Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.5.13

Pythefnos

Mae pythefnos yn amser hir mewn garddwriaeth... fel'na mae'r frawddeg yn mynd, 'ta fi sy' di drysu?
Bu hwyl, gwyl a gwaith; arholiadau'r plant, man-ffliw a sbamiwrs yn fy nghadw rhag blogio, ac yn ystod y bythefnos, mi gawson ni haul tanbaid, glaw trwm, cenllysg ac eira. Ond er gwaethaf pawb a phopeth, dyma ddod 'nol at ychydig o fwydro eto!

Mae rhai o'r blogwyr eraill dwi'n ddilyn wedi arafu dros y gwanwyn hefyd. Prysur yn yr ardd efallai.

Ychydig iawn dwi wedi'i wneud ar y rhandir hyd yma eleni, oherwydd y traed moch o joban a wnaed ar y draenio a'r llwybrau, ond mwy am hynny rywbryd arall efallai.    Dwi wedi gwneud dipyn yn yr ardd gefn ar y llaw arall.

O'r diwedd aeth y tatws i'r pridd, yn hwyr yn ol fy arfer! Bu'r Fechan yn helpu'n ddiwyd, ac yn y broses cafodd y ddau fath o datws had oedd wedi bod ar sil ffenast y gegin yn egino ers mis, eu cymysgu wrth eu plannu. Mi fuo ni'n chwerthin yn iawn ar ol sylwi: be ddian di'r ots yn de..


Tatws salad Charlotte oedd un math, a thatws hwyr Sarpo Miro oedd y lleill. Mae'r ail i fod i wrthsefyll yr haint sy'n taro bob blwyddyn gan fod Stiniog yn lle sydd ychydig bach yn wlyb! Eto eleni, maen nhw wedi eu rhoi mewn tyllau unigol. Mae hyn wedi gweithio'n iawn i mi bob tro, ac mae'n dipyn llai o waith na thyllu ffos i'w plannu nhw.




Mi godis i hanner dwsin o datws gwyllt (rhai o'n i wedi eu methu wrth godi tatws llynedd) oedd yn tyfu yn y gwely canol, a chwysu wrth godi gwreiddiau gwair a marchrawn, nes cael y gwely i'r cyflwr uchod. Dwi wedi arbrofi efo'r hau yn y gwely yma eleni.

Yn ystod dyddiau gwlyb y bythefnos d'wytha, dwi wedi bod yn darllen am ddull diddorol o drin tir yn Awstria. Mae Sepp Holzer* yn enw adnabyddus yn y byd paramaethu, neu permaculture, ac mae o wedi fy rhyfeddu i be mae o wedi gyflawni ar ei fferm sy'n ymestyn o 1,100 metr uwchben y mo^r (1085m ydi'r Wyddfa cofiwch) hyd at 1,500m, gan gynnwys tyfu ceirios a phwmpenni a gwenith ac amrywiaeth anhygoel o gnydau eraill. Be ddiawch ydw i'n gwyno am drafferthion garddio ar uchder o 230m?

Un o'r pethau diddorol mae'n wneud ydi hau bob math o bethau efo'u gilydd er mwyn dynwared yn well sut mae planhigion yn tyfu yn y gwyllt. Dwi wedi hau cymysgedd o letys a deiliach eraill, ynghyd a moron, panas, radish a betys, a'r syniad ydi hel a theneuo'r dail wrth i'r haf fynd yn ei flaen a hel y pethau eraill fesul dipyn wrth iddynt aeddfedu. Bydd gorchudd o dyfiant ar y gwely cyfan trwy'r adeg, ac felly ni fydd angen dyfrio na chwynnu cymaint a gwely traddodiadol. Mae gen' i ddigon o le rwan ar y rhandir os ydw i eisiau tyfu rhesi taclus o lysiau.

