Oherwydd y gyfres o raglenni'n ail-ddangos 'uchafbwyntiau' dros yr haf, roeddwn wedi rhoi'r gorau i recordio'r rhaglen, ac felly mi fethais ddwy bennod ola'r gyfres yn ail hanner Medi.Ar ol i bawb arall fynd i'r gwely heno, i ges i gyfle i ddal i fyny trwy wasanaeth Clic ar wefan S4C.
Rhaglenni gwreiddiol oedd y rhain (pennod 10 ac 11), ac roedd y ddwy raglen yn wirioneddol dda; yn wir, doedd dim un o'r eitemau yn wan.
Mae Russel wedi torri ei wallt ac yn cymryd ei hun ychydig llai o ddifri mae'n ymddangos. Roedd ei wylio'n perfformio 'dawns y tadau' ym mhennod 10, yn ddoniol iawn! Ar ddiwedd y bennod olaf, roedd wyneb Bethan Gwanas (llun uchod) yn amhrisiadwy pan oedd Russel yn bloeddio ei "TA-RAAA" angerddol!
Ym mhennod 11, roedd y darn yn Felin Uchaf, lle'r oedd Russel yn naddu giat o hen dderwen oedd wedi disgyn, yn arbennig o ddifyr. Roedd ei adolygiad o'r flwyddyn ar y 'Patsh' yn werth ei weld hefyd, ond eto, biti na fysa ganddo fwy o amser. Syniad am raglen arbennig yn fy marn i.
Roedd gwylio cyffro Bethan Gwanas wrth ennill efo'i mel yn Sioe Talybont yn wych, a rhywun yn teimlo'i blachder. Mae mwy o fanylion am ei gorchest ar ei blog difyr iawn (dolen ar y dde).
Mi wnes i fwynhau cyfraniadau Sioned hefyd: Twm Elias yn ddifyr a smala fel bob tro wrth drafod perlysiau Canolfan Hanes Uwchgwrfai, ac eitem digon diddorol ar blannu Heucheras mewn basgedi.
Braf iawn oedd gweld mwy o ddefnydd o'r labeli, yn enwi'r planhigion oedd y cyflwynwyr yn cyfeirio atyn nhw hefyd.
Am y tro cynta ers talwm, mi ffeindis i fy hun yn diawlio nad oedd y rhaglen yn awr o hyd yn hytrach na hanner awr. Llongyfarchiadau i'r cynhyrchwyr ar ddwy bennod arbennig; melys moes mwy.
Biti garw fod y gyfres wedi gorffen rwan. Mae'r ddwy bennod ar gael ar Clic, trwy wefan S4C: pennod 10 am dair wythnos, a phennod 11 am bedair wythnos, arall. Os na welsoch chi nhw, brysiwch i'w gwylio, a gadwch imi wybod eich barn.
Ydw i wedi bod yn or-feirniadol o'r rhaglen yn y gorffennol? Ynta', ydi hi wedi gwella'n arw at ddiwedd y gyfres? Dyma edrych ymlaen at bennod y Nadolig, a chyfresi'r dyfodol.
