Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

19.4.15

Ebrill a fling

Mawrth a ladd, Ebrill a fling.

Un o'r planhigion gynta' i ni blannu yr ardd gefn oedd lelog Califfornia; Ceonothus 'concha'. Yn anffodus, mae o wedi marw rywbryd dros y gaeaf.

Wrth aros am 'y gwanwyn glas eginog' daeth yn amlwg nad oedd am ddeffro eleni.

Planwyd o ym Mehefin 2003, ac mae o i'w weld yn lluniau ola'r post dwytha ar waelod chwith y lawnt.

Tyfodd yn lwyn hardd iawn, ond roedd mwy o ben arno na chorff, ac yn Ebrill 2012, daeth lawr mewn gwyntoedd cryfion.

Codwyd o'n ôl ar ei draed ond roedden ni'n gwybod bryd hynny bod ei ddiwedd ar y gorwel; torrwyd hanner y gwreiddiau yn y gwymp, ac roedd y blodau wedi tyfu'n rhy uchel i'w gwerthfawrogi'n llawn hefyd, a finna'n bygwth cael gwared ohono.
 
 Ond, roedd o mor hardd rhwng Mai a Gorffennaf, ac yn denu cymaint o wenyn, roedden ni'n gyndyn i'w golli...

Mi flodeuodd am dri haf ar ôl disgyn, ond mae wedi gorfod mynd i'r compost ac i'r das goed tân rwan. £8 gostiodd o ddwsin o dlynyddoedd 'nôl, ac mae'n bendant gant-y-cant wedi talu am ei le.

Dyna pam ein bod wedi prynu un newydd: 'victoria' y tro hwn. Cyn ei blannu, mae o'n mynd i'r tŷ gwydr dros nos am ychydig ddyddiau er mwyn cynefino efo oerfel y mynydd, ar ôl byw yn nes at y môr yn y ganolfan arddio. Mae profiadau costus wedi'n dysgu nad ydi planhigion sydd wedi eu magu ar lefel y môr yn rhyw hoff iawn o'u cludo i'r mynydd a'u plannu'n syth!


Mae yna hen edrych ymlaen rwan at flynyddoedd hir o flodau hardd eto.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau