Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.6.13

Blas mwy

Wilias ydw i, a dwi'n gaeth i riwbob!

Mae o mor hawdd i'w dyfu tydi. Does dim angen gwneud dim byd, heblaw roi 'chydig o wrtaith ar wyneb y pridd cyn y gwanwyn, ac mae'n dod a chnwd dda bob blwyddyn.


A dwi isio mwy. 


Mae tri planhigyn yma. Un yn ddarn o wraidd gan fy nhad; un yn ddarn o wraidd gan ffrind yn y gwaith; ac un a brynais y llynedd. 

Iawn, yn fotanegol, llysieuyn ydi rhiwbob, ddim ffrwyth, ond wfft i'r chefs posh 'ma sy'n paldaruo fod o'n mynd yn dda efo mecryll aballu: pwdin dwi isio siwr iawn!


A jam! Wnes i erioed jam rhiwbob o'r blaen, am nad ydw i'n cadw digon ohono wrth bobi crymbls a stiws ac ati mae'n siwr, ac am bod pot yn dod yn flynyddol gan Nain a Taid Rhiwbach. Ond roedd mwy na'r arfer o gnwd eleni felly dyma roi cynnig arni.

Mae o'n ddiawledig o anodd i'w gael i setio heb ychwanegu pectin medden nhw (doedd dim un o siopau Stiniog yn gwerthu siwgr efo pectic a doeddwn i ddim am wneud siwrna arbennig), felly mi rois sudd lemon ynddo i drio. Fedrwn i ddim yn fy myw a chael y gymysgedd i gyrraedd y 104 gradd angenrheidiol, ac mi ferwis i o'n galed am ddwywaith yr amser oedd y llyfrau'n awgrymu, er mwyn ei gael i setio'n weddol.


Dew, mae o'n dda. Mor dda fel 'mod i'n fwy cyndyn na'r arfer i rannu potiau efo'r teulu estynedig, ond yn y rhannu mae llawer o'r pleser yn de (damia!), felly allan o 4 pwys o riwbob, mae un pot pwys ar y bwrdd, a thri arall yn y cwpwrdd.

Mi gawson ni grymbl hefyd; ac efo coesau pinc neis o riwbob ddaeth yn gynharach o ardd Nain a Taid Cae Clyd, stiw hyfryd i fynd efo hufen ia a iogwrt.


Mae un cnwd bychan i'w hel eto mae'n siwr, ond joban bwysig heddiw oedd torri'r blodyn oedd wedi tyfu ar un o'r planhigion. Welais i erioed flodyn ar un o'r blaen, ac er fod J.E.Jones (Llyfr Garddio. 1969) yn ein cynghori i docio blodau 'yn y bo^n y cyfle cyntaf',  dwi wedi gadael iddo ddatblygu er mwyn cael ei weld. Roedd y Fechan wrth ei bodd ei fod o'n dalach na hi, ac roedd y blodau bach yn drawiadol o hardd wrth edrych yn fanwl. Ond roedd yn rhaid ei dorri cyn iddo ddwyn gormod o egni a maeth o'r gwraidd.


Hen dro fod y tymor rhiwbob mor fyr, ond dioch i'r drefn am jam a rhewgelloedd!

5.6.13

Ag un cam mae dechrau taith

Efo'r ddwy hynaf yn eu harddegau, mae'n anoddach erbyn hyn eu llusgo allan am dro efo'u rhieni! Ond erbyn diwedd yr wythnos o wyliau hanner tymor, mi fu'n rhaid i'r genod adael y nofel/ipod/teledu er mwyn dod efo fi i'r rhandir i weld be oedd yn mynd ymlaen.


Dim llawer! Felly dyma ddal y bws clipa bach i gaffi Mari, bwyta hufen ia ar lan Llyn Tangrish, a bownsio cerrig ar y dwr. Er styfnigo yn erbyn 'mynd-am-dro', rhowch ddarn o laswellt i ferched ac mi dreulian nhw (ia, iawn, a fi hefyd..) oriau yn creu cadwyni efo blodau llygad y dydd, a rhedeg ar ol gloynod byw. Maen nhw weithiau yn cyfaddef eu bod nhw wedi cael hwyl hefyd!


Wrth inni gerdded 'nol adra heibio Dolrhedyn a thrwy Tanygrisiau, gan lolian a sgwrsio, roedd yn anodd osgoi'r teimlad nad oes llawer o hafau ar ol cyn eu bod wedi gadael y nyth a dechrau'r daith i weld y byd. Dyna bwysigrwydd treulio amser efo nhw rwan a mwynhau'r presennol. Mae gweld dy blant yn magu annibynniaeth yn destun balchder, a 'chydig bach o dristwch fel eu gilydd tydi.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, mi fuon ni i gyd, gan gynnwys y Pobydd y tro 'ma, am dro at y Rhaeadr Fawr yng ngwarchodfa natur Coedydd Aber. Lle arbennig iawn, er bod gormod o bobl wedi mynd yno i wagio'u cwn. Mi gawson ni bicnic yn yr haul wrth droed y rhaeadr, ac mi dreuliodd y fechan a fi oes yn croesi cerrig yr afon, a dringo creigiau.

Mwynhau lemoned cartra a chacenni da yn yr Hen Felin yn Abergwyngregyn wedyn cyn troi am adra. Blasus iawn.





Gwaetha'r modd, mae gwyliau wastad yn rhy fyr, a daeth yn amser i bawb ddychwelyd i'r gwaith a'r ysgol, ond o leia' mae'n braf yr wythnos hon, a digon o amser i fwynhau cwmni'n gilydd yn yr ardd cyn i'r haul suddo tu ol i Graig Nyth y Gigfran.




(Wedi sylwi bod y llun yma'n aneglur uchod, felly dyma'i roi eto, gan fod y geiriau'n werth eu darllen ac yn berthnasol iawn i lawer o be dwi'n son amdanynt.)


29.5.13

Pythefnos

Mae pythefnos yn amser hir mewn garddwriaeth... fel'na mae'r frawddeg yn mynd, 'ta fi sy' di drysu?
Bu hwyl, gwyl a gwaith; arholiadau'r plant, man-ffliw a sbamiwrs yn fy nghadw rhag blogio, ac yn ystod y bythefnos, mi gawson ni haul tanbaid, glaw trwm, cenllysg ac eira. Ond er gwaethaf pawb a phopeth, dyma ddod 'nol at ychydig o fwydro eto!

Mae rhai o'r blogwyr eraill dwi'n ddilyn wedi arafu dros y gwanwyn hefyd. Prysur yn yr ardd efallai.

Ychydig iawn dwi wedi'i wneud ar y rhandir hyd yma eleni, oherwydd y traed moch o joban a wnaed ar y draenio a'r llwybrau, ond mwy am hynny rywbryd arall efallai.    Dwi wedi gwneud dipyn yn yr ardd gefn ar y llaw arall.

O'r diwedd aeth y tatws i'r pridd, yn hwyr yn ol fy arfer! Bu'r Fechan yn helpu'n ddiwyd, ac yn y broses cafodd y ddau fath o datws had oedd wedi bod ar sil ffenast y gegin yn egino ers mis, eu cymysgu wrth eu plannu. Mi fuo ni'n chwerthin yn iawn ar ol sylwi: be ddian di'r ots yn de..


Tatws salad Charlotte oedd un math, a thatws hwyr Sarpo Miro oedd y lleill. Mae'r ail i fod i wrthsefyll yr haint sy'n taro bob blwyddyn gan fod Stiniog yn lle sydd ychydig bach yn wlyb! Eto eleni, maen nhw wedi eu rhoi mewn tyllau unigol. Mae hyn wedi gweithio'n iawn i mi bob tro, ac mae'n dipyn llai o waith na thyllu ffos i'w plannu nhw.




Mi godis i hanner dwsin o datws gwyllt (rhai o'n i wedi eu methu wrth godi tatws llynedd) oedd yn tyfu yn y gwely canol, a chwysu wrth godi gwreiddiau gwair a marchrawn, nes cael y gwely i'r cyflwr uchod. Dwi wedi arbrofi efo'r hau yn y gwely yma eleni.

Yn ystod dyddiau gwlyb y bythefnos d'wytha, dwi wedi bod yn darllen am ddull diddorol o drin tir yn Awstria. Mae Sepp Holzer* yn enw adnabyddus yn y byd paramaethu, neu permaculture, ac mae o wedi fy rhyfeddu i be mae o wedi gyflawni ar ei fferm sy'n ymestyn o 1,100 metr uwchben y mo^r (1085m ydi'r Wyddfa cofiwch) hyd at 1,500m, gan gynnwys tyfu ceirios a phwmpenni a gwenith ac amrywiaeth anhygoel o gnydau eraill. Be ddiawch ydw i'n gwyno am drafferthion garddio ar uchder o 230m?

Un o'r pethau diddorol mae'n wneud ydi hau bob math o bethau efo'u gilydd er mwyn dynwared yn well sut mae planhigion yn tyfu yn y gwyllt. Dwi wedi hau cymysgedd o letys a deiliach eraill, ynghyd a moron, panas, radish a betys, a'r syniad ydi hel a theneuo'r dail wrth i'r haf fynd yn ei flaen a hel y pethau eraill fesul dipyn wrth iddynt aeddfedu. Bydd gorchudd o dyfiant ar y gwely cyfan trwy'r adeg, ac felly ni fydd angen dyfrio na chwynnu cymaint a gwely traddodiadol. Mae gen' i ddigon o le rwan ar y rhandir os ydw i eisiau tyfu rhesi taclus o lysiau.

Mae'r larfau llifbryf  wedi dechrau ymddangos ar y coed gwsberins heddiw, ac mae ambell i bryfyn arall wedi galw acw:
 Un o'r chwilod hirgorn ydi hon, Rhagium bifaciatum efallai, sy'n gysylltiedig fel arfer efo coed conwydd meirwon.

Yn y bythefnos d'wytha dwi wedi bod yng Ngwyl Cwrw ar y Cledrau, yn mwynhau Cwrw Coch gan fragdy newydd Cwrw Cader; Cochyn, a Seithenyn (Cwrw Lly^n); Cwrw Du'nbych (Bragdy Dinbych) a mwy. Fel llynedd: cwrw da, cwmni da, a'r Moniars -wel, mae dau allan o dri yn reit dda tydi eto.



Ges i noson wrth fy modd yn gwylio gig gomedi gan Noel James hefyd, oedd wedi ymweld a Stiniog sawl gwaith yn ddiweddar er mwyn paratoi deunydd newydd ar gyfer y gynulleidfa leol. Mae o'n feistr ar y grefft o chwarae clyfar ar eiriau ac idiomau, ac roedd yn wych cael noson Gymraeg ganddo. Roedd Radio Cymru'n recordio yno, a dwi'n edrych ymlaen i glywyed y rhaglen. Dyma lun sal iawn o'r noson.



Ty Hansel a Gretel gan y Fechan!






Dwi wedi bwyta fel brenin yn ystod y cyfnod rhwng bod y letys a'r rocet wedi ffrwydro yn yr ardd, a'r craf (neu'r garlleg gwyllt) wedi bod yn doreithiog, a'r Pobydd a'r genod yn baglu dros eu gilydd -mae'n hanner tymor wedi'r cwbl- i bobi cacennau a chrempogau aballu.







 



Mae rhaglenni radio Lisa Gwilym, Georgia Ruth, a Sesiwn Fach wedi plesio'n ddiweddar, ac mi fydd yn chwith rwan ar ol i gyfres Gwaith/Cartref orffen yn rhy fuan o lawer eto ar S4C.

