![]() |
| grawnwin Ile de Re |
Gwyliau heb gar oedd hwn i fod, ond diolch i amserlenni hurt bost First North Western/Virgin/Railtrack/neu bwy bynnag sy'n taflu rhifau yn yr awyr a'u trefnu nhw ar daflen, doedd hynny ddim yn hawdd.
Er inni deithio pellter o tua 750 milltir i'r pwynt pella', mae gen' i ofn mae'r cymal cyntaf un; ein tren NI, rheilffordd Dyffryn Conwy, o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno, oedd y drwg.
Mae tren Stinog yn cyrraedd Jyncsiyn chwe munud AR OL i dren Llundain adael! Bler. Diflas. Anfaddeuol a deud y gwir. Doedd cicio sodlau am ddwy awr yn aros am y tren nesa', mor fuan yn y siwrna ddim yn dderbyniol, felly rhaid oedd mynd a'r car i'r Jyncsiyn, a thaid y plant yn dilyn ar y tren (tocyn pensiynwr am ddim: handi!) er mwyn mynd a'r car adra.
Heblaw am hynny, roedd pob trefniant yn hwylus iawn. Roedden ni wedi cyrraedd y gwesty yn Paris yn fuan ar ol chwech o'r gloch. Lle braf ar lan camlas La Villette, a lle poblogaidd am adloniant fin nos.
Cyffordd Llandudno 0940 - 1238 Euston. Virgin.
> Tiwb i St. Pancras
> St. Pancras 1431 - 1747 Gare du Nord, Paris. Eurostar. (Dwy awr a chwarter o daith; troi'r cloc).

< Teithio ar Afon Seine ar y Batobus, -fel eistedd mewn ty gwydr chwilboeth heb chwa o awyr iach.> Canolfan Pompidou
Ar ol diwrnod/ddau yn chwilio am botel ddwr ratach na 4 ewro, symud ymlaen i'r arfordir:
Paris Montparnasse 1209 - 1525 La Rochelle. SNCF TGV.
> Bws dros y bont i ynys Ile de Re (tri chwarter awr).
> Ar droed i lan y mor (tua 2km, chwarter awr).

Mwynhau wythnos yn fanno, yn diogi a chwarae ar y traeth a chrwydro ar feics; y math na fydden ni eisiau i neb ein gweld ni arnyn nhw adra!
Ynys fechan ydi Ile de Re, ond am yr awyr... dwi ddim yn cofio sylwi ar awyr mor anferthol ers talwm. Y tirlun yn hollol wastad a'r awyr las, glir yn ymestyn i bob cyfeiriad. Hyfryd.
Teithio'n ol wedyn syth trwadd i Lundain am ychydig ddyddiau dinesig eto.
La Rochelle 0921 - 1253 Montparnasse.
> Metro i Gare du Nord.
> Paris Gare du Nord 1613 - 1739 Llundain.
Y Fechan ar ochr orllewinol y byd, a finna yn y dwyrain. Sefyll bob ochr i'r meridian yn Greenwich sy'n fan cychwyn i fesur pellter ac amser pob lleoliad rownd y ddaear.
Dridiau wedyn: mynd yn ol i Flaenau Ffestiniog. Canu can y Tebot Piws bob hyn a hyn, gan greu embaras i'r plant -fel sy'n ddyletswydd i bob tad cydwybodol!
Euston 1610 - 1858 Cyffordd Llandudno.
> Adra mewn car, diolch i'r taid arall.
> Ac yn syth at y teciall!
Roedd y Pobydd a fi wedi treulio mis yn teithio gorllewin Ewrop ar drenau ugain mlynedd a mwy yn ol, ac roedden ni eisiau rhannu rhywfaint o'r profiad efo'r plant. Am nifer o resymau rydan ni wedi dewis peidio hedfan ers blynyddoedd, ac er y byddai'n rhatach mynd ar awyren o Fanceinion i La Rochelle, roedd y tren yn ffordd hwylus a braf o deithio a gweld y wlad (a hefyd caniatau cyfnodau ym Mharis a Llundain bob pen). Mae trenau Ffrainc cymaint gwell na threnau Cymru a Phrydain. Cyflymach; distawach; glanach; mwy cyffyrddus o lawer. Mae hyd yn oed y coffi ar y tren yn arbennig yno! Dwi'n falch inni fynd ar yr antur. Mi gawson ni wyliau cofiadwy iawn.
Wnawn ni o eto? Na, go brin. Dim fel teulu o bump beth bynnag. Gwyliau adra fydd hi'r flwyddyn nesa, a bydd y ddwy hynaf yn gadael y nyth ac eisiau teithio efo'u ffrindiau yn y blynyddoedd nesa efallai.
Doedden ni ddim yn gwybod am y ddamwain erchyll a fu ar dren yn Galicia nes inni gyrraedd adra, ac mae'n siwr mai da o beth oedd hynny.
Fyddwn i'n annog pawb arall i fynd ar y tren? Yn bendant. Allez!



