Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

16.8.13

O rwy'n mynd yn ol i Flaenau Ffestiniog


grawnwin Ile de Re
Waeth lle aiff rhywun ar wyliau, mae'n braf cael dod adra tydi. Y Moelwynion a phaned ydi'r pethau cynta' ar fy meddwl wrth gyrraedd copa'r A470 ar y Crimea.

Gwyliau heb gar oedd hwn i fod, ond diolch i amserlenni hurt bost First North Western/Virgin/Railtrack/neu bwy bynnag sy'n taflu rhifau yn yr awyr a'u trefnu nhw ar daflen, doedd hynny ddim yn hawdd.

Er inni deithio pellter o tua 750 milltir i'r pwynt pella', mae gen' i ofn mae'r cymal cyntaf un; ein tren NI,  rheilffordd Dyffryn Conwy, o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno, oedd y drwg.

Mae tren Stinog yn cyrraedd Jyncsiyn chwe munud AR OL i dren Llundain adael! Bler. Diflas. Anfaddeuol a deud y gwir. Doedd cicio sodlau am ddwy awr yn aros am y tren nesa', mor fuan yn y siwrna ddim yn dderbyniol, felly rhaid oedd mynd a'r car i'r Jyncsiyn, a thaid y plant yn dilyn ar y tren (tocyn pensiynwr am ddim: handi!) er mwyn mynd a'r car adra.

Heblaw am hynny, roedd pob trefniant yn hwylus iawn. Roedden ni wedi cyrraedd y gwesty yn Paris yn fuan ar ol chwech o'r gloch. Lle braf ar lan camlas La Villette, a lle poblogaidd am adloniant fin nos.

Cyffordd Llandudno 0940 - 1238 Euston. Virgin.  
>   Tiwb i St. Pancras
>   St. Pancras 1431 - 1747 Gare du Nord, Paris. Eurostar. (Dwy awr a chwarter o daith; troi'r cloc).

< Teithio ar Afon Seine ar y Batobus, -fel eistedd mewn ty gwydr chwilboeth heb chwa o awyr iach.

> Canolfan Pompidou






Ar ol diwrnod/ddau yn chwilio am botel ddwr ratach na 4 ewro, symud ymlaen i'r arfordir:


 Paris Montparnasse 1209 - 1525 La Rochelle. SNCF TGV.  
> Bws dros y bont i ynys Ile de Re (tri chwarter awr). 
> Ar droed i lan y mor (tua 2km, chwarter awr).




Mwynhau wythnos yn fanno, yn diogi a chwarae ar y traeth a chrwydro ar feics; y math na fydden ni eisiau i neb ein gweld ni arnyn nhw adra!


Ynys fechan ydi Ile de Re, ond am yr awyr... dwi ddim yn cofio sylwi ar awyr mor anferthol ers talwm. Y tirlun yn hollol wastad a'r awyr las, glir yn ymestyn i bob cyfeiriad. Hyfryd.



 Teithio'n ol wedyn syth trwadd i Lundain am ychydig ddyddiau dinesig eto.

La Rochelle 0921 - 1253 Montparnasse. 
>   Metro i Gare du Nord.
>  Paris Gare du Nord 1613 - 1739 Llundain.

Y Fechan ar ochr orllewinol y byd, a finna yn y dwyrain. Sefyll bob ochr i'r meridian yn Greenwich sy'n fan cychwyn i fesur pellter ac amser pob lleoliad rownd y ddaear.

Dridiau wedyn: mynd yn ol i Flaenau Ffestiniog. Canu can y Tebot Piws bob hyn a hyn, gan greu embaras i'r plant -fel sy'n ddyletswydd i bob tad cydwybodol!

Euston 1610 - 1858 Cyffordd Llandudno. 
> Adra mewn car, diolch i'r taid arall. 
> Ac yn syth at y teciall!

Roedd y Pobydd a fi wedi treulio mis yn teithio gorllewin Ewrop ar drenau ugain mlynedd a mwy yn ol, ac roedden ni eisiau rhannu rhywfaint o'r profiad efo'r plant. Am nifer o resymau rydan ni wedi dewis peidio hedfan ers blynyddoedd, ac er y byddai'n rhatach mynd ar awyren o Fanceinion i La Rochelle, roedd y tren yn ffordd hwylus a braf o deithio a gweld y wlad (a hefyd caniatau cyfnodau ym Mharis a Llundain bob pen). Mae trenau Ffrainc cymaint gwell na threnau Cymru a Phrydain. Cyflymach; distawach; glanach; mwy cyffyrddus o lawer. Mae hyd yn oed y coffi ar y tren yn arbennig yno! Dwi'n falch inni fynd ar yr antur. Mi gawson ni wyliau cofiadwy iawn.
Wnawn ni o eto? Na, go brin. Dim fel teulu o bump beth bynnag. Gwyliau adra fydd hi'r flwyddyn nesa, a bydd y ddwy hynaf yn gadael y nyth ac eisiau  teithio efo'u ffrindiau yn y blynyddoedd nesa efallai.

Doedden ni ddim yn gwybod am y ddamwain erchyll a fu ar dren yn Galicia nes inni gyrraedd adra, ac mae'n siwr mai da o beth oedd hynny.

Fyddwn i'n annog pawb arall i fynd ar y tren? Yn bendant. Allez!







