Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.9.12

Cas bethau, hoff bethau; rhif 3

Cas bethau
Mae'r planhigion mefus wrthi'n gwneud eu gorau glas i gynhyrchu ail gnwd o ffrwythau (wel, dwi'n deud ail gnwd, ond chydig iawn gawson ni o'r mefus cynta, a hynny am yr un rheswm a'r cas beth gynta..)


Lladron! Mae bob diawl o bob dim yn cystadlu efo fi am y mefus acw. Dim angen mynd i fanylion am slygs nagoes. Go brin fod gan y rheiny neb sy'n fodlon eu hamddiffyn. Adar; llygod; morgrug; pryfid lludw: maen nhw i gyd wrthi, liw-nos, yn gwledda ac yn chwerthin ar 'y mhen i. Ffernols bach. Ond dyma sy'n torri nghalon: mae'r nadroedd miltroed (millipede) wrthi hefyd, finna wedi meddwl eu bod yn bethau digon del a dymunol! Bradwrs. Mi welwch chi un i mewn yn y fefusen uchod, efo slygsan!


Ffenel ydi'r peth nesa dwi wedi digio efo! Dwi'n siwr 'mod i wedi son wrth ddechrau blogio, fy mod i am roi un cynnig arall arnyn' nhw. Ond och a gwae, mae'r diawlad i gyd wedi rhedeg eto. Mae'r egni wedi mynd ar gynhyrchu coesyn i flodeuo, yn hytrach nag ar dwchu wrth eu bonion.
Dwi yn euog weithia', mae'n rhaid cyfadda', o beidio dyfrio'n gyson ar yr adegau gwyrthiol hynny pan mae'n sych am ddyddiau, ond eleni does na'm posib mai sychder sydd wedi achosi hyn.. wfft i ffenel felly!



Yn amlach na pheidio, yn yr adran 'hoff beth' fysa Byw yn yr Ardd (heblaw am y darnau gosod blodau, ac yn enwedig pennod giami y tusw jiwbili -ych, damia hi). Methu dallt ydw i pam eu bod wedi rhedeg repeats dros yr wythnosau dwytha. Yng ngeiriau'r cwmni cynhyrchu 'Cyfres arbennig o raglenni yn edrych yn ol ar uchafbwyntiau'. Pa! Ailbobiad rhad, pan fo digon o bethau yn mynd ymlaen yn y gerddi. Twt lol. Biti hefyd fod y gyfres Aeleg 'Anns a garradh' ar BBC Alba, wedi gorffen ynghanol y tymor garddio.

Cyfra i ddeg Wilias.. daw haul ar fryn...

Hoff bethau
Hwre. Daeth yr haul ar fryn eto! Mae'r ardd wedi bod yn berwi efo gwenyn a phryfed hofran o'r diwedd. Mi ges i gyfle i ddal i fyny efo llwyth o jobsys oedd angen eu gwneud. Ond yn bwysicach na dim, mi gawson ni gyfle i eistedd yn yr haul, efo panad, neu efo potel o gwrw oer, yn mwynhau'r lle. Un o'r pethau ges i wneud y penwythnos yma o'r diwedd, oedd llifio twmpath bach o goed oedd acw, a dechrau cael trefn ar y coed tan cyn y gaeaf. Mae'n freuddwyd gen' i -breuddwyd gwrach 'falle- i fedru rhentu neu brynu darn o dir er mwyn tyfu coed helyg a chyll, ar gyfer coed tan fysa'n ail-dyfu, a chael eu torri eto drachefn, yn eu tro, mewn cylch.



Mae gweld tas o goed wedi eu hollti a'u cadw'n barod at y gaea' yn un o bleserau rhyfedd bywyd.

'Ta dim ond fi 'dio?!



Cyllell Nain ydi hon. Dyma beth oeddwn i eisau pan farwodd hi bymtheg mlynedd yn ol. Roedd hi'n rhoi menyn, a thorri'r tafelli teneua posib o fara efo hon, gan ddal y dorth ar ei ffedog, a thynnu'r gyllell tuag ati. Mae'r gyllell mewn defnydd dyddiol o hyd, yn gwneud tuniau bwyd yn y boreua, a llawer mwy.


Rhestr hir o bethau eraill sy'n plesio:
Wrth y gwely: 'Afallon'. Robat Gruffydd. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Dwi wedi anwybyddu ffuglen yn llwyr ers misoedd. Wedi cael cryn flas ar hon, ond ambell i beth yn taro'n anhebygol, ond dwi'n dal i droi'r tudalennau. Hefyd 'The Bee Garden'. Little, M. Sut i ddenu gwenyn i'r ardd; -ar gymeradwyaeth Ann Jones, cofi ym Milton Keynes, ar ei blog ddifyr Ailddysgu (dolen ar y dde).
Ar yr iPod: 'Llwybrau Gwyn'. Casgliad llawn Tecwyn Ifan. Amhrisiadwy.
'Draw Dros y Mynydd'. Cowbois Rhos Botwnnog. Glaw; Ceffylau ar D'rannau; Cyn iddi fynd rhy hwyr: cant-y-cant hyfryd bob un. Edrych ymlaen am y daith hydrefol efo Georgia Ruth a'r Gentle Good.
Podlediad 'Ar y Marc': rhy gynnar i wrando arno ar fore Sadwrn, ond yn dal i fyny ar y ffordd i'r gwaith ar fore Llun. Doniol a difyr.   Podlediad 'Best of Nature', rhaglenni bywyd gwyllt, Radio 4.
Ar y radio: 'Geraint Lovgreen ar Enw'r Gan'. Holi cyfansoddwyr caneuon am gefndir eu geiriau. Holi call; dim hunan-longyfarch ymysg lyfis.
Ar y bocs: 'The Newsroom'. Drama arbennig arall gan HBO.
'La Vuelta '12'. Uchafbwyntiau dyddiol o'r ras feicio galed yn Sbaen, a'r cymal ola' wedi bod heddiw. ITV4 yn ardderchog i seiclwyr ar hyn o bryd, efo 'The Cycle Show', ac uchafbwyntiau'r 'Tour of Prydain' yn dechrau heno hefyd. Atgofion difyr iawn o wylio'r hen 'Milk Race' ar y Migneint efo 'Nhad. Sefyllfa drist ydi methu enwi rhaglen Gymraeg yn fan hyn. Edrych ymlaen am ambell beth sy'n dychwelyd yn yr hydref, ond ar hyn o bryd, does 'na ddim byd yn plesio.
Ar y plat: ffa melyn efo pob peth!


2 comments:

  1. Mam annwyl ei mhab.11/9/12 14:58

    ar y blât,fuaswn i yn deud,ond fel arfer chdi sy'n iawn,mab dy Dad,ond fi sy'n iawn weithia!!!!!!!

    ReplyDelete
  2. Mae ffenel fel llysieuyn angen gwres a dŵr - a lot o'r ddau. Mae ffenel yn werth ei dyfu yng ngardd y perlysiau - mae'n tyfu'n wyllt fan hyn.

    Y gyllell: onid oedd mamgu pawb ohonom ni'n torri torth fel na, ar y fron.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau