Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.8.12

Os nad yw hi'n fawr, mae hi'n ddigon

Ar ol arfer efo cnydau digon sal, dwi wedi gwirioni efo'r ffa melyn eleni.
'Wizard' ydi'r ffa ges i y tro 'ma, ac maen nhw'n cael eu disgrifio fel 'field beans' yn hytrach na 'broad beans'.

Mi brynis i'r hadau gan gwmni o Dreftraeth, Sir Benfro (cwmni sy'n ardderchog ymhob ystyr, heblaw am fethu gwneud unrhyw ddefnydd o'r Gymraeg), ac hyd yma, mae'r wizard yn curo bob hedyn arall ges i erioed.

 
Bob blwyddyn, daw pods mawr tew ar y ffa melyn acw, a’r rheiny bron yn wag, efo dim ond dwy neu dair o ffa mewn gwagle mawr gwastraffus.

Mae pods eleni yn dipyn llai: llai o hyd, a llai o drwch. Ond y gwahaniaeth pwysig ydi nad oes unrhyw egni wedi mynd i gynhyrchu pods mawr gwag. Does dim biomass yn ofer. Mae pwysau’r ffa cymaint mwy mewn cymhariaeth â phwysau’r pod sy’n mynd i’r twmpath compost.

Hyd yma, mae'r rhai 'da ni wedi'u bwyta, wedi bod yn hyfryd, efo crwyn tenau, sydd ddim angen y strach o'u tynnu. Bydd digon eleni -am y tro cyntaf erioed- i rannu rhywfaint, ac i rewi llwyth hefyd gobeithio.

Dwi wedi dechrau codi moron hefyd. Ches i erioed lawer o hwyl ar dyfu moron hir, felly mi ges i hadau moron cwta eleni, ac mae ‘na fyd o wahaniaeth yng nghanlyniadau’r rhain hefyd. Mae’r moron yn dew a glân a melys. Wfft i lysiau mawr a hir o hyn allan!


Mae’r rheithgor yn dal i gnoi cil ar ganlyniadau’r betys gwyn a’r ffenel, ac mae’n rhy fuan i chwilio am gloron dan yr oca. ‘Mynadd pia hi...

[Dyfynnu: "Annwyl wlad mam a thad, os nad yw hi'n fawr mae hi'n ddigon, i lenwi, i lenwi fy nghalon!" Cymru Fach. Elfed, 1920au]

4 comments:

  1. Anonymous1/9/12 08:52

    Diddorol iawn. Unrhyw gyngor ar sut i dyfu winwns o faint gwell na'r peli bach pitw sy'n dod yn fy ngardd bob blwyddyn? Wedi bod yn rhoi gwrtaith o dail ffarm, a fyddai gwaed ac esgyrn pysgod yn well?

    Aneirin

    ReplyDelete
  2. Diolch Aneirin. Dwi wedi methu tyfu nionod yma mae gen' i ofn. Rhy wlyb, a'r pridd yn rhy sur hefyd efallai. Yn ol y llyfrau, mae chwalu calch ar y pridd ychydig cyn hau neu blannu, yn llesol. Dwi'n cael hwyl golew ar dyfu sibols -spring onions- a nionod Cymreig; hynny ydi aelodau o deulu'r nionod lle nad yw bylb tew mor bwysig!

    ReplyDelete
  3. Y Real Seed Company wyt ti'n cyfeirio ato? Wedi darllen eu gwefan ond heb archebu eto. Mae ffa llydan/melyn yn dod yn dda fan hyn yn Asturias beth bynnag (plannu'r rhai cyntaf fis nesaf!) ond mae'r moron yn edrych yn hyfryd. Mae wynwns yn fwy o waith na fyddai rhywun yn disgwyl. Fan hyn ar y garreg galch maen nhw, ond maen nhw'n gofyn dŵr yn eithaf aml.

    ReplyDelete
  4. Ia Cath, mae agwedd braf iawn ganddynt, yn hollol wahanol i gwmniau ariangar eraill. Maen nhw'n annog ac yn rhoi manylion i'w cwsmeriaid ar sut i gadw hadau i'w hail-blannu. Dewis da iawn o hadau hefyd.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau