Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

8.8.13

Un geiriosen ni wna bwdin

Mi fu'r clan ar wyliau. Taith anturus ar y tren.
Braf iawn oedd o hefyd: cael anghofio am ddyletswyddau naw-tan-bump, a mwynhau llefydd diarth.

Mae wythnos ola' Gorffennaf ac wythnos gynta' Awst siwr o fod yr adeg gwaetha' posib i arddwr droi cefn ar ei lafur cariad. Cymaint o bethau angen sylw, a phethau i'w hel, ond maen nhw'n ca'l panad yn jel tydyn, felly mae'n iawn i bawb gael hoe weithiau.

Ar gyrraedd adra nos Fawrth, mi es i'n syth allan i arolygu'r ystad. Roedd rhai pethau wedi gorffen, rhai wedi agor; rhai wedi aeddfedu, rhai wedi'u bwyta; ond popeth yn fwy a bleriach.

Roeddwn yn gwybod ers talwm nad oedd cnwd o geirios yn mynd i fod ar y morello eleni, ond mae cyfanswm o un yn arbennig o siomedig tydi! Cywilydd y peth. Dwi wedi tendio a bwydo'r goeden eleni ar ol cael llai na dwsin y llynedd, ond er bod yr amodau blodeuo a pheillio wedi bod yn ardderchog, ychydig iawn o ffrwythau gnapiodd. Disgynodd y cwbl namyn un wedyn! Bosib mai fi dociodd yn anghywir flwyddyn d'wytha? Dwn 'im.

Be am y coed er'ill ta? Ar ol meddwl bod yr afal Enlli wedi mynd i'r gwellt y llynedd, mae hi wedi cynhyrchu dyrnaid o afalau -ond dim ond ar y canghennau chwith. Dim byd ar y dde. Ydw i am roi blwyddyn arall i weld os daw hi at ei hun yn well, yntau rhoi clec iddi? Hmmm...
Eirinen Ddinbych: er ei bod wedi cymryd ei lle yn dda, ac yn ffynnu, daeth dim un blodyn ar y geden eleni, felly dim ffrwyth.
Afal croen mochyn: er cywilydd i mi, mae hon dal yn y twb yn disgwyl imi baratoi'r ddaear i'w phlannu. Dim ffrwyth eto felly.
Ta waeth- fel ddywedis i am siom y ffrwythau llynedd: flwyddyn nesa' efallai!



Y blodau haul wedi mynd heibio'u gorau tra'r oedden ni oddi cartra'. Ond yn dal i ddenu gwenyn mel o rywle.


Blodau gwynt Siapan ar eu hanterth i'n croesawu adra, a'r cacwn wrthi fel lladd nadroedd yn hel y paill melyn.



Addewid o gnwd eitha' da o domatos, yn profi bod dyfal donc yn gallu talu... yr haf sych wedi cadw'r gwaetha' o'r ffwng draw hyd yma.




Y gloynod gwynion dal wrthi ar y bresych... y peth ola' wnes i cyn gadael oedd adeiladu ffram a rhwyd dros y bresych a'r sbrowts, ond roedd y planhigion wedi llenwi'r gofod yn y pythefnos fuon ni o'ma. Bob man oedd deilen yn cyrraedd y rhwyd, roedd y tacla wedi medru dodwy!


Yn wahanol i'r ffrwythau 'coed', mae'r cyrins wedi gwneud yn dda. Tra oedden ni i ffwrdd, bu teidiau a neiniau'r genod yn dyfrio'r ardd a'r rhandir; yn hel courgettes a blodau pys per a ffrwythau meddal; ac yn tynnu malwod a lindys ar ein rhan chwarae teg.

Mae pwysi o gyrins yn y rhewgell rwan yn barod i'w trin. Ar ol diwrnod/ddau arall o ymlacio, mi drown ein sylw at jam aballu mae'n siwr. Roeddwn wedi hel y gwsberins a'u stiwio cyn mynd, a hwnnw hefyd wedi'i rewi.



Mi godais gopi o'r Cymro (rhifyn 2il Awst) drannoeth y dychwelyd, a chael syrpreis braf.
Diolch i Gerallt Pennant am gyfeirio'n garedig at y blog yma yn ei golofn arddio wythnosol. Da fyddai gweld ei erthyglau o wedi eu casglu ynghyd ar wefan Y Cymro er mwyn medru cyfeirio 'nol atynt, yn niffyg llyfrau garddio modern yn y Gymraeg. Tydi adran 'Colofnwyr' y wefan heb ei diweddaru ers bron i ddwy flynedd mae gen' i ofn.
Neu beth am eu rhoi ar blog GP? Edrych ymlaen!




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau