Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.4.15

Rhiwbob 4

Yr olaf o'r rhiwbob-dan-orchudd wedi eu codi o'r planhigyn cynnar. Coesau cochion gwych.
Dwi am adael hwn i ddatblygu yn yr agored rwan.

Mae'r bwced wedi mynd i orchuddio coesynau newydd o'r planhigyn arall sydd yma. Mae egin y rheiny wedi torri trwy wyneb y pridd yn y dyddiau dwytha', wythnosau ar ôl y llall.
Braf cael tymor rhiwbob gweddol hir, efo un planhigyn cynnar ac un hwyr.


Y cenin ola' wedi eu codi rwan hefyd, a'r cêl -oedd wedi datblygu'n goeden- wedi ei thorri ar ôl hel y dail olaf.



21.4.15

Crib ceiliog

Ar ôl gwylio'r Crocosmia coch -crib y ceiliog- yn ymledu a gwthio trwy blanhigion eraill, dwi wedi gorfod mynd ati o'r diwedd i dorri ei grib, a chodi'r cwbl o'r gwely isaf.


Pan ddois i a darn bach yma mi addewais na chaiff o dyfu'n rhy fawr...!



Bedair blynedd wedyn o'n i'n dychryn i weld faint oedd o wedi dodwy. Codais ddwsinau o glorod, ar ôl plannu dim ond hanner dwsin!


Heb os, mae o'n blanhigyn trawiadol; yn dod a lliw ddiwedd yr haf, felly dwi am roi hanner dwsin o'r clorod mewn pot er mwyn cael parhau i'w fwynhau, a chael cadw trefn arno 'run pryd.




19.4.15

Ebrill a fling

Mawrth a ladd, Ebrill a fling.

Un o'r planhigion gynta' i ni blannu yr ardd gefn oedd lelog Califfornia; Ceonothus 'concha'. Yn anffodus, mae o wedi marw rywbryd dros y gaeaf.

Wrth aros am 'y gwanwyn glas eginog' daeth yn amlwg nad oedd am ddeffro eleni.

Planwyd o ym Mehefin 2003, ac mae o i'w weld yn lluniau ola'r post dwytha ar waelod chwith y lawnt.

Tyfodd yn lwyn hardd iawn, ond roedd mwy o ben arno na chorff, ac yn Ebrill 2012, daeth lawr mewn gwyntoedd cryfion.

Codwyd o'n ôl ar ei draed ond roedden ni'n gwybod bryd hynny bod ei ddiwedd ar y gorwel; torrwyd hanner y gwreiddiau yn y gwymp, ac roedd y blodau wedi tyfu'n rhy uchel i'w gwerthfawrogi'n llawn hefyd, a finna'n bygwth cael gwared ohono.
 
 Ond, roedd o mor hardd rhwng Mai a Gorffennaf, ac yn denu cymaint o wenyn, roedden ni'n gyndyn i'w golli...

Mi flodeuodd am dri haf ar ôl disgyn, ond mae wedi gorfod mynd i'r compost ac i'r das goed tân rwan. £8 gostiodd o ddwsin o dlynyddoedd 'nôl, ac mae'n bendant gant-y-cant wedi talu am ei le.

Dyna pam ein bod wedi prynu un newydd: 'victoria' y tro hwn. Cyn ei blannu, mae o'n mynd i'r tŷ gwydr dros nos am ychydig ddyddiau er mwyn cynefino efo oerfel y mynydd, ar ôl byw yn nes at y môr yn y ganolfan arddio. Mae profiadau costus wedi'n dysgu nad ydi planhigion sydd wedi eu magu ar lefel y môr yn rhyw hoff iawn o'u cludo i'r mynydd a'u plannu'n syth!


Mae yna hen edrych ymlaen rwan at flynyddoedd hir o flodau hardd eto.

17.4.15

Creu'r ardd gefn

Edrych 'nôl dros gyfnod creu'r ardd gefn:

Ebrill 2002- y gwanwyn cyntaf ar ôl symud i mewn. Roedden ni'n dal i weithio a gwario ar y tŷ, a'r ardd dal yn le i gadw hen deils a brics a ddaeth allan o'r gegin, a phob math o bethau eraill fel bath a thanc dŵr poeth, ac ati. Y ddau wrych yn dwyn gormod o le. Roedd yr ardaloedd pridd yn wlyb iawn iawn.


Erbyn Pasg 2003 roedden ni'n barod i fuddsoddi amser a 'chydig o bres i greu gardd i'r teulu. Wedi pigo'r hen blastar oddi ar wal gefn y tŷ, mi gyfunwyd yr angen i osgoi talu cannoedd am sgips i gludo'r rwbal o'no, efo'r angen i godi lefel yr ardd uwchben y tir corsiog. Adeiladwyd wal efo'r brics a dynnwyd o barwydydd mewnol y gegin, a rhoi'r rwbal fel haen isaf y gwely newydd. Rhoddwyd haen o dywod ar ben y rwbal...

 
...wedyn pridd erbyn diwrnod cynta' Mehefin 2003, a'r wal wedi'i gorffen. Mae'r gwrych ar y chwith wedi mynd, a'r ffens ar ei hanner. Mae'r gwrych ar y dde dan reolaeth o'r diwedd hefyd!
Y lle yn dechrau tacluso o'r diwedd!


22ain Mehefin 2003: y tywyrch wedi dechrau plethu'n ei gilydd, ac ambell blanhigyn wedi'i blannu. Erbyn diwedd Gorffennaf, roedd mwy wedi'i plannu; decin a pergola wedi eu hadeiladu wrth y tŷ; llechi wedi gorchuddio'r llwybrau; a thŷ gwydr wedi'i godi efo hen ffenestri wrth dalcen y cwt. Y ni wnaeth y gwaith i gyd, ac o'r herwydd mae'r ardd yn lle mwy arbennig a phersonol.


Neidio i Awst 2011. Yr ardd wedi aeddfedu a llawer wedi newid ers 2003, ond fydd hi fyth wedi'i gorffen. Bydd rhywbeth angen ei newid hyd dragwyddoldeb!









12.4.15

Rhuthr Goddaith ar Ddiffaith Fynydd

Bu'n wyliau Pasg, sy'n golygu dau beth:
Plannu'r tatws cynnar, a phlant yn llosgi rhedyn ar y ffriddoedd.

Cefn Trwsgl / Ben Banc. Rhan o ardal tipyn mwy a losgwyd wsos yma, wedi'i weld o'r ardd gefn.
Gwell fod y llosgi wedi digwydd rwan yn hytrach na gwyliau Sulgwyn, pan fydd yr adar yn nythu. 'Creithio' ydi'r enw ar yr arfer yma yn 'Stiniog. Mae erthygl am yr enw (a tharddiad y pennawd uchod) ar wefan ein papur bro lleol, Llafar Bro

Arran Pilot ydi'r tatws cynta' i fynd i'r ddaear yma eleni, a hynny yn yr ardd gefn. Bydd dwsin o datws ail-cynnar, Bonnie, yn dilyn y penwythnos nesa, os ga'i gyfle i fynd i'r rhandir. Dwi ddim yn mynd i drafferthu efo tatws diweddar; maen nhw'n ddigon rhad yn y siopau, a gwell gen' i roi'r lle i bwmpenni aballu.

Mae'r Fechan a finna wedi hau ambell i beth arall hefyd dros gyfnod y gwyliau- ffa dringo; ffa melyn; pys; a phethau sydd angen eu dechrau ar ffenest y gegin fel tomatos; pwmpenni; pupur, ac ati.


Hefyd blodau amrywiol, gan gynnwys blodau haul. Mi ges i, a'r ddau daid baced bob un o hadau blodyn haul (Giant Single) mewn cracyrs arbennig a wnaed gan y Pobydd a'r Fechan at y Nadolig, efo'r her o dyfu'r blodyn talaf. Taid Rhiwbach oedd fwya' trefnus, yn hau yn y tŷ gwydr ddechrau Ebrill; Taid Cae Clyd ychydig ddyddiau wedyn; a finna dros y Pasg. Mi fydd yna hen dendio arnyn' nhw, a phawb yn benderfynol o gael ei goroni'n bencampwr!

Rhywbeth arall ges i Dolig oedd casgliad o hadau anarferol (gan y Dyn Eira -traddodiad yng nghartra' fy rhieni, sef anrheg fach ychwanegol ar ôl cinio pan oedden ni'n blant! Ar Ddydd San Steffan erbyn hyn), gan gynnwys pys merllys (asparagus peas) a chiwcymbar lemwn. Cawn weld os ddon' nhw ar ochr y mynydd...