Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.7.13

Beic i bawb o bobol y byd

Efo ras feics enwoca'r byd -y Tour de Ffrainc- yn ei hanterth ar hyn o bryd, mae'r gamp yn mynd o nerth i nerth ym Mro Ffestiniog hefyd, a thrwy Gymru am wn i.





Ers eu sefydlu, mae llwybrau beicio lawr-allt Antur Stiniog ar y Cribau wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Parc neidio a chanolfan feicio Antur Stiniog
 Mae’r llwybrau arbenigol yma eisoes wedi cael cryn ganmoliaeth yn y cylchgronau beicio ac ar y we, gydag enwau mawr y gamp yn uchel eu clod o'r safle hefyd, ac mae’n sicr o ddenu cystadlaethau pwysig yn y dyfodol.







Er mwyn gwthio'r cwch i'r dwr, mae’r ŵyl DH-Ffest ymlaen y penwythnos nesa' (13-14eg Gorffennaf), gyda chystadlaethau lawr-allt a her safle neidio, a'r ganolfan feicio a’r caffi newydd ar safle Llechwedd wedi agor y mis hwn, gan gyflogi mwy o bobl leol. Mae bandiau yn nhafarnau'r Blaenau dros y penwythnos hefyd.





Syniad, breuddwyd, a champ criw lleol- Antur Stiniog- ydi'r cynlluniau cyffrous yma. Gwaith ac ymdrech staff a gwirfoddolwyr lleol, sy'n cynnal eu cyfarfodydd a'u gwaith papur yn Gymraeg, a'r amcan o sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn flaenllaw, ac yn ffynnu yn sgil datblygiadau lleol. Y nod mwy cyffredinol, fel rhan o gynllun Canolfan Rhagoriaeth Eryri ydi annog Cymry Cymraeg i fanteisio ar gyfleon hyfforddi a gwaith yn y diwydiant awyr agored, a thrawsnewid y sefyllfa draddodiadol o dim ond bobl ddiarth yn arwain yn y maes.


Tydi beicio cystadleuol ddim yn beth diarth i Fro ‘Stiniog, gydag o leiaf dau o’r trigolion yn cystadlu yn y dauddegau. “Beic i bawb o bobol y byd” oedd galwad Wil Jôs Penny yn ôl y llyfrau gwerthfawr ‘Stiniog’, gan Ernest Jones, a ‘Cymeriadau Stiniog’ (gol: G.V. Jones, ac o'r llyfr hwnnw ddaeth y llun). Mi fuodd o’n cystadlu trwy Brydain ac yn Ffrainc, ac fel y gwelwch yn y llun, mae o (efo’i gyfaill John Jôs Ffish) wedi ennill gwobrau yn y gamp. Byddai’n braf cael gwybod lle mae’r tlysau rŵan, a chael mwy o wybodaeth am y cystadlu. Mae’r beic yn y llun yn edrych fel beic velodrome, hynny ydi rasio trac hirgrwn: un gêr sydd arno a dim brêc! 

Hanner canrif a mwy yn ddiweddarach, roedd cymalau mynyddig y Milk Race (a elwir bellach yn Tour of Prydain) yn ymweld yn aml â’r Migneint, ac mae’n saff o ddychwelyd i’n elltydd ni yn y dyfodol.




Yn y byd beicio ffordd, mae dau ddigwyddiad pwysig wedi bod eleni eisoes yn fy milltir sgwâr. Her flynyddol Ffestiniog 360: taith o 60 milltir trwy Eryri yn cychwyn a gorffen yn y Blaenau, er mwyn codi arian ar gyfer Tŷ Gobaith. Wedyn, ganol Mehefin, daeth cannoedd o feicwyr trwy’r Fro ar ddau gylch hiraf Etape Eryri, her feicio newydd a phoblogaidd iawn. Roedd yr Etape Canol, fel y’i gelwid yn dod trwy ganol y Blaenau a thros y Crimea, fel rhan o daith 76 milltir. Roedd yr Etape Mawr yn dilyn yr un llwybr a’r Canol hyd at gopa’r Allt Goch, ond wedyn yn troi am Gwm Cynfal, Cwm Prysor a’r Migneint, ac yn 103 milltir o hyd!


Dydd Sadwrn d'wytha (6ed Gorff) roedd cystadleuaeth gyntaf 'brenin y mynydd' Bro Ffestiniog, ar yr un diwrnod a chymal mynyddig cyntaf y Tour de Ffrainc, sef 'Alp Stwlan', dan ofal beicwyr profiadol lleol. Bron i 900 troedfedd o ddringo caled dros filltir a hanner, o Ddolrhedyn at yr argae uchaf. Efo gwobrau ar gyfer y cyflymaf mewn tair adran: dan 18, oedolion, a dros 40, gobeithir y daw’n achlysur rheolaidd. Dim ond naw munud a 41 eiliad gymrodd Dan Evans i gyrraedd pen y ddringfa! Anhygoel.

Roeddwn i'n rhy llwfr i gymryd rhan; mond yno i dynnu llun oeddwn i!


 

Roedd Wil Jôs Penny yn beicio yn wythdeg oed, felly does dim esgus i mi beidio ymarfer at Alpe Stwlan; efallai erbyn 2020 gallaf wneud y daith mewn llai na hanner awr! 



[Mae hwn yn ddarn wnes i'n wreiddiol ar gyfer papur bro Cylch Stiniog, Llafar Bro.]

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau