Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

4.8.12

Morforynion

 Mae gwaith a glaw wedi nghadw fi o'r ardd a'r lluarth trwy'r wythnos eto. Wrth chwilota hen luniau, mi ddois i ar draws hwn ar y chwith, a dynnwyd flwyddyn yn ol ar draeth Pentraez yn Llydaw. Yr Arlunydd wedi bod yn brysur.

Ar ol dod adra, mi fuodd hi a'r Pobydd yn addurno talcen y cwt, yn yr ardd gefn, efo darnau o hen deils wedi eu malu. Hen shanti o dy gwydr oedd yn fan hyn cyn hynny, ond dyma bellach lle fydden ni'n eistedd allan yn yr ardd. Ges i balet o lechi ail-law i'w rhoi ar lawr, fel patio bach yno.
Nid 'mod i'n cwyno am yr haul, ond mae'r ardd yn wynebu'r de, a'r haul yn taro yno'n ofnadwy weithiau. Dyma'r unig le yn yr ardd lle fedrwn ni gael cysgod pan fo angen hynny! Mae o'n lle braf i ymlacio gyda'r nos efo potel o gwrw hefyd. Byddai nosweithiau braf yn wych rwan, i mi gael dianc oddi wrth y 'Lympics.






Llun gweddol 'random' (chwedl y plant) i orffen heno: bwrned chwe smotyn yn gwledda ar driaglog goch. Gwyfyn trawiadol sy'n hedfan yn ystod y dydd. Cynnig cyntaf Awst am lun y mis efallai.


2 comments:

  1. Dwli ar y lluniau! Yma yn Asturias hefyd mae'r dewis haul/cysgod yn un cyson, yn enwedig ganol dydd.

    ReplyDelete
  2. Diolch Cath; ag ymddiheuriadau am fod mor hir yn cyhoeddi dy sylw. Newydd gyrraedd yn ol o'r de, lle fuon ni am wythnos o wyliau. Mi gawsom ni brofiad o beth all haul ganol dydd wneud i rywun sydd heb baratoi yn iawn!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau