Tydi mafon yr hydref ddim yn gynhyrchiol ar y rhandir eleni, ond tydi hi ddim yn ddiwedd y byd, gan fod y mwyar duon yn gwneud yn dda yn yr ardal. Mae'r Fechan a finna wedi hel digon i wneud potiad bach o jam yr wythnos d'wytha, ac mae o wedi mynd yn gyflym iawn. Cawn gyfle eto'r penwythnos nesa 'ma, os cadwith yn sych, i hel cnwd, er mwyn gwneud jeli.Ar hyn o bryd hefyd, mae planhigyn arall sy'n tyfu'n wyllt yn lleol yn llawn ffrwythau cochion tlws; fel goleuadau bach llachar dan ganghennau coeden ddolig. A deud y gwir, dyma'r flwyddyn orau imi weld erioed yma.
Mafon gwin ydi'r ffrwyth -Rubus phoenicolasius. Japanese wineberry ydi'r enw Susnag arno. Dwi'n meddwl mae planhigion wedi denig o ardd sydd yma, neu o gynllun plannu trefol ar gyrion maes parcio neu rywbeth.. ond maen nhw'n blanhigion ymledol iawn, sy'n gwreiddio -fel eu perthynas, mwyar duon- bob tro mae cangen yn cyffwrdd y llawr.
Geiriadur yr Academi sy'n cynnig mafonen win fel enw Cymraeg, ond (er nad ydw i'n gwybod be ydi geneteg y planhigyn, Rubus ydi bob un) mae ei natur tyfu yn debycach i fwyar nag i fafon. Byddai mwyar cochion yn enw addas efallai.. ond dwi ddim yn mynd i golli cwsg dros y peth chwaith!
Bydd yn werth gwneud gwin efo nhw yn y dyfodol e'lla, ond mae nhw'n sicr yn flasus fel pwdin syml.
![]() |
| Gemau cochion. Dyma faint fedrwn gario mewn dwy law, cyn mynd yn ol i hel mwy! |
Hel digon i wneud ychydig botiau o jeli fydd y gamp rwan.
Mae'r Arlunydd wedi dathlu canlyniadau TGAU a phenblwydd ddiwedd Awst. Esgus i'r Pobydd greu campwaith o gacen eto! Ffordd dda iawn hefyd o ddathlu bod y blog wedi cyrraedd cant o ysgrifau!
"Yn olaf", fel maen nhw'n ddeud ar y newyddion... un o ffa Nain a Taid Cae Clyd wedi codi gwen!




.jpg)
.jpg)
.jpg)