4 comments:

  1. Anonymous22/8/13 23:16

    Blog difyr - a mi ydan ni'n mynd i Ile re Re wythnos nesaf. Oes gynnoch chi unrhyw tips i ni o ran llefydd da i fwyta allan a phrynu bwyd i fwyta mewn, llefydd da i logi beics, pethau i'w wneud, pethau i'w hosgoi ac yn y blaen? Hedfan i La Rochelle o Gaerdydd fyddwn ni, dau oedolyn ac un hogyn bach dwyflwydd ac yn Le Bois-Plage-en-Ré fyddwn ni'n aros. Unrhyw beth o help. Diolch o flaen llaw. gruffydd55

    ReplyDelete
    Replies
    1. Anonymous22/8/13 23:17

      Diolch gruffydd55. Ger La Noue oedden ni'n aros: rhwng Sainte Marie de Re a Le Bois-Plage en Re. Lle perffaith ym mhob ystyr heblaw un -doedd y traeth [ac ar hyd arfordir y de o'r bont hyd at Les Grenettes] ddim yn dda iawn i nofio oherwydd y creigiau. Gwych ar gyfer hela crancod, a thywod melyn meddal hyfryd ar y traeth ei hun, ond dim cystal yn y m^or. Yn anffodus wnaethon ni ddim mentro i Le Bois Plage, ond efallai ei bod yn well yn fanno.
      Bwyta- am bod pump ohonom ni (un yn blentyn 8 oed eitha' ffysi, ac un arall yn llysieuwraig) roedd yn anodd cael rhywle i blesio pawb felly 'chydig iawn wnaethon ni fwyta mewn bwytai; roedd un neis iawn ar yr harbwr yn Saint Martin de Re, ond mae gen i ofn nad oes yr un ohonom yn cofio enw'r lle! Ym mhentref La Noue roedd marchnad dyddiol ardderchog, efo ffrwythau, llysiau, pysgod cregyn, a charcuterie ac olewyddion aballu. Roedd yno hefyd siop bysgod a dwy boulangerie da iawn. Popeth oedden ni angen o fewn tafliad carreg. Rhaid i mi ddweud mai mewn 'bwyty' pop-up ges i bryd bwyd gorau'r gwyliau. Wrth draeth Montamer, ger La Noue, roedd marchnad hen bethau/cist car ar y dydd Sul, a stondin barbaciw yno hefyd. Mi ges i bump sardin o'r gril, tatws newydd lleol, a bara-menyn am 4 Ewro. Hyfryd iawn. Biti na fysan nhw yno bob dydd. Efallai y bydd yn werth holi yn Le Bois os ydi'r farchnad hen bethau yn ymweld a fanno hefyd? Mi gei di botel o win coch digon blasus am Ewro neu ddwy (o'r archfarchnad), ond gan fod yr ynys yn frith o winllanau, mae'n werth buddsoddi 5E mewn merlot lleol. Y prif gyngor fedrwn i gynnig ydi prynu dy gwrw yn yr archfarchnad ac nid yn y bwytai!
      Beics- gan gwmni Cyclosurf wnaethon ni logi beics, ac mae ganddyn nhw siopau ar hyd a lled yr ynys. Dewis da, ac un i siwtio bawb. Ti'n gweld y staff yn archwilio ac addasu pob beic ar gyfer pawb cyn mynd o'r siop. Gwerth talu un Ewro y dydd yn ychwanegol am insiwrans lladrad -ond yn y print man tydi o ddim yn dy amddiffyn yn llwyr chwaith (ti'n gorfod talu 150E yn hytrach na 400E os oes rhywun yn dwyn dy feic) felly cofiwch gloi (ti'n cael clo efo'r beic) bob tro! Tua 7E y dydd wnes i dalu am bob beic, ond yn werth bob dima' heb unrhyw amheuaeth. Y llwybrau beicio (a'r ffyrdd distaw) oedd prif atyniad yr ynys, yn ogystal a'r ffaith nad oedd prin dim Brits yno (mwy yn St Martin -criw y yacht club) felly roedd yn rhaid gwneud ymdrech i ddefnyddio ein Ffrangeg. A dwi'n meddwl fod y croeso yn well wrth wneud hynny.
      Byswn i wedi hoffi crwydro ochr orllewinol yr ynys, ond bydd yn rhaid aros tan y tro nesa i wneud hynny...
      Ar y dyddiau na fyddwch yn beicio mae'r rhwydwaith bysus bach gwennol -Navettes- yn wych i fynd o le i le. Mae rhai ohonynt am ddim ac eraill ond yn un Ewro yr un i deithio. Mae gwasanaeth bws gwennol sy'n cario beics hefyd (Velo-Mouettes). St Martin yn sicr yn werth hanner diwrnod neu fwy o ymweliad. Y gaer yn safle treftadaeth y byd, ac mae gwylio'r byd yn mynd heibio yn yr harbwr yn braf hefyd, cyn belled a bo'r bychan yn fodlon neu'n cysgu!
      Mwynhewch, a gad inni wybod sut hwyl gawsoch chi. Au revoir.

      Delete
  2. Anonymous23/8/13 21:54

    Diolch yn fawr am yr ateb llawn yna, yn enwedig y cyngor am y llogi beics a ballu. O'n i wedi clywed ei bod hi'n werth mynd i St Martin, ond deud y gwir ryda ni jest yn edrych ymlaen at gael crwydro'r ynys i gyd ar ein beics a gweld lle welan ni. Mae'r stondin sardins ar y dydd Sul yn swnio'n addawol iawn - jest y math o beth sy'n gwneud gwyliau rhywun, dwi'n meddwl. Fysa well i mi drio ymarfer chydig o fy Ffrangeg cyn mynd yno, felly. Diolch eto, Gruff

    ReplyDelete
  3. Croeso. Dwi wedi mwynhau canfod dy flog gyda llaw, ac yn edrych ymlaen i weld os fyddi di'n adolygu bwyd a gwin Ile de Re, pan ddowch chi adra.
    [http://anturiaethaubwydadiod.wordpress.com]

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau