Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

11.1.24

Blwyddyn Newydd, Camerâu Newydd

A dyna ni. Daeth gwyliau’r nadolig i ben; rhestrwyd addunedau i’w torri eto; rhoddwyd y tinsel ‘nôl yn yr atig; a bu’n rhaid dychwelyd i’r gwaith. Ba hymbyg!

A dweud y gwir, dwi’n ffodus iawn i fedru dweud fy mod yn mwynhau fy ngwaith, ar y cyfan. Bysa rhai yn dadlau mai dim ond surbwch fyddai’n cael trafferth codi o’r gwely i fynd i reoli gwarchodfeydd natur! Mae’n fraint i fod yn onest, yn enwedig ar ddyddiau barugog, braf, fel yr wythnos yma.
Un o’r pethau sydd wedi fy nghynhyrfu yn barod eleni ydi canfod fod tylluan wedi bod yn clwydo yn un o’r adeiladau ar safle dwi’n reoli ym Meirionnydd. Nid fy mod i wedi gweld y dylluan, ond fod dyrnaid o bellenni ar lawr o dan y distyn lle mae’n amlwg yn eistedd i dreulio ei fwyd ar ôl hela. Dyma’r peli bach o ffwr ac esgyrn sy’n dod yn ôl i fyny ac yn cael eu poeri allan ychydig oriau ar ôl i’r dylluan lyncu llygoden yn gyfa. 

Yn ôl maint y pellenni, mae’n debyg iawn mae tylluan wen (barn owl, Tyto alba) sydd dan sylw yn hytrach na thylluan frech (tawny owl, Strix aluco), ac mi ydw i wedi hel rhai ohonyn nhw i’w datgymalu a’u harchwilio dros y penwythnos. Byddaf wedyn yn medru cymharu esgyrn, a phenglogau yn arbennig, a gweld pa lygod fu’r dylluan yn fwyta.

Mae’n bosib gweld tylluan wen yn hela yng ngolau dydd- ben bore neu wrth iddi fachlud, a dwi wedi llwyddo i wylio’r olygfa wefreiddiol hynny mewn llefydd eraill, ond mae’n amlwg nad ydw i wedi codi’n ddigon cynnar, nac aros yn ddigon hwyr i’w weld ar y warchodfa yma. Heb os mae yma ddigon o gynefin ar gyfer eu hoff fwyd, llygod pengrwn coch (bank vole, Clethrionomys glareolus), sef glaswellt bras a gweundir. 


Yr hyn dwi wedi ei wneud rwan ydi gosod camera maes yn yr adeilad er mwyn medru cadarnhau pa dylluan sydd yno. Bydd y camera yn tynnu lluniau, ddydd a nos, o unrhyw beth fydd yn symud o fewn ei olwg yn yr adeilad ac mi af yn ôl mewn ychydig ddyddiau i weld be ddaliwyd ar gof a chadw.

Mi rannaf newyddion am yr esgyrn ac -os ydi’r camera wedi gweithio- llun neu ddau efo chi y tro nesa.
Rhaid i mi bwysleisio’n fan hyn, petae hi’n dymor nythu (gall hynny fod mor gynnar a mis Mawrth), mi fyddai’n anghyfreithlon i mi darfu ar dylluanod gwyn heb drwydded, gan eu bod ar Gofrestr 1 o adar dan warchodaeth yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Fel mae’n digwydd, nid oes silff digon llydan yn yr adeilad hwn fyddai’n addas i dylluanod ddodwy a magu cywion arni, a gan fod blychau nythu pwrpasol mewn sawl sgubor a beudy yn y dyffryn, dwi ddim yn meddwl y byddaf yn gosod un yma heb yn gyntaf holi cydweithwyr sy’n arbenigo mewn ecoleg yr aderyn. Mae ein hadeilad ni yn le da i wenoliaid nythu bob haf a gan fod adeiladau amaethyddol yn aml yn cael eu haddasu’n gartrefi neu’n unedau gwyliau mae’n braf cael sicrhau safle parhaol i wenoliaid hefyd. 

Rhywbeth arall cyffrous o ddyddiau cynta’r flwyddyn ydi’r anrheg brynais i mi fy hun, sef blwch nythu efo camera mewnol, ar gyfer yr ardd acw. 

Bydd yn rhaid i mi fynd ati rwan i ddarllen y cyfarwyddiadau a’i roi at ei gilydd cyn y gwanwyn, er mwyn i mi gael rhannu lluniau a newyddion efo chi o dro i dro trwy’r tymor nythu! Titw tomos las (blue tit) sy’n nythu yn y bocs sydd ar ochr ein cwt fel rheol, efo un eithriad tua degawd yn ôl, pan gafodd titws mawr (great tit) eu traed dan y bwrdd gyntaf. Dro arall, bu cynnwrf mawr pan welais geiliog gwybedog brith (pied flycatcher) yn cymryd diddordeb yn y blwch, ond er mawr siom, troi ei gefn wnaeth o ac anelu am y goedwig dderw gyferbyn; welsom ni ddim un yn yr ardd wedyn. 

Pa bynnag adar fydd yn dewis nythu yn y blwch newydd, edrychaf ymlaen yn arw am dymor nythu  2024. Blwyddyn newydd dda a gwyllt a chyffrous i bob un o ddarllenwyr Yr Herald Cymraeg hefyd!

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),11eg Ionawr 2024. (Dan y bennawd 'Edrych Ymlaen')

*Dan y bennawd 'Edrych Ymlaen'

21.12.23

Rhestr Nadolig

Annwyl Sion Corn, tybed fyddech chi’n ystyried danfon ambell un o’r rhain i mi eleni?

Haul ydi fy nghais gynta’. Yn ôl gwefan Omniglot, mae dros 40 ffordd o ddisgrifio glaw yn Gymraeg, a ‘Glaw Stiniog’ yn un ohonyn nhw. Glaw trwm ydi’r ystyr yn ôl y wefan, a phwy ydw’i i daeru efo’r ‘online encyclopedia of writing systems and languages’?  Fel un o drigolion y Blaenau mae’n anodd dadlau efo hynny a’r wythnos hon wedi bod yn sobor o wlyb!

Byddai diwrnod neu ddau o haul gaeafol yn dderbyniol iawn, er mwyn cael mynd i grwydro’r ffriddoedd, a llosgi ychydig o galorïau cyn dechrau’r gor-fwyta nadoligaidd. 

 

 

Tydi partridge in a pear tree ddim yn apelio ata’ i!  

Heblaw efallai ym Môn, mae’n anhebygol y gwelwch betrisen wyllt yn y gogledd; mae’n aderyn sy’n llawer mwy cyffredin fel un a ollyngir gan dirfeddianwyr, efo petris coesgoch a ffesantod, ar gyfer eu saethu. 

A’r goeden gellyg? Tydi’r un sydd yn yr ardd acw’n ddim byd ond sgerbwd noeth, di-ffrwyth a di-ddail yn y gaeaf, felly diolch, ond dim diolch!


 

O ran ail ddiwrnod y Nadolig, mi fyddwn wrth fy modd yn cael gweld dau durtur, y two turtle doves sydd yn y gân. Ond hyd yn oed pan oedd y rheini’n fwy cyffredin, yma i fagu yn yr haf oedden nhw, ac wedi hen adael am lefydd cynhesach cyn y nadolig, felly yn yr achos yma, dwi’n hapus i gymryd IOU tan yr haf! Yn ôl Cymdeithas Adaryddol Cymru, aderyn prin fu’r durtur yng Nghymru erioed, heb unrhyw gofnodion o nythu ers 2011 (2009 yn y gogledd, yn sir Ddinbych). Bu gostyngiad o 99% -do mi welsoch hwnna’n gywir, naw-deg-naw y cant, yn eu niferoedd ar ynysoedd Prydain ers 1960 ac mae’r IUCN -yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur- yn rhestru’r durtur fel aderyn dan fygythiad trwy’r byd. Mi fyddai gweld adferiad yn eu niferoedd yn anrheg werth chweil.

Does gen’ i ddim lle i gadw’r three French hens sydd yn y gân, ond mi fyddai mwy o ieir bach yr haf, glöynod byw, yn werth eu gweld yma yn y gwanwyn a’r haf. Mae rhai yn awgrymu fod yr ieir Ffrengig yn y gân yn cynrychioli ffydd, gobaith, cariad, felly ia, mi gymrai hynny hefyd. Byddai’n braf cael ffydd a gobaith fod arweinwyr y byd yn ddidwyll yn eu hymrwymiad i gytundeb diweddaraf COP28...

O ran y four calling birds, mae teulu o ditws cynffon hir yn dod heibio’r ardd acw yn achlysurol, ac mae eu parablu prysur wrth chwilio am bryfaid o gangen i gangen yn llenwi’r aer ac yn llonni calon. Hir oes i’r pompoms bach hyfryd pinc a llwyd. 

Os ga’i fod yn ddigywilydd am eiliad Santa, tydw i heb gael cyfle i fynd i Lysfaen hyd yma i edrych am aderyn harddaf y gaeaf, cynffon sidan (waxwing). Mae mwy na’r arfer ohonyn nhw wedi mudo yma o Sgandinafia a Rwsia eleni: tybed fedri di yrru rhai ohonyn nhw i lawr ffordd hyn am ddiwrnod neu ddau i mi gael cipolwg ar eu plu trawiadol? Yn y cyfamser, dwi’n gaddo plannu mwy o goed criafol ac aeron eraill ar gyfer y gaeafau i ddod gan obeithio am fewnlifiadau mawr eto, fel yr un dros aeaf 1989/90 welodd yr adar ymhob un o hen siroedd Cymru heblaw tair, gan gynnwys ia, Meirionnydd!

Dwi’n weddol hawdd fy mhlesio, felly byddai’r uchod yn ddigon i gadw’r ba hymbyg rhag dod i’r wyneb. Efallai y cawn drafod y flwyddyn nesa sut mae cael chwe gwydd i ddodwy ganol gaeaf, ac mi awn ryw dro arall i weld saith alarch yn nofio. A dweud y gwir, efallai yr a’i yfory -os bydd gosteg yn y glaw- i weld yr haid o elyrch y gogledd (whooper swans) sy’n pori caeau Pont Croesor bob gaeaf.

Ond am y 5 modrwy, y morwynion sy’n godro, a’r dawnswyr a’r neidwyr, a’r drymwyr aballu: mi gewch chi rannu’r rheini efo plant da eraill Cymru.

Diolch Sion Corn. Diwrnod byrra’r flwyddyn hapus i chi a phawb arall gyda llaw. Mae’r 21ain o Ragfyr yn drobwynt pwysig yn y gaeaf; ac mi gawn edrych ymlaen at ychydig funudau yn fwy o olau dydd bob wythnos nes y bydd hi’n wanwyn eto!
- - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 21ain Rhagfyr 2023.

*Dan y bennawd "Rhestr i Sion Corn".

LLUN- 12 Diwrnod gan Xavier Romero-Frias, oddi ar Comin Wici dan drwydded by-sa 3.0


30.11.23

Apus Dyrfa

Tua diwedd Gorffennaf eleni, fel can Gorffennaf o’r blaen, mentrodd cyw gwennol ddu (swift, Apus apus) i olau dydd, a gollwng ei hun o’i nyth uchel, dan do hen adeilad yn ‘Stiniog, ac ymestyn ei adenydd am y tro cyntaf i ymuno efo’i deulu uwchben y dref. Mae’r cyw hynnw dal yn yr awyr rwan, rywle yng Ngweriniaeth y Congo. Tydi o heb lanio o gwbl! Mae o’n bwyta, yfed a chysgu yn yr awyr, a chredwch neu beidio, mi fydd yn haf 2025 cyn iddo gyffwrdd â’r ddaear eto.

Mi fydd yn dychwelyd i Gymru ganol Mehefin -tua mis ar ôl ei rieni- ar ôl bod yn haf hemisffer y de trwy’n misoedd oer ni, ond bydd blwyddyn gron arall wedyn cyn glanio i fagu cywion ei hun.

Llun Ben Stammers

Er bod wythnosau ers i’r wenoliaid duon adael ar eu taith hir tua chanol Affrica, daeth llond ystafell o bobl i Blas Tan-y-bwlch wythnos diwethaf i glywed y diweddaraf am yr ymdrechion i warchod yr adar anhygoel yma. Clywsom gan Ben Stammers o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bod yr arolwg adar blynyddol ym Mhrydain yn dangos gostyngiad dychrynllyd yn eu niferoedd. Yng Nghymru bu dirywiad syfrdanol o 75% rhwng 1995 a 2021, ac maen nhw bellach ar y rhestr goch o adar dan fygythiad. Meddyliwch: collwyd tri chwarter y gwenoliaid duon mewn chwarter canrif!

Llun YGNC

Er yn weddol anodd eu cyfri’n fanwl, wrth wibio heibio ar frys a phlethu ymysg ei gilydd blith draphlith, mae’r niferoedd a welaf o’n gardd wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Bob mis Awst, mae diwrnod yn dod pan dwi’n sylweddoli -mwya’ sydyn- nad ydw i wedi eu gweld na’u clywed ers tro a dwi’n hiraethu’n syth am eu sgrechian byrlymus wrth hela pryfaid fel haid o grymanau neu bwmerangs tywyll yn hollti trwy’r awyr i bob cyfeiriad ar ddiwrnod braf.  Mae’n ddychrynllyd dychmygu y gallwn weld hafau yn y dyfodol heb eu tyrfa’n cadw twrw llon uwchben.

O edrych ar eu llun, mae’n amlwg fod pob gewyn a phluen wedi esblygu’n berffaith i fyw yn y gwynt, a’u traed cwta o’r golwg yn y plu tra’n hedfan, dim ond mewn defnydd wrth lanio yng ngheg y nyth. Ystyr yr enw gwyddonol Apus mae’n debyg ydi ‘heb draed’!

Difyr oedd clywed Ben yn dweud wrth y gynulleidfa:

“Yn wahanol i’r arfer, tydi enw Cymraeg yr aderyn yma ddim yn well na’r enw Saesneg, oherwydd tydi o ddim yn wennol, a tydi o ddim yn ddu ‘chwaith!”.
Er bod ganddo gynffon fforchog sy’n nodweddiadol o wenoliaid, mae’n perthyn yn agosach at y troellwr mawr (nightjar) ac hyd yn oed deulu’r sïednod (hummingbirds). Brown tywyll ydi lliw’r plu, ac mae ganddyn nhw ên goleuach hefyd.

Llun Ben Stammers

Tybir fod llawer peth yn cyfrannu at eu trafferthion; newid ym mhatrymau tywydd a’r tymhorau oherwydd newid hinsawdd, neu golli cynefin yn Affrica er enghraifft. Roedd colli safleoedd nythu wrth i bobl adnewyddu tai yn bryder mawr ar un adeg, ond mae blychau nythu arbennig yn hawdd eu cael a chymharol hawdd eu gosod erbyn hyn -rhai yn allanol ar hen adeiladau, ac eraill i’w ymgorffori o fewn waliau adeiladau newydd- ac yn profi’n llwyddiant mawr mewn sawl ardal. Mae ymchwil yn dangos erbyn hyn fod diffyg bwyd yn bwysicach na diffyg safleoedd nythu, ac elfen allweddol ydi’r gostyngiad torcalonnus sydd wedi bod yn yr un cyfnod mewn niferoedd pryfetach o bob math- maes arall efo ystadegau brawychus. 

Hawdd ydi digalonni, ond be fedrwn ni wneud i helpu’r wennol ddu? Wel, os nad oes gennych wal uchel, addas, be am noddi blwch i’w osod ar adeilad cyhoeddus -mae cannoedd wedi eu gosod ar draws y gogledd eisoes. Gofalwch nad oes nythod cyn llenwi tyllau mewn waliau a dan eich bondo, neu holwch am gyngor. 

Un weithred hawdd iawn, ydi dechrau wrth ein traed a garddio heb bla-laddwyr a meithrin planhigion sydd o fudd i bryfed amrywiol, ac annog eich cyngor i wneud yr un peth yn eich parc lleol ac ar leiniau glaswellt eich cymuned a’ch priffyrdd. Pan ddaw’r wenoliad duon yn ôl ym mis Mai, gallwn i gyd fwynhau eu cri uwchben eto ac am flynyddoedd i ddod gobeithio, tra’n ymhyfrydu mewn gardd, neu barc llawn blodau a gwenyn a glöynnod.

- - - - - - - - - - - 

Gyda diolch i Ben Stammers a'r YGNC am gael defnyddio eu lluniau

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 30 Tachwedd 2023


*O dan y bennawd siomedig a di-ddychymyg 'Gwenoliaid Duon'..!

9.11.23

Digon i’w wneud

Castanwydden bêr -sweet chestnut- yn Wrecsam ydi coeden y flwyddyn yng ngwledydd Prydain eleni! Bydd y goeden 480 oed rwan yn ‘cystadlu’ yn erbyn coed eraill trwy Ewrop. Dyna reswm da dros fynd am dro i Barc Acton y penwythnos hwn. Cyfle i biciad i lecyn lleol i hel y cnau blasus i’w rhostio ar y tân dros y gaeaf hefyd!

Os ydych yn chwilio am weithgareddau amgylcheddol eraill, mae llawer iawn ar y gweill: mae rhai o’r isod ar gyfer aelodau, ond bydd croeso i chi fynd i gael blas cyn penderfynu ymaelodi wedyn os hoffech.

Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn cynnal dwy daith gerdded yn y gogledd bob wythnos. Cymdeithas “i naturiaethwyr Cymru” ydi hi, “cyfle i werthfawrogi a dysgu am y byd o’u cwmpas drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg". Yr wythnos hon (Sadwrn 11eg), mae taith y gorllewin yn dilyn rhan o Lwybr y Pererin, o Dalysarn i Glynnog. Cychwyn am 10.30 o faes parcio Talysarn, er mwyn mwynhau 'Hanes a natur... ar ffyrdd a llwybrau cefn gwlad, cyffredinol hawdd, ambell allt, gwlyb mewn mannau. 7-8 milltir’. Yn y dwyrain mae taith ‘ar ochr ogleddol pentre Diserth, yr hen linell rheilffordd a’r Graig Fawr. Tua 5m’. Cyfarfod wrth y clwb bowlio. Ewch i wefan y gymdeithas am fwy o fanylion a rhaglen Tachwedd.

Os ydych yn teimlo’n fwy anturus, mae gan Glwb Mynydda Cymru -sy’n "hyrwyddo mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg" raglen o deithiau hefyd. Y Sadwrn yma mae taith sy’n cychwyn trwy ddal bws o Fetws y Coed am 8:05 i Ben y Gwryd, a cherdded ‘nôl dros gopa Moel Siabod. Disgrifir y llwybr fel un ‘eithaf garw efo peth sgramblo hawdd dros gerrig mawr. ...ond cerdded hawdd ar y cyfan. Tua 12.5 milltir, 7-8 awr’. Eto, cewch fanylion ar eu gwefan.

Un ffordd o gyfrannu at wella’r amgylchedd ydi gwneud gwaith gwirfoddol, ac mae digonedd o gyfleoedd ar gael. Er enghraifft, mae Cymdeithas Eryri yn cynnal diwrnod o glirio eithin ddydd Gwener y 10fed (10-3) ar safle siambr gladdu hynafol yng Nghwm Anafon yn y Carneddau, a chyflwyniad i’r hanes gan archeolegydd. Yn fy ngholofn dair wythnos yn ôl soniais am y frân goesgoch, ac mae cyfle i chi ymuno efo swyddog o’r Gymdeithas Warchod Adar rhwng 3 a 5 bnawn Mawrth (14eg) ym Mwlch Sychnant i’w cyfri a dysgu mwy amdanynt. Ewch i wefan Cymdeithas Eryri er mwyn cadw lle, a gweld gweddill eu rhaglen wirfoddoli, teithiau tywys, a sgyrsiau amrywiol.

Efallai mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd brysuraf yr wythnos yma, gan gychwyn efo sgwrs ar-lein nos Iau, am blanhigion gardd sydd â’r potensial i fod yn ymledol; Taith dywys dwy raeadr yn Abergwyngregyn ddydd Gwener (£2), rhwng 10 a 2 er mwyn ‘darganfod adar, aeron, hanes lleol a golygfeydd anhygoel’. Mae’r Ymddiriedolaeth yn dathlu ei phenblwydd yn 60 yn eu cyfarfod blynyddol ddydd Sadwrn, ac mae’r ddarlith ‘Siarc! Siwrnai i Gymru Tanddwr’ yn llawn gyda’r nos. Ewch i’w gwefan am raglen lawn o weithgareddau.

Mae Cynhadledd Flynyddol Cofnod, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru, hefyd yn llawn ar y 18fed, ond maen nhw fel arfer yn rhoi recordiadau o’r siaradwyr gwadd ar eu sianel YouTube wedyn. Eleni, gallwn edrych ymlaen at glywed am ‘heriau gwarchod planhigion gwyllt’; ‘Dyfod y gylfinir yng Nghymru’; a’r diweddaraf ar afancod yng Nghymru, a llawer mwy!

Os ydi’r tywydd yn ddiflas galwch yn Storiel Bangor, lle mae arddangosfa ‘Moroedd Byw’ yn tynnu sylw at ryfeddodau ein moroedd, a swyddog ar gael ambell ddiwrnod i sgwrsio am waith cadwraeth môr yng Nghymru. Er fod Yr Ysgwrn wedi cau tan y gwanwyn, gall grwpiau drefnu i ymweld ag arddangosfa ‘Geiriau Diflanedig’ yno, sy’n ddathliad o’r cysylltiad cyfoethog rhwng byd natur ac iaith.

Digon o weithgareddau difyr ar y gweill felly, a dwi’n sicr bod mwy ar gael hefyd. Mwynhewch!

- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 9 Tachwedd 2023


19.10.23

Brain Arthur a Pharacîts

Brân goesgoch. Argraffiad cyfyngedig* gan Lleucu Gwenllian
Yn y niwl, rywle yn y pellter, mae Ynys Enlli. Dwi wedi dod efo’r teulu ar bererindod i weld yr ynys a chrwydro Uwchmynydd; ond ychydig iawn sydd i’w weld wrth inni gyrraedd. ‘Does yna fawr o wahaniaeth yn lliwiau’r môr a’r awyr, a’r un llygedyn o liw ydi Maen Melyn Llŷn; carreg sy’n edrych o un ongl fel llaw enfawr yn pwyntio dros y dŵr at ynys y seintiau. Nid y garreg ei hun sy’n felyn, ond gorchudd o gen oren -neu i roi enw arall iddo, cen baw aderyn... Dyma’r cen sy’n gyffredin ar doeau tai lle mae gwylanod yn clwydo ac yn gwrteithio’r teils. 

 

Mae Comisiwn Henebion Cymru yn cofnodi enw ‘Maen Melyn Lleyn’ yn 1898 ond mae’n siwr fod yr enw’n hŷn na hynny hefyd. Dychmygaf fod adar wedi clwydo yma ers canrifoedd, yn dyst i filoedd o bererinion oedd yn mynd gam ymhellach na ni heddiw, dros y Swnt i Enlli. Hawdd ydi meddwl ei fod yn faen hir a osodwyd yno gan ein hynafiaid yn niwloedd amser i gyfeirio teithwyr at Enlli, ac yn ôl yn ddiogel i’r tir mawr, ond mae Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd yn mynnu mae carreg naturiol ydi hi. Un peth sy’n sicr ydi fod y tirlun yma, o Drwyn Maen Melyn i ben y Mynydd Mawr ac Anelog yn frith o olion hanesyddol.

Ond yr hyn sy’n dwyn ein sylw wrth anelu’n ôl at y car ydi haid o 20 i 30 o frain coesgoch yn plethu ymysg eu gilydd, yn chwarae ar y gwynt sy’n codi o’r môr dros y clogwyni islaw, ac ambell un yn mewian wrth fynd drosodd. Welais i erioed cymaint efo’u gilydd cyn hyn. 

Fesul dau a phedwar maen nhw’n glanio fan hyn fan draw er mwyn gwthio’u pigau cam coch i’r pridd i hela pryfetach; mae’r glaswellt cwta, wedi ei bori gan ddefaid a chwningod, yn gynefin perffaith iddyn nhw. Yn ôl cynllun rheoli ardal cadwraeth arbennig Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli, mae tua 14 pâr yn nythu ar yr arfordir. Daw mwy yma i dreulio’r gaeaf, rhai ohonyn nhw efallai wedi nythu yn y chwareli llechi ‘nôl adra, er bod hynny’n brinach rwan na’r gorffennol. Yn ôl campwaith Cymdeithas Adaryddol Cymru, ‘The Birds of Wales, Adar Cymru’ (2021) tydi brain coesgoch ddim dan fygythiad yn rhyngwladol, ond yn fregus (‘vulnerable’) yng ngwledydd Prydain. Dyfarnwyd statws ‘amber’ iddyn yng Nghymru ac mae llawer o ymdrech wedi mynd i’w monitro yn y gogledd. Yn ôl y llyfr mae heidiau o 90 i’w gweld weithiau yn ardal Uwchmynydd. 

Cyn gadael mae’r niwl yn codi am ennyd i ddatgelu ynys hudol Enlli ac mae’r haul yn disgleirio ar ddyfroedd du y môr. Mi ddown ar bererindod eto yn sicr!

 

Ddechrau’r mis, mi fues i mewn ardal wahanol iawn: Lerpwl, ac er mwyn dianc o brysurdeb y ddinas, mi es i am dro i barc Sefton am y pnawn. Mae lôn goed drawiadol yn eich arwain i ganol y parc, efo rhes o goed derw aeddfed ar y dde, a rhes o goed planwydd mawr ar y chwith, a changhennau’r ddwy res yn cyfarfod uwchben. Dau greadur estron oedd fwyaf amlwg yno: wiwerod llwyd, a’r parot lliwgar -a swnllyd- hwnnw, y paracît torchog, neu’r ring-necked parakeet. Mae effaith y wiwerod yn hysbys i bawb, ond mae’r paracît yn gymharol ddiarth tu allan i Lundain. Dywed yr RSPB bod nifer fechan ohonyn nhw yn magu yn Lerpwl ers y saithdegau ond bod poblogaeth fwy yno yn ddiweddar. Yn wreiddiol o India, mae miloedd ohonyn nhw yn Llundain, ond gan fod ymchwil wedi dangos nad ydyn nhw’n lledaenu’n bell o flwyddyn i flwyddyn, ymddengys fod adar Lerpwl wedi eu rhyddhau yn annibynol ‘i’r gwyllt’ ac heb gyrraedd dan eu stêm eu hunain.

Dywed llyfr ‘Birds of Wales’ fod adar unigol wedi eu cofnodi ym mhob un o siroedd Cymru erbyn hyn hefyd, ac er bod ychydig wedi magu dros y blynyddoedd, nad oedd tystiolaeth (2021) fod y boblogaeth yn medru cynnal ei hun. Er yn hardd iawn yn eu plu gwyrdd, gawn ni weld os fydd hwn yn rywogaeth arall fydd yn cystadlu efo adar cynhenid yn y dyfodol.


Cen oren:              common orange lichen (teulu Xanthoria)
brân goesgoch:     red-billed chough (Pyrrhocorax pyrrhocorax); brân Arthur, brân Cernyw yn enwau eraill.

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 19 Hydref 2023 dan y bennawd'Brain a pharacîts'.


* "24 print wedi eu hargraffu â llaw ar bapur handmade Zerkall, mewn tair haen efo inc speedball a schmincke". Creuwyd ar gyfer codi arian at Banc Bwyd Blaenau Ffestiniog yn 2021. Mwy o waith Lleucu ar instagram: @studio.lleucu