Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.10.12

...hei, hei: ble'r aeth yr haul?

Mae'n hen bryd am gynnig arall yn y gyfres Cas Bethau, Hoff Bethau, ond dwi ar ganol gosod silffoedd, ac eisiau mynd yn ol at y gwaith. Bosib mae'r tywydd fyddai'r cas beth, a'r hoff beth yr wythnos hon.

Glaw a niwl heddiw, a nhwtha' wedi gaddo "diwrnod gorau'r wythnos" i ni! Ond dyddiau glas clir yn codi'r ysbryd hefyd ddwywaith-dair yn ail hanner Hydref.

Ffenel. Wedi trio perswadio'r Fechan fod yr hadau yn well na da-das... dim gobaith!


Ambell i flodyn yn dal i drio codi'n calonnau ni ar ddyddiau llwyd.


Dwi wedi colli'r frwydr yn erbyn slygs eleni. Mae'n amlwg yn amhosib eu rheoli heb gemegau ar haf mor wlyb. Mae digon o dyfiant yn y Claytonia, ond does dim un deilen na choesyn sydd heb ei gnoi gan rhywbeth! Dwi'n ddigon bodlon rhannu rhywfaint, ond Esu gria, dwi'n filain i golli'r cwbl-blwmin-lot!





Y cansenni wedi dod i lawr am y flwyddyn bellach. Angen eu golchi a'u cadw dros y gaeaf, ond bydd yn rhaid ffeindio lle newydd i'w cadw rhag i'r fwyalchen ddod i nythu arnynt eto fel eleni.




Efallai mai troi'r clociau 'nol ddylia fod yn gas beth wedi meddwl, a chymaint llai o amser i wneud pethau yn yr ardd, a finnau ddim yn medru defnyddio'r rhandir fel esgus i beidio gosod silffoedd yn y ty!




.

Dyfynnu: 'Hei, hei, hei, hei, ble'r aeth yr haul? Tebot Piws*

* Diweddariad- Sylwebydd di-enw (gweler isod) wedi awgrymu mae'r grwp Bara Menyn ganodd 'Ble'r Aeth yr Haul?' a dwi'n fodlon derbyn hynny gan na fedraf ffeindio ddim byd ar y we amdani. Fi oedd wedi cymryd fod fy nghof plentyn yn ddibynadwy!! Dwi'n ddiolchgar am bob cymorth i gael y ffeithiau'n gywir.

4 comments:

  1. Anonymous1/11/12 18:14

    Haw ar iw Wilias? Sdul blocin awe laic mad ai si. Iw'f med e but of e coc-yp un ior last bloc un creduting 'wer dud ddy syn go' to ddy Pyrpyl Ti Pot wen un ffacd ut was ddy Bred and Bytyr ddat sang ddy song. Ai'f got tw haf mai hed un ddy dicshryni wen ai rid ior bloc bicos ior Welsh us so gwd wen mai Welsh us so bad. Ai'f ffawnd owt ddat ddy rhandir us an alotmynt, byt wat un god's nem us ddus 'lluarth', Wilias? Us ut symthing leic e buarth wer Ifan Cwm Bowydd iwsd tw peil yp ddy cachu gwarthag es dalwm? Or us ut ddy nem of symwans hows? Plis egsblen, Wilias, and cip yp ddy gwd wyrc. Ior riword wul bi big un hefyn. Ol ddy besd, Robot.

    ReplyDelete
  2. Su'mae eto Robot? Diolch am gywiro'r cam-ddyfynnu. A fu'r Tebot Piws yn ei chanu 'ta? Bydd yn rhaid mynd ar ol y sgwarnog yna rywbryd eto.

    Ynglyn a'r gair lluarth: ga' i dynnu dy sylw di at y 'Cwmwl Geiriau' ar y dde. Os roi di glic ar y gair yn fanno, mi gei di eglurhad.
    Diolch am gysylltu!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Anonymous2/11/12 00:21

      Ddy ti-pot nefyr sang ut so dders absolwtli no point un iw jympin on ior beic and goin affdyr ddy sgwarnog - iw'l nefyr catsh ut Wilias bach. Ior ol micsd-yp at ddy ti-tebyl butwin ddy pyrpyl ti pot and ddy bred and bytyr. Cym tw thinc of ut, ut cwd of bun ddy Cacan Wy Egsbiriyns ddat syng ut un ddy ffyrsd ples! Thanc iw ffor enleitning mi on ddy lluarth busnas - ior e gwd eg, Wilias. Jys picd ddy lasd of mai owtseid tomatos twde. Ddei wer as big as cwcun apyls and as red as Neil Kinock's her un naintin-sefnti-nein. Tw digris un Blaena ddus morning!God dulufyr ys! And mi un mai sdring-fesd picyn ddy tomatos ddus affdyrnwn. Ofyr and owt. Robot

      Delete
    2. Rwyt yn amlwg yn gyfarwydd efo Stiniog, Robot, ond dwi'n cymryd nad wyt yn byw yma os alli di dyfu ac aeddfedu tomatos tu allan. Braf iawn. Hwyl am y tro.

      Delete

Diolch am eich sylwadau