Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label Gwyn Thomas. Show all posts
Showing posts with label Gwyn Thomas. Show all posts
15.4.16
#GwynThomas: 'Ple heno yr wyt ti?'
Ar brynhawn noeth yn y gaeaf
Fe welwch freichled o dref ar asgwrn y graig.
-Gwyn Thomas, 'Blaenau'. Cyfrol Ysgyrion Gwaed, Gwasg Gee, 1967
Diolch am yr angerdd, Gwyn, a diolch am y bennawd.
Mae teyrnged ar wefan papur bro Stiniog a'r cylch na fedra' i wella arni, felly taw pia hi am rwan, ond bydd colled ar ei ôl yma yn ei filltir sgwâr.
Vivian Parry Williams yn holi Gwyn Thomas mewn neuadd lawn ar noson lansio'i lên-gofiant, 'Llyfr Gwyn', nôl yn Nhachwedd 2015 yn Stiniog.
5.6.13
Ag un cam mae dechrau taith
Efo'r ddwy hynaf yn eu harddegau, mae'n anoddach erbyn hyn eu llusgo allan am dro efo'u rhieni! Ond erbyn diwedd yr wythnos o wyliau hanner tymor, mi fu'n rhaid i'r genod adael y nofel/ipod/teledu er mwyn dod efo fi i'r rhandir i weld be oedd yn mynd ymlaen.Dim llawer! Felly dyma ddal y bws clipa bach i gaffi Mari, bwyta hufen ia ar lan Llyn Tangrish, a bownsio cerrig ar y dwr. Er styfnigo yn erbyn 'mynd-am-dro', rhowch ddarn o laswellt i ferched ac mi dreulian nhw (ia, iawn, a fi hefyd..) oriau yn creu cadwyni efo blodau llygad y dydd, a rhedeg ar ol gloynod byw. Maen nhw weithiau yn cyfaddef eu bod nhw wedi cael hwyl hefyd!
Wrth inni gerdded 'nol adra heibio Dolrhedyn a thrwy Tanygrisiau, gan lolian a sgwrsio, roedd yn anodd osgoi'r teimlad nad oes llawer o hafau ar ol cyn eu bod wedi gadael y nyth a dechrau'r daith i weld y byd. Dyna bwysigrwydd treulio amser efo nhw rwan a mwynhau'r presennol. Mae gweld dy blant yn magu annibynniaeth yn destun balchder, a 'chydig bach o dristwch fel eu gilydd tydi.
Ddeuddydd yn ddiweddarach, mi fuon ni i gyd, gan gynnwys y Pobydd y tro 'ma, am dro at y Rhaeadr Fawr yng ngwarchodfa natur Coedydd Aber. Lle arbennig iawn, er bod gormod o bobl wedi mynd yno i wagio'u cwn. Mi gawson ni bicnic yn yr haul wrth droed y rhaeadr, ac mi dreuliodd y fechan a fi oes yn croesi cerrig yr afon, a dringo creigiau.
Mwynhau lemoned cartra a chacenni da yn yr Hen Felin yn Abergwyngregyn wedyn cyn troi am adra. Blasus iawn.
Gwaetha'r modd, mae gwyliau wastad yn rhy fyr, a daeth yn amser i bawb ddychwelyd i'r gwaith a'r ysgol, ond o leia' mae'n braf yr wythnos hon, a digon o amser i fwynhau cwmni'n gilydd yn yr ardd cyn i'r haul suddo tu ol i Graig Nyth y Gigfran.
(Wedi sylwi bod y llun yma'n aneglur uchod, felly dyma'i roi eto, gan fod y geiriau'n werth eu darllen ac yn berthnasol iawn i lawer o be dwi'n son amdanynt.)
27.8.12
Glaw; mi ddaw fel y mynn
Gŵyl banc gwlyb arall; dim byd yn newydd yn hynny! Roedd Dydd Sul yn eitha’
braf o leia, ac mi ges i gyfle i glirio’r gwely tatws yn yr ardd gefn, a hau
rhesi o ddail salad yno. Dwi wedi tynnu rhwyd dros y cwbl wedyn i warchod rhag
y cathod sy’n felltith yma. Cnwd tatws difrifol o sâl ges i eleni, efo pob un
o'r gwlydd wedi dioddef blight. Dim ond dwy dysan gwerth eu cadw ges i o ambell
wlyddyn, a’r lleill yn rhy fân.
Mi fuo ‘na storm fellt wych yma nos Wener, a’r drws cefn yn clecian ac ysgwyd efo bob taran, a’r glaw yn hyrddio’r ffenestri. Bore trannoeth roedd y rhandir fel pwll. Mae prif lwybrau’r rhandiroedd yn gwaethygu. (Tydi teiar fflat ar y ferfa ddim yn helpu chwaith!) Mae tri o’r pedwar rhandir sy’n ddibynnol ar lwybr salaf y safle yn parhau heb eu trin, (fi sydd ar y llall), a dwi’n eitha’ sicr fod cyflwr y llwybr wedi cyfrannu at ddiffyg gweithgaredd arnynt.
Bnawn Sadwrn, mi fuon ni yng Nghaergybi, yn mwynhau barbaciw yn yr haul.
Ia, haul! Roedd hi wedi bod yn pigo bwrw yn Stiniog cyn i ni gychwyn, ac roedd
hi fel nos yn Nyffryn Ogwen dan gymylau duon bygythiol iawn. Erbyn croesi cob
Ynys Gybi, roedd yr awyr yn las. ¡#*¤!
Mae’n ddigon i yrru rhywun i regi... Ta waeth, mi gawson ni bnawn hyfryd yng
nghwmni’r teulu estynedig, er ‘mod i’n genfigennus iawn o’u agapanthus anferth
nhw, a’n rhai ni nunlle agos i flodeuo ar hyn o bryd!
Tair blynedd yn
ôl, mi fuon ni fel teulu ar Ynys Skye am wyliau, a chael glaw bob dydd. Y
llynedd mi aethom ni i Lydaw a chael glaw yn fanno am ddeuddydd cynta’r
wythnos. Fel wnes i ddyfynnu yn fy mlog cyntaf un, mae’n beryg fod y bardd Gwyn
Thomas yn reit agos ati wrth awgrymu bod pobl y Blaenau ‘wedi eu tynghedu i fod
yn wlyb’!
Tra'n mochel
rhag y glaw efo gwydriad o seidar yn Llydaw, mi ddarllenais am y Santig Du
(Sant Bach Du) yn eglwys gadeiriol Kemper. Roedd yn arferiad gan bobl y fro
honno fynd a bara at ddelw y sant, ar gyfer y tlodion, yn gyfnewid am ffafrau
syml. Doedd y Santig Du ddim yn un am gynnig gwyrthiau anhygoel, ond os oeddech
chi eisiau dymuno taith ddiogel adre’ i rywun, neu dywydd da ar gyfer y
cynhaeaf; fo oedd y boi i chi. Mi aethom ni felly ar bererindod i gyfarch y
Santig Du yn yr eglwys hardd: gadael darn o baguette iddo (ac un Ewro yn y
blwch i fod yn saff), a gofyn am dywydd gwell. Coeliwch neu beidio, roedd
gweddill yr wythnos yn hyfryd a phoeth!
Un diwrnod, roedden ni ar ben goleudy Penmarc’h, yn methu gweld y môr wrth
ei droed oherwydd y glaw a’r niwl, a’r diwrnod canlynol roedden ni’n torheulo
yn y môr.
Mi ‘da ni wedi
mabwysiadu’r Santig Du ers hynny, gan ddod a llun ohono adra i Gymru, i’w osod
ar ochr y gist fara yn y gegin. Tydi’r cr’adur ddim yn teithio’n dda yn amlwg,
oherwydd fedra’i ddim yn fyw myw a’i gael o i wella tywydd Stiniog!
[Dyfynnu: "Glaw; mi ddaw fel y mynn" allan o 'Blaenau', Gwyn Thomas]
Subscribe to:
Posts (Atom)


.jpg)
.jpg)
.jpg)
.jpg)