Mae'r larfau llifbryf  wedi dechrau ymddangos ar y coed gwsberins heddiw, ac mae ambell i bryfyn arall wedi galw acw:
 Un o'r chwilod hirgorn ydi hon, Rhagium bifaciatum efallai, sy'n gysylltiedig fel arfer efo coed conwydd meirwon.

Yn y bythefnos d'wytha dwi wedi bod yng Ngwyl Cwrw ar y Cledrau, yn mwynhau Cwrw Coch gan fragdy newydd Cwrw Cader; Cochyn, a Seithenyn (Cwrw Lly^n); Cwrw Du'nbych (Bragdy Dinbych) a mwy. Fel llynedd: cwrw da, cwmni da, a'r Moniars -wel, mae dau allan o dri yn reit dda tydi eto.



Ges i noson wrth fy modd yn gwylio gig gomedi gan Noel James hefyd, oedd wedi ymweld a Stiniog sawl gwaith yn ddiweddar er mwyn paratoi deunydd newydd ar gyfer y gynulleidfa leol. Mae o'n feistr ar y grefft o chwarae clyfar ar eiriau ac idiomau, ac roedd yn wych cael noson Gymraeg ganddo. Roedd Radio Cymru'n recordio yno, a dwi'n edrych ymlaen i glywyed y rhaglen. Dyma lun sal iawn o'r noson.



Ty Hansel a Gretel gan y Fechan!






Dwi wedi bwyta fel brenin yn ystod y cyfnod rhwng bod y letys a'r rocet wedi ffrwydro yn yr ardd, a'r craf (neu'r garlleg gwyllt) wedi bod yn doreithiog, a'r Pobydd a'r genod yn baglu dros eu gilydd -mae'n hanner tymor wedi'r cwbl- i bobi cacennau a chrempogau aballu.







 



Mae rhaglenni radio Lisa Gwilym, Georgia Ruth, a Sesiwn Fach wedi plesio'n ddiweddar, ac mi fydd yn chwith rwan ar ol i gyfres Gwaith/Cartref orffen yn rhy fuan o lawer eto ar S4C.

Mae albwm newydd hyfryd Georgia Ruth -Week of Pines- yn mynd rownd a rownd acw ar y funud, a cha^n Blanche Rowen- 'Mae'r Ddaear yn Glasu' yn hyfryd hefyd (gwrandwch am ddim ar Soundcloud) ac yn addas iawn ar gyfer y gwanwyn.

Tydi rhaglenni'r BBC o Sioe Arddio Chelsea heb blesio bob tro; mae 'na ormod o grafu tinau selebs a ma^n-uchelwyr wedi bod, a chyfweliadau arwynebol, rhy fyr o lawer. Dwi dal heb eu gwylio i gyd ond mae pymtheg awr o Alan Titchmarsh yn ormod o bwdin braidd. Biti na fyddai'r BBC neu S4C yn gwario mymryn o bres ar raglenni garddio yn Gymraeg. Dwi chydig yn genfigennus o Ann, o flog Ailddysgu, fu yno. Byswn i wedi hoffi gweld gardd y brodyr Rich, 'Un Garreg' a gafodd fedal aur ar eu cynnig cyntaf, ac hefyd stondin Fferm Crug a gafodd aur.
Arian gafodd ymdrech y Gerddi Botaneg Cenedlaethol. Mi ges i rant bach am hyn yn y darn am Sioe Arddio Caerdydd fis yn ol, felly taw pia hi rwan.

'Nol adra, mae'r rhiwbob wedi ffrwydro, a'r gwsberins a'r cyrins wedi cnapio; y coed afal, gellyg a cheirios wedi blodeuo, a llawer iawn i edrych ymlaen ato yn y bythefnos nesa' rwan. Mi driaf sgwennu rhywbeth eto cyn pen hynny, ond hwyl am y tro.




*'Sepp Holzer's Permaculture'. 2012. Permanent Publications. 
Chwiliwch am KRAMETERHOF ar YouTube i gael blas o'r hyn mae'n wneud.





No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau