gerddinen,  yn y mynydd mae'r eithinen,
yng nghwpanau'r grug a hwythau,  haul ac awel dry yn ffrwythau.


28.9.12

Llond y ty o ffa

Dal i fyny efo hen newyddion..

Mi fues i ar y lluarth dydd Sul (bore Sul sych o'r diwedd!) yn clirio'r coed pys, oedd wedi mynd i edrych yn hyll a bler. Doedd neb ond fi ar y rhandiroedd eto...pawb arall yn capal mae'n rhaid.
Mi ges i gnwd golew o bys eto, er bod y rhan fwyaf wedi mynd yn glapia mawr, felly mi wnes i gawl efo nhw. Ddim yn anturus iawn efallai, ond diawl, mae pawb i weld yn ei fwynhau, a dyna sy'n bwysig.  Mi wnes i roi moronen a sibols o'r ardd ynddo hefyd, yn ogystal a'r pods ifanc a dail newydd olaf y planhigion cyn eu tynnu. Chwalu'r cwbl (heblaw’r foronen) wedyn yn y blendar a hidlo'r hylif yn ôl i'r grochan, gan wthio cymaint a fedrwn trwy'r gogor mân.

Roedd hi’n sych yn ddigon hir y diwrnod hwnnw i mi fedru gwneud dipyn o waith yn y rhandir, yr ardd gefn a’r tŷ. Mi fues i’n hel llwyth o ffa melyn hefyd, ac yn rhannu’r gwaith o dynnu’r ffa o’r podiau efo’r genod, tra oedd y Pobydd yn brysur yn paentio’r Lle Molchi. Ar ôl berwi’r ffa yn gyflym -850g ohonyn nhw - a’u hoeri wedyn, mi rois i nhw yn y rhewgell, i’w mwynhau am wythnosau i ddod! Mae o leiaf hynny i’w hel eto fesul dipyn a’u bwyta’n ffresh, neu eu rhewi eto.
 Mae'r ffa dringo yn dwad rwan hefyd: yr ail heuad ydi'r rhain, ar ol colli pob un o'r rhai cynta i falwod ac oerfel. Y ffa hwyr yn golygu osgoi glut o ffa melyn a ffa dringo efo'u gilydd.


Lindys yn ymuno efo'r rhestr hir o bethau sy'n trio bwyta stwff o mlaen i!

Mafon yn dal i ddod, a finna wedi disgwyl gorfod aros tan y flwyddyn nesa cyn cael cnwd. Y rhain yn fwy na'r ffrwythau gawn ni ar y llwyni yn yr ardd gefn.

Sylfaen y cwt cymunedol, wedi'i drefnu gan Y Dref Werdd. Ddim yn siwr -yn niffyg unrhyw gyfathrebu gan bwyllgor y rhandiroedd ers misoedd- ba ddefnydd gawn ni'r deiliaid wneud, o ran cadw offer aballu ynddo, ond un o'i brif fanteision fydd hel dwr ar gyfer y safle.

Ges i gyfle i chwynnu a chlirio yn yr ardd gefn hefyd. Tocio’r coed llus mawr, tocio’r budleia a’r crocosmia, tynnu blodau marw, a chodi moron i de.

Diwrnod prysur, ond diwrnod wrth fy modd.


Mi wnes i waith chydig mwy macho na gwneud cawl hefyd! Llifio a hollti mwy o goed tan, gan ein bod wedi cynnau'r tan ambell i noson bellach.
Y Moelwyn (Mawr) yn gwisgo'i gap: golygfa gyffredin iawn eleni! Copaon Moel yr Hydd (i'r dde), Craig Ysgafn, a'r Moelwyn Bach yn y golwg -o drwch blewyn.





23.9.12

Bara beunyddiol

Mae'n gas gen i fara archfarchnad. Os ydw i'n snob am rywbeth; bara ydi hwnnw. Roedd yn ddiwrnod du i mi pan gauodd siop fara'r teulu Bloor yn Stiniog, ac mae gen i hiraeth o hyd am y torthau amrywiol oedd ar gael yno.


Mae'r Pobydd yn gwneud bara cartra yn weddol reolaidd, ac eisiau datblygu'r diddordeb ymhellach, felly mi fuo'r ddau ohono' ni ar gwrs pobi bara y penwythnos dwytha'! Peth dosbarth canol iawn i'w wneud, dwi'n gwbod, ond roedd yn werth bob eiliad o ymdrech i gyrraedd Dinas Powys, sefyll ar ein traed am wyth awr yn cymysgu a thylino, a gyrru adra wedyn am dair awr ac ugain munud.
Gwaith reit galed ond pleserus iawn. Diolch i Geraint a'i amynedd, mi gawson ni bobi bara efo gwahanol does eples neu pre-ferment, a dod adra efo helfa dda iawn. Mae defnyddio eples neu surdoes (sourdough) yn cynhyrchu bara efo blas dyfnach ac sy'n haws i'r corff ei dreulio, na'r burum sych a chemegau a ddefnyddir mewn ffatrioedd. Mi wnaethon ni foccacia efo nionod a thomatos a feta i ginio hefyd, yn ogystal a byns cyrins a byns cnau-a-siocled!


Un o fy hoff lyfrau ydi 'Tomos o Enlli' gan Jennie Jones, a dwi'n dychwelyd yn aml at ddisgrifiadau Tomos Jones o'i fam yn pobi bara ar yr ynys. Dywed sut oedd yr ynyswyr yn pobi 'bara wedi ei godi hefo burum cartref', 'dyna ichwi fara, bois bach, bara gwerth ei fwyta'.

Trwy gyd-ddigwyddiad, roedden ni wedi gaddo trip i Ynys Enlli fel anrheg penblwydd i dad y Pobydd eleni, ac er fod hynny 'nol ym mis Ebrill, chawson ni ddim mynd tan ddoe. Dyna be oedd dewis lwcus o ddiwrnod, gan i'r haul wenu arnom ni drwy'r dydd.



Môr a mynydd. Cychwyn am adra: cafn Enlli y tu ôl i ni, 
a’r Moelwynion o’n blaen –y mynyddoedd pellaf 
ynghanol y llun.
Dwi wedi bod i Enlli dair gwaith rwan, a taswn i'n foi crefyddol, mi fyswn yn fodlon efo tair pererindod, gan fod hynny gystal bob tamad a mynd i Rufain i edrach am y Pab medden nhw!


Mi fues i yno am wythnos ugain mlynedd yn ol, yn gwneud gwaith gwirfoddol i ymddiriedolaeth yr ynys, yn tyllu, sgwrio, paentio, a thrwsio, efo Gwydion y warden. Mi ddysgis i lawer am be sy'n bwysig yn y byd yr wythnos honno, gan sgwrsio yng ngolau cannwyll gyda'r nos, a mwynhau cwrw cartra Gwydion, heb drydan na theledu i dynnu'r sylw. "Yn y rhannu ma'r plesar 'sti" medda fo wrth imi drio gwrthod gwydriad arall o'i gwrw prin. Ia, gwir y gair.


Tydi o ddim yno bellach, ac mae'r bedair awr a hanner a gewch chi yno ar drip dydd, yn sobor o annigonol, ond roedden nhw'n oriau hyfryd serch hynny. Anodd curo brechdan ar greigiau Porth Nant, a'r tir mawr mor agos, ond y Swnt yn corddi'n fygythiol rhyngtho a'r ynys. Cerdded wedyn hyd yr arfordir a gloynod byw a gwenyn yn gwmni inni,
fel tasen nhw -fel ninnau- yn amau mai dyma'r cyfle olaf i fwynhau'r haul, ar ddiwedd haf na fu.

Nid gwaith medal aur yr artist Elfyn Lewis, ond celf naturiol cerrig a chen arfordir Enlli.