Yn y gwyllt, mae'r eirin (damsons) gwyllt; eirin tagu; afalau surion; ysgawen; a chnau cyll wedi bod yn reit dlawd. Ond mae un ffrwyth sy'n groes i bob dim arall yn yr ardal hon eleni, sef criafol. Aeron cochion y gerddinen, neu'r goeden griafol. Coeden fynydd, sy'n hardd yn y gwanwyn efo'i blodau, ac yn hardd wedyn, pan mae'n drwm o ffrwythau. Wedi arfer gorfod dygymod a thywydd gwaeth na llawr gwlad, felly bosib fod yr oerfel a rwystrodd beillio coed eraill heb effeithio cymaint arni?
Deg munud gymrodd i hel dau bwys. Mi faswn wedi medru dod adra efo hanner can pwys taswn i eisio.
Union litr ges i y tro 'ma, felly ychwanegu 800g o siwgr, a berwi'n ffyrnig am ddeg munud. Saith o botiau bach yn hen ddigon inni gael rhai yn y cwpwrdd a rhai i'w rhannu.
Tydi o ddim yn stwff i'w fwyta ar dost, am fod blas braidd yn chwerw arno sy' ddim at dant pawb, ond mae o'n dda efo cig oer a chaws.
Nid ein bod wedi mynd heb bethau melys chwaith...

A'r Pry' Llyfr wedi arbrofi efo cacenna' bach, a hufen a siocled.

Hyfryd iawn ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog.
Dyfynnu:
O 'Cân y Medd'- Dafydd Iwan ac Ar Log. (Geiriau T. Gwynn Jones)
Yn y mynydd mae'r gerddinen, yn y mynydd mae'r eithinen,
yng nghwpanau'r grug a hwythau, haul ac awel dry yn ffrwythau.
Erioed wedi arbrofi gyda ffrwyth y gerddinen - ond flwyddyn nesaf gobeithio!
ReplyDeleteTydw i heb wneud ers tua pum mlynedd chwaith, ond mae cymaint o gnwd eleni, byddai'n gywilydd peidio manteisio ar rhywfaint!
DeleteYdi hi'n goeden gyffredin yn Asturias?