Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.4.12

Haul llwynog


Ar ôl cael ein twyllo eto gan ychydig o haul ddiwedd Mawrth, siom ddaeth wedyn, fel pob gwanwyn.
“Rhai wedi eu tynghedu i fod yn wlyb”. Dyna sut mae Gwyn Thomas yn disgrifio pobl Stiniog.
A’r glaw sy'n gyfrifol am fodolaeth y blog yma, am wn i; finna wedi bwcio 'chydig o ddyddiau adra o'r gwaith dros y Pasg, efo'r bwriad o arddio, a chael siom efo'r tywydd. Eto.
Efallai mai tân eithin fydd fy ymdrechion i gofnodi, gan golli stêm ar ôl cychwyn yn frwdfrydig, pwy a wyr! Efallai hefyd na fydd neb yn ei ddarllen, ond dwi wedi cael fy ysbrydoli i roi cynnig arni gan ambell i flog Cymraeg fel Asturias yn Gymraeg (er nad oes gobaith mul imi fedru postio’n ddyddiol), a Garddiadur, Hadau, Blog Garddio Bethan Gwanas.

Dwi wedi trio tyfu ychydig o fwyd yn yr ardd gefn ers pum haf, heb lwyddiant ysgubol, ond wedi cael digon o bys a ffa i osgoi torri 'nghalon yn llwyr. Pump o hafau difrifol a gafwyd o ran tywydd, a dwi wedi dysgu erbyn hyn i beidio disgwyl gormod o haul dros dymor tyfu cwta, i fyny fan hyn ymysg y mynyddoedd.
Os oedd y glaw yn siom, daeth diwrnod gwyllt o eira a lluwchfeydd ar Ebrill y 4ydd. Dyma’r olygfa o ffenest y llofft acw.
Trwy lwc doeddwn i heb gael fy nhemtio i hau a phlannu dim byd allan yn ystod y tywydd braf, neu byddai’r oerfel wedi rhoi clec i bopeth dwi’n siwr.
Ond eira neu beidio, mae’r gwanwyn yn gwibio eto, ac mae’n hen bryd dechrau ar y paratoi. Felly mi fues i a’r Fechan yn y tŷ gwydr ganol y p’nawn ar y pedwerydd, yn glyd braf efo’r eira yn gwrlid ar y to, yn gwneud heuad cynta’r flwyddyn. Dau ddwsin yr un o ffa melyn, ffa Ffrengig, ffa dringo, pys, a phys melyn (sweetcorn), yn ogystal a rhywfaint o bwmpenni, pys pêr, marigolds a mari-a-meri (nasturtiums). Byddai’n hau eto ganol Ebrill, ac eto wedyn ddiwedd y mis. Am y tro cynta eleni, mae gen’ i ddigonedd o le i dyfu, a gyda lwc bydd digon o bys ar gael i fedru dod a rhywfaint i’r gegin am unwaith. Hyd yma, mae pob poden o bys yn cael ei llowcio yn yr ardd gan y plant. Ia, iawn; a gen’ i hefyd!
Tydi Stiniog erioed wedi cael rhandiroedd tan rwan, a bellach mae deiliaid y 23 plot wedi cael goriadau i fynd i’r safle. Disgwyl diwrnod golew ydw i rwan i fynd i ddechrau ar y gwaith yno. Mae’r pwyllgor wedi bod yn weithgar iawn yn sicrhau safle i’r dref chwarae teg iddynt, ond mae angen gwaith mawr i gael trefn ar y rhandiroedd eto.
Dyma lle fyddaf yn cofnodi’r gwaith. Galwch yn ôl bob hyn-a-hyn, i weld pa lanast dwi’n wneud.

3 comments:

  1. Edrychaf ymlaen i ddarllen mwy yma.

    Falle bod ti'n gwybod yn barod, ond mae sawl blog Cymraeg da am arddio.

    ReplyDelete
  2. Diddorol cael hanes garddio ar dir ac ar dywydd mor wahanol i fan hyn. Doda'i ddolen ar fy mlog. AsturiasynGymraeg.wordpress.com

    ReplyDelete
  3. Diolch i'r ddau ohonoch am yrru nodyn.
    Rhys. Er cywilydd i mi, roeddwn wedi anghofio am wefan Hedyn. Mae o'n adnodd difyr a gwerthfawr, ynghyd a'r Blogiadur.
    Cath. Dwi wedi bod yn genfigenus o hanesion dy lysiau cynnar di, a'r tywydd yn aml iawn. Ond er nad yn weddiwr, dwi'n hoff iawn o'r un am dderbyn yn dawel yr hyn na allwn newid; am gael y nerth a'r dewrder i wneud rhywbeth am y pethau sydd angen eu newid, a bod yn ddigon doeth i wybod y gwahaniaeth rhwng y ddau!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau