Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.10.12

O gribau'r creigiau geirwon

Mae nghalon yn y mynydd, efo'r grug a'r adar mân... ond eto'i gyd mae 'na dynfa ryfeddol at y môr weithia'. Sgwn i fedra'i annog un o'r genod 'cw i briodi mab fferm o Ben Llŷn, efo cwch a photia' cimwch, i mi gael cyfuno'r ddau fyd?!

Dic Jones sy' bia geiria'r pennawd. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo'i gerdd i 'Lwybr y Glannau' tan y penwythnos dwytha, pan es i lawr i Langrannog ar drip blynyddol rhai o'r criw y bues i'n ddigon lwcus i dreulio tair mlynedd yn eu cwmni yn y coleg ym Mangor.

'Da ni'n dod at ein gilydd bob hydref, er mwyn cerdded trwy'r dydd, wedyn yfed 'chydig o gwrw, a thynnu coesau'n gilydd trwy'r nos. Aeth deunaw mlynedd heibio ers inni rygnu trwy'r arholiadau ola' ac mae criw bach ohonom wedi cadw cysylltiad yn llwyddianus ers hynny, diolch i'r drefn.

Mi gawson ni ddyddiau cofiadwy iawn yn y Preseli, Y Bannau, y Ddwy Aran, a mwy dros y blynyddoedd.  I 'Stiniog ddaeth pawb y llynedd, ac mi gawson ni ddiwrnod cynnes braf i gerdded dros y Moelwyn Mawr ac i lawr yr ochr bella' i'r Ring yn Llanfrothen. Roedd hwnnw'n ddiwrnod hir (gan ein bod ni'n defnyddio llawer iawn mwy o egni yn siarad a dal i fyny, nac ydan ni wrth gerdded), felly taith haws ar yr arfordir amdani eleni!
Doedden ni ddim llawer cynt ar lefel y môr chwaith: mi gymrodd hi chwech awr i ni gerdded y tair cilomedr ar ddeg o Langrannog i Gei Newydd! Ychydig dros 2km yr awr. Wel, mae hel clecs a rhoi'r byd yn ei le yn ddiawl o waith caled tydi, ac yn ôl y Pobydd, 'mond un peth ar y tro fedrwn ni ddynion wneud!

Yr haul yn gwenu ar y cyfiawn! Dechrau o draeth Llangrannog, a Charreg Bica.

Tydi'r sgwar ddim digon mawr i'n hogia' ni. 
Digon o amser i lolian a mwydro ar ben clogwyni Penmoelciliau.

Capiau cwyr coch Ceredigion.


Yn anffodus, doedd gen' i ddim map digon manwl i wybod enwau'r cilfachau a'r creigiau a'r nentydd a'r traethau i gyd, ond Pendinaslochtyn ac Ynyslochtyn sydd yn y cefndir yn y llun yma. Roedden ni'n gweld bob cam o Ynys Aberteifi i Ynys Enlli yn ystod y dydd. Peth da ydi aros am eiliad a chofio gwlad mor brydferth ydi Cymru fach.



Un o nifer o ddarnau trawiadol Llwybr Arfordir Cymru.
Llwybr sy'n 870 milltir o hyd (1392km). Os lwyddwn ni i gwrdd am ddiwrnod bob hydref,
dim ond 106 o flynyddoedd ydan ni angen eto ...ac mae Llwybr Clawdd Offa i ddod wedyn! Rôl on.

Mi aethon ni ar ein pennau i dafarn y Dolau wrth gyrraedd Cei Newydd. Mae'r beint gynta wastad yn well na dim byd ddaw wedyn tydi. Hyfryd.
Yn ôl wedyn i Langrannog, gan fwynhau bwyd a diod Y Llong a'r Pentre Arms, a pharhau i roi'r byd yn ei le tan yr oriau mân.
Amhrisiadwy. Diolch 'ogia.

Dyma lun o daith y llynedd. Yn y post dwytha, mi rois i lun o inclên chwarel y Wrysgan. 
Dyma lun (gan Gareth) o ben ucha'r inclên lle mae'n mynd trwy dwll yn y graig. Lle arbennig iawn.



Dyfynnu:

'Nant y Mynydd'. Ceiriog. [eto!]
Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneud cân,
Ond mae nghalon yn y mynydd, 
Efo'r grug a'r adar mân.

Llwybr y Glannau, Dic Jones.
Hyd lannau Ceredigion
Mae'r tir a'r môr yn leision,
A golwg ar bellterau'r Bae
O gribau'r creigiau geirwon.    



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau