Mae o'n aeddfedu ers Mehefin, a dwi wedi edrych ymlaen am jochiad ohono ers i mi weld yr awgrym ar flog Hadau. Mae Tatws, awdur y blog, yn rhoi disgrifiad yn fan hyn o sut i'w wneud o, felly wna'i ddim ailadrodd. Dim ond dangos lluniau o'r broses.
Dwi wedi hepgor y sinamon a'r clofs, gan na fedra'i ddiodde'r sbeisus 'gaeafol'; nytmeg ac allspice a star anise aballu.
Deud y gwir, dwi ddim yn yfwr mawr o fodca, felly dim ond potel fach, 350ml wnes i. Ond mae'n well gen i fodca na gin, oherwydd mae blas y ffrwyth yn dod trwadd, yn fwy na blas y gwirod. Yn y gorffennol dwi wedi gwneud fodca eirin tagu, a'r gorau hyd yma ydi fodca llus.
Hel |
Chwalu |
Trwytho |
"Afiach. Ddim digon melys", meddai'r Pobydd! Siwgwr lwmp ynddo fo iddi hi ta..
Tydi o byth yn mynd i guro cwrw du Brains, neu botel o Ochr Tywyll y Mws, gan Fragdy Mws Piws, ond mi fydd o'n dda ar y nosweithiau oer dros y gaeaf, o flaen y tân. Gwell ei adael am rwan tan y penwythnos mae'n siwr. Wel... un fach arall efallai..
Dw i'n licio gin eirin yn fawr. Yn anffodus, dw I wedi bwyta'r riwbob! Blwyddyn nesa!
ReplyDeleteRoedd eirin tagu -sloes- yn brin iawn eleni yma; siom.
ReplyDeleteMae'r crymbl gellyg yn dy flog heddiw yn swnio'n hyfryd.