Ar ôl i dywydd gwael diwedd Ebrill roi diwedd ar flodau'r
eirin Dinbych a thorri nghalon i 'run pryd, daeth syrpreis braf, wrth i'r goeden ddatblygu ail genhedlaeth o flodau yn ystod haul diwedd Mai.
Ac yn groes i'r disgwyl, mi fues i'n gwylio eirin -ein eirin
cyntaf yn y byd- yn cnapio, tyfu, twchu...

-wedyn disgyn! Fesul un.
Felly dyna ni. Blwyddyn arall heb eirin. Ma' isio blydi 'mynadd!
Mae'r goeden
afal Enlli wedi methu eleni hefyd.
Dim ond ar un ochr o'r espalier ddaeth unrhyw flodau eto fel y llynedd, i fy atgoffa y dyliwn i fod wedi cael gwared arni ers talwm, a phlannu rhywbeth arall yn ei lle. Difrodwyd y gwreiddiau'n arw wrth iddi ddisgyn yn y gwynt yn 2012, a tydi hi heb ddod ati'i hun o gwbl ers hynny.
Mae gwendid y goeden wedi bod yn wahoddiad agored i filiwn o bryfaid gwyrdd a morgrug, i gyrlio pob deilen a rhwbio halen i'r briw. Bydd hon wedi mynd erbyn y gaeaf.
Ar y llaw arall, mi gawson ni dunelli o riwbob, ac mae cnwd da o
gyrins duon a
chyrins coch wrthi'n aeddfedu rwan.

Mae addewid am fwy nag arfer o
geirios.
Mefus bach alpaidd blasus i'w hel wrth eu cannoedd eto, ac eto. Y
mafon yn dda hyd yma hefyd.

Ond y ffrwyth dwi'n edrych ymlaen ato fwy na dim, ydi
mwyar y gorllewin,
thimbleberry. Mae'n blanhigyn deniadol a'r blodau'n hardd iawn hefyd. Bysa hyn yn ddigon i'r llwyni dalu am eu lle, ond os ydi'r mwyar yn flasus hefyd, gorau'n byd. Hir yw pob aros am haul yn Stiniog!