Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.7.13

Hoff bethau, cas bethau

Wedi cael marathon o ddiwrnod yn yr ardd gefn ddoe, yn chwynnu, clirio, tocio, plannu, dyfrio, torri,a chreu! Cododd y Pobydd a fi yn gynnar, ac ar ol y banad hanfodol, allan a ni i ddechrau cael trefn ar y jyngl.

Ymunodd y Fechan ymhen hir a hwyr, a thorchi llewys yn syth (wel, ddim yn llythrennol, mae'n rhy boeth i wisgo llewys tydi), gan adael y ddwy arddegferch yn diogi yn eu gw'lau.

Pan ddaeth pawb i olau dydd i chwilio am ginio, mi fuon ni'n trafod be oedd yn edrych yn dda yn yr ardd, a be oedd angen mwy o sylw..

Daeth y cameras allan wedyn, a dyma ganlyniad yr arolwg!

Aeth y Fechan yn syth at ddarn pella'r ardd. 'Mae'r trampolîn a'r tŷ helyg yma, a 'da ni wedi bod yn brysur efo'r gw'lau llysiau 'n do' meddai. Dwi'n eitha balch o'r gwaith cerrig yn llwyfan y trampolîn. Mae'r ardal yma ar lethr, ac roedd angen codi lle gwastad, crwn, ac roeddwn i isio adeiladu rhywbeth parhaol deniadol. Fydd y plant ddim yma am byth yn amlwg, felly mae yna dwll yng nghanol y llwyfan (darn o beipan cylfert mawr), fel y gallwn blannu coeden ynddo a chreu lle eistedd yno ar ol i'r genod adael y nyth!


I'r dde o'r trampolin, mae be' da ni'n alw'n 'tŷ helyg'. Roedd hwn yn iglw helyg crwn ar y dechrau; lle i'r plant chwarae. Ond wrth iddyn nhw dyfu, doedd o ddim yn cael ei ddefnyddio, felly mi ddaru ni ei dorri yn ei hanner, a gadael deildy -arbour. Lle cysgodol i roi mainc, ac mae'n lle braf iawn i fynd efo panad, ac yn cael defnydd rheolaidd. O'i flaen, ond ddim yn glir yn y llun, mae coeden afal ifanc a dyfwyd gan y Fechan o hedyn. Dwn i ddim sut afalau gawn ni, ond mae'n cael ei dyfu fel espalier dwy-gangen isel.

Yr ardal gompost ydi cas beth y Fechan yn yr ardd: 'mae o'n boring'!
 Mae'r ddwy fawr yn cytuno (peth prin iawn!) ar eu hoff ran o'r ardd, sef y patio bach wrth dalcen y cwt. Dyma'r unig le yn yr ardd -gan ei bod yn wynebu'r de- lle mae cysgod ar gael pan mae'r haul yn taro. Dyma lle fyddwn ni'n eistedd allan gyda'r nos, fel neithiwr, yn rhoi'r byd yn ei le.


Cas beth y Pry' Llyfr ydi'r gongol yma o'r ardd. Digon teg, tydi o ddim yn lle mwya' deniadol sydd yma! Ar ymyl y decin a welir yn y llun, mae pergola, a hwn ydi cas beth yr Arlunydd. Yn anuniongyrchol beth bynnag. Mae hi wedi magu casineb ac ofn afresymol o wenyn meirch, ac maen nhw'n dod yn aml at bolion y pergola i hel pren i adeiladu nyth.


Mae'r Pobydd yn hoffi'r pethau bychain, fel yr aderyn 'ma sy'n dal cannwyll, a'r galon fach, a'r fflip-fflops glas ar ben y postiad yma; i gyd yn cynrychioli pethau eraill, fel nosweithiau braf allan, anrhegion, gwyliau, a hwyl plant yn pwll padlo, ac ati.





Ei chas beth ydi dail celyn! Mae cannoedd yn disgyn i'r llwybr bob dydd. Os ydi hi'n mynd i drafferth i glirio, gelli di fentro y bydd mwy wedi disgyn cyn gynted ag y mae hi'n troi ei chefn!
Yn fy marn i, y pethau gorau yn yr ardd ydi'r Pobydd a'r genod. Bysa' fiw imi ddeud fel arall!
Mae'r hoff beth, a'r cas beth yn amrywio o fis i fis, ac ar hyn o bryd, y gwyddfid ydi'r hoff blanhigyn. Yn ystod y dydd, mae'r pys per yn llenwi'r aer efo ogla da, ond unwaith mae'r haul yn suddo tu ol i Graig Nyth y Gigfran, y gwyddfid ydi'r seren, efo'r persawr mwya' anhygoel i ddenu fi a'r gwyfynnod yn ol ac yn ol i'w fwynhau.


 Ond mae cymaint o bethau eraill hefyd, cloch buwch sy'n mynd a ni 'nol i'r Picos bob tro mae chwa o wynt yn mynd heibio; yr aros am gyrins cochion ac ati; simdda fach sy'n hanfodol i gynhyrchu mwg -nid gwres- i gadw'r gwybed i ffwrdd; Y Moelwynion, sy'n gefndir parhaol i'n bywydau; a'r rhedynnau sy'n ffynnu yma.












Cas bethau? Oes siwr iawn. Ond dim byd i golli cwsg drosto. Mae'r Montbretia yn cael enw drwg yma ar hyn o bryd, ac er 'mod i wrth fy modd efo gloynod byw, does dim llawer o groeso i wyau y rhai gwynion ar y bresych!




 Ond dwi ddim isio cwyno. Mae'n ddyddiau hirfelyn tesog, a finna'n 'mochal dan ymbarel yn mwydro, a phanad wrth fy ochr.  Bodlon.






No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau