Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.4.12

Daw hyfryd fis...

Wedi manteisio'n llawn ar y diwrnod sych ddoe i orffen llenwi'r gwelyau newydd. Roedd gweddill y tylwyth wedi mynd i'r Port i wario, felly roedd gen i benrhyddid i wneud fel y mynnwn. Eistedd ar fy nhîn efo papur newydd a phaned fysa wedi plesio fwyaf, ond roedd y cydwybod yn pigo, felly cerdded draw i'r rhandir wnes i, efo rhaw a bwced yn llawn twls.

O'r diwedd, mae gen' i le call i blannu rhywbeth! Mi fues i'n hel cerrig mân i'w rhoi o amgylch rhannau isaf y pibelli draen hefyd, ac yn cario llechi mwy er mwyn ceisio creu (pan ga'i gyfle) llwybrau ac ardaloedd sych i weithio arnynt. Mae wedi bod ychydig yn ddigalon gweithio mewn mwd, a cheisio gwthio berfa ar dir mor feddal. 
Mae yna dwmpath o bridd yn dal ar ôl, a dwi am wasgaru hwn yn rhan ucha'r llun gynta', a gwneud gwely uwch, ond heb ymylon o goed.


Pridd sâl uffernol ydi o:  y gymdeithas randiroedd wedi ei gael i mewn i'w rannu rhwng y deiliaid, ond mae o'n gleiog ofnadwy, sydd ddim yn ddelfrydol pan mae'r ddaear yn dal gormod o ddŵr yn barod! Maen nhw wedi cael compost gan y cyngor sir hefyd, o'u cynllun ailgylchu gwastraff bwyd a gardd. Mae hwn i'w weld yn stwff da, ond tydi'r hyn a gefais i heb fynd yn bell iawn. Mi ges i ddwy sach o gachu ceffyl hefyd, ond ei fod braidd yn ffresh, felly wedi rhoi'r rhan fwya ohono yn y gwely lle dwi am blannu ffa.

Hanner y rhandir sydd i'w weld yn y lluniau yma. Dyma'r hanner y byddai'n canolbwyntio arno eleni, mae'r gweddill yn ddigalon o wlyb, hyd yn oed ar ôl cyfnod cymharol sych...
Roeddwn wedi disgwyl gorfod buddsoddi oriau yn sefydlu'r lle cyn cael rhandir cynhyrchiol, ond 'rargian, dwi'n edrych ymlaen at yr haf -daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir...

Mae hi'n tywallt y glaw y bore 'ma, a'r gwynt yn ei yrru o'r dwyrain oer. Bydd yn rhaid i'r coed mafon aballu aros tan nos Fawrth neu ddydd Mercher felly, cyn y gallaf blannu dim.
Diwrnod yn y amdani heddiw felly. Dwi wedi cael rhestr o jobsys hollbwysig i 'ngadw i'n brysur...y Pobydd isio imi osod bachau dal llenni yn y gegin; yr Arlunydd a'r Pry' Llyfr isio silff cornel bob un; a'r Fechan isio hongian addurniadau calon dros ddrws ei llofft. S'nam llonydd i'w gael!

Fedra'i ddim cwyno, mae'r diwrnod wedi cychwyn yn dda gan fod y Pobydd wedi gwneud crempogau bach (drop sgons) i frecwas. Rwan, lle mae'r baned a'r papur newydd 'na...

2 comments:

  1. Paid digalonni¡ Mae'r hyn yr wyt ti wedi gwneud yn barod yn edrych yn deidi iawn. A fel wyt ti'n gwybod, y paratoi sy'n bwysig. Beth am roi cynnig ar y gwely lasagne (carbord a glaswellt?) yn y rhan arall. Dim ond dodi'r haenau a'u gadael nhw tan flwyddyn nesaf!
    (Am ryw reswm dyw'r wefan ddim yn derbyn cathasturias)

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ia, mae hynna'n syniad da Cath. Dwi wedi bod yn chwarae efo'r syniad hefyd o blannu courgettes mewn byrnau gwellt, a gadael i'r rheiny bydru. Ond mae'n anodd cael gafael ar wellt organic (dwi braidd yn bryderus am effaith posib y pla-laddwyr ar wellt arferol, ar bryfetach..)
      Ymddiheuriadau am y drafferth wrth gysylltu. Roedd y blog wedi stopio diweddaru popeth am ryw reswm, ac am ei bod wedi bod yn sych, dwi wedi bod allan yn hytrach nag ar y cyfrifiadaur; ew, melys moes mwy 'de!

      Delete

Diolch am eich sylwadau