"Tydi yw campwaith fy hudoliaeth oll." meddai o'n ol.
Dyfynnu o ddrama Sauders Lewis ydw i oherwydd, mi fuodd y ddwy hyna' a fi i weld Blodeuwedd, gan Theatr Genedlaethol Cymru, ddydd Sadwrn.
Ai da y gwnaethon nhw felly? Roedd o'n gampwaith. Profiad gwefreiddiol, yn llygad yr haul, mewn lleoliad arbennig.
Mae yna fanylion ac adolygiad yn fan hyn, felly dwi ddim am draethu gormod, ond mi wnes i fwynhau bob eiliad o'r profiad, o'r baned hen ffasiwn yn y man cychwyn, i'r actio angerddol, safle hanesyddol, a'r diweddglo trawiadol.
Golygfa 1: Gwydion a Lleu dan Domen y Mur |
Roeddwn i dan deimlad ar ddiwedd yr olygfa olaf, ac mi gafodd y genod a fi drafodaeth hir am elfennau o'r perfformiad ar y ffordd adra.
Golygfa 2: Gronw a Blodeuwedd yn dathlu lladd Lleu |
Roedd y profiad yn un arbennig iawn wir. Ewch i'w weld o cyn iddo orffen.
Feri untrysding, Wilias. Ai rumembyr goun tw Toman y Mur wen ai was un mai trywsus bach.
ReplyDeleteTw cwesdiyns, Wilias.
1. Dder's a ded blôc lying on ddy grownd. Was ut wan of ddem Myrdyr Musdyri Wicend capers?
2. Wat dud ddei dw wudd ôl ddy cachu defaid?
Hôp ior enjoying ddy gwd weddyr and e cypyl o peint un ddy gardyn fin nos wudd ddy rybelwr bach.
Mi and Fred ar off down tw ddy seidar hows ddus feri munut.
Ol ddy besd,
Ofyr and owt,
Robot.
Cyfarchion Robot.
Delete1. Mwy cyffrous o lawer na whodunnit! Yr hogan ddrwg, Blodeuwedd, wedi trefnu bod ei ffansi-man hi, Gronw, yn lladd ei gwr, Lleu. Ond, bob yn ail mae dail yn tyfu 'de, ac mae Lleu yn dod nol...
2. Tydi defaid Bro Stiniog ddim yn cachu siwr iawn! (Roedd y defaid yn amlwg wedi eu symud o'r safle ers sbel, ac roedd y lle yn ogleuo'n hyfryd!) Diawl o gambl oedd trefnu tair wythnos o berfformio awyr agored, ond iechyd, maen nhw wedi bod yn lwcus efo'r tywydd. Gallai tair awr yn y glaw fod wedi bod yn brofiad digon annifyr dwi'n siwr.
Bu'r Rybelwr a finna yn yfed yr hen gwrw drwg na yng ngardd yr Ocli Arms wsos dwytha, cyn i'r gwybed ein gyrru ni ar ein pennau ar y bws i'r clwb rygbi. Mae'r Pobydd a finne newydd ddod i mewn rwan o'r ardd gefn i wylio uchafbwyntiau'r Tour de Ffrainc. "O, na fyddai'n haf o hyd!"
Cofion at Fred; gofal pia hi efo'r hensgrympi 'na!