Mae albwm newydd hyfryd Georgia Ruth -Week of Pines- yn mynd rownd a rownd acw ar y funud, a cha^n Blanche Rowen- 'Mae'r Ddaear yn Glasu' yn hyfryd hefyd (gwrandwch am ddim ar Soundcloud) ac yn addas iawn ar gyfer y gwanwyn.

Tydi rhaglenni'r BBC o Sioe Arddio Chelsea heb blesio bob tro; mae 'na ormod o grafu tinau selebs a ma^n-uchelwyr wedi bod, a chyfweliadau arwynebol, rhy fyr o lawer. Dwi dal heb eu gwylio i gyd ond mae pymtheg awr o Alan Titchmarsh yn ormod o bwdin braidd. Biti na fyddai'r BBC neu S4C yn gwario mymryn o bres ar raglenni garddio yn Gymraeg. Dwi chydig yn genfigennus o Ann, o flog Ailddysgu, fu yno. Byswn i wedi hoffi gweld gardd y brodyr Rich, 'Un Garreg' a gafodd fedal aur ar eu cynnig cyntaf, ac hefyd stondin Fferm Crug a gafodd aur.
Arian gafodd ymdrech y Gerddi Botaneg Cenedlaethol. Mi ges i rant bach am hyn yn y darn am Sioe Arddio Caerdydd fis yn ol, felly taw pia hi rwan.

'Nol adra, mae'r rhiwbob wedi ffrwydro, a'r gwsberins a'r cyrins wedi cnapio; y coed afal, gellyg a cheirios wedi blodeuo, a llawer iawn i edrych ymlaen ato yn y bythefnos nesa' rwan. Mi driaf sgwennu rhywbeth eto cyn pen hynny, ond hwyl am y tro.




*'Sepp Holzer's Permaculture'. 2012. Permanent Publications. 
Chwiliwch am KRAMETERHOF ar YouTube i gael blas o'r hyn mae'n wneud.





13.5.13

Dydd Lluniau

 Mi fues i'n arbrofi efo newid gwedd y blog i rywbeth mae Blogger yn alw'n 'dynamic view' a bron a gwneud traed moch o bethau! Rhag eich diflasu efo manylion, digon ydi deud imi orfod ail osod lled a lliw a siap a steil y tudalennau. Peth peryg ydi hanner-gwybod be ti'n wneud yn de!

P'run bynnag, mi fues i allan rhwng cawodydd dros y penwythnos yn tynnu lluniau.

Dwi wedi bod yn ddiog dros y blynyddoedd, heb gadw cofnod o be gafodd ei blannu, yn lle. Ac mae 'nghof i'n rhy anobeithiol i fedru dibynnu ar hwnnw. Daeth yn hen bryd imi sgriblo cynllun o'r ardd ar bapur felly. Pan fydda'i wedi cael trefn ar y sgwigls, mi ro'i gopi o'r cynllun ar dudalen newydd, ynghyd a chynllun o'r rhandir.

Mae ambell i flogwraig a blogiwr yn cael cythral o hwyl ar osod lluniau mewn ffordd ddeniadol a chlyfar, ac mae'n ymddangos fod Wordpress yn cynnig mwy o ryddid i'w ddefnyddwyr chwarae efo dulliau amrywiol o ddangos lluniau. Dwi wedi gwneud hyn trwy bastio a gosod yn Word, wedyn ei agor efo Paint a'i gadw fel jpeg. Mae'n siwr fod ffordd haws o'i wneud o, ond efo'r plant wedi mynd i'w gw'lau, doedd gen' i ddim clem sut i fynd ati!


O'r canol wedyn rownd y cloc o hanner nos:
Briallen bom-pom (Primula denticulata); Mari lygatlas (Omphalodes Cherry Ingram); Tormaen Highlander Red; eglyn Dewi (Chrysosplenium davideanum); chweinllys (Pericallis x hybrida); Heloniopsis orientalis var. breviscapa; blodyn ewyn (Tiarella spring symphony).

Wedi methu cael hyd i enw cyffredin ar gyfer yr Heloniopsis. Meithrinfa arbennigol Fferm Crug, sydd wedi dod a fo i Gymru o lethrau llosgfynydd yn Japan, ac mae o'n blanhigyn rhyfeddol.






28.4.13

Dechrau eto

Ai dyma'r adeg orau o'r flwyddyn i chi? Dwi rhwng dau feddwl.


Y cyfnod byr hwnnw rhwng cyffro yr hau a boddhad yr egino; a siom anochel yr haf, lle mae gobaith yn gallu troi yn dorcalon yn sgil ymgyrchoedd ar y cyd rhwng y tywydd a'r malwod a'r llygod a'r lindys!



Mae gweld silffoedd yn llawn o egin-blanhigion yn werth chweil tydi. Rhesi o bethau bach brwdfrydig, bron a thorri eu bolia' isio gael eu traed yn y pridd.

Ffa melyn; ffa dringo; pys; pys per; letys a rocet; blodau haul. Wedi eu hau ar Ebrill y 4ydd.

Rhywbeth i'w edmygu. Rhywbeth dros dro!

Ta waeth, mae'n rhaid cadw'r ffydd, a dal i gredu... dyna pam 'dan ni'n dal ati wrth gwrs. Y pethau diweddaraf i'w hau dan do ydi ffa piws (Cosse violette), pys melyn/india corn (double standard bicolor), er gwaethaf methiant llwyr y llynedd, aeron goji, pwmpenni gaeaf (Burgess buttercup); ac ambell beth a brynais yn Sioe Arddio Caerdydd fel courgettes du (dark fog), a phwmpenni glas (crown prince). Eto, methiant llwyr oedd pob un pwmpen y llynedd, ond dyfal donc a dyrr y garreg. Ar ffenest y gegin mae'r pys melyn am fod angen 18 gradd o dymheredd i egino. Beryg fod y pwmpenni yr un fath ond does dim lle i bopeth yn y ty.


Mae'r Pobydd wedi prynu dau blanhigyn tomatos. Ar ol cyfres o hafau gwlyb, roeddwn i wedi llyncu mul efo tomatos, a wnes i ddim eu tyfu y llynedd. Roedden nhw'n cael y clwy tatws bob haf (yn y ty gwydr; dim gobaith eu tyfu yn yr awyr agord yma), a'r ymdrech o'u tendio yn llawer mwy na'r wobr bob tro. Beth bynnag, mae Acw am ofalu amdanyn nhw y tro yma, felly mae angen i mi glirio 'chydig o le iddyn nhw a'u plannu ar ei chyfer hi.
Mint (basil mint) ydi'r pot canol. Rhywbeth arall i mi ei ladd!


 Dim ond tair britheg (Fritillaria) ddaeth allan eleni. Mae llygod yn hoff iawn o'u bylbiau nhw yma, a bylbiau clychau dulas (Muscari) a dim ond dyrnaid o'r rheiny sydd wedi dod eleni hefyd.


Mae gan Ann lun o goeden gellyg yn llawn blodau ar ei blog Ailddysgu. Argian dwi'n genfigenus! Dim ond dechrau magu dail mae'r ddwy ellygen sydd acw. Y goeden afal Enlli (isod) sydd bellaf yn ei blaen yma.

Erbyn dechrau Gorffennaf y llynedd roeddwn yn amau fod popeth 20 diwrnod yn hwyrach na 2011. Hyd yma eleni, dwi'n meddwl fod pethau tua 14 diwrnod yn hwyrach eto...


Mae'n tywallt y glaw heddiw. Diolch i'r drefn, mi gawsom ni ddiwrnod braf ddoe i groesawu Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd i Stiniog. Mwy o'r hanes ar wefan y papur bro lleol, Llafar Bro.