Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label Dad. Show all posts
Showing posts with label Dad. Show all posts

7.4.13

Tra bo hedydd

Un o ganeuon Dafydd Iwan ddaeth i'r cof ddoe.

Tra bo hedydd ar y mynydd;
tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid,
mi wn mae ni pia hon.

Cytgan hyfryd. Cân sydd heb gael y sylw haeddianol.

Beth bynnag, roedd y Pobydd wedi'n gadael ni am ddiwrnod o hwyl mewn gwisg ffansi, ar noson iar yng Nghaernarfon, felly mi aeth y genod a finna am dro, efo 'nhad, i chwilio am yr haul ar Fryn Castell, rhwng Cwm Teigl a Chwm Cynfal.

Bryn Castell

Am saith y bore, roedd y tymheredd yn -0.8 gradd C, ond erbyn ganol y pnawn roedd hi'n 14 gradd, a'r mynydd yn galw.

O ffordd y Migneint, uwchben Pantllwyd, 'mond 'chydig o funudau o waith cerdded sydd at safle gwych Bryn Castell, heibio Beddau Gwyr Ardudwy, ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chwarel lechi'r Drum. Digon o gyfle i drosglwyddo hanes a chwedlau'r fro i'r plant, yn union fel wnaeth eu taid i mi yn yr un lle, dri-deg mlynedd yn ôl.
 
Y Fechan a'i thaid, pennaeth y llwyth!
Nid castell sydd yno, er gwaetha'r enw, ond safle amddiffynol lle oedd ein cyn-dadau'n cynhyrchu haearn. Ta waeth am hynny, mae'n un o drysorau cudd Bro Ffestiniog*.
 


Copi o garreg Cantiorix, wedi'i gosod rhwng safle tybiedig
Beddau Gwyr Ardudwy a Bryn Castell.
(Mae'r gwreiddiol yn un o gasgliad o gerrig hynafol yn Eglwys Penmachno)





sorod haearn Bryn Castell



 





Ar y ffordd o'na, mi wnaethon ni aros am gyfnod i wrando ar drydar parablus hyfryd ehedydd, yn canu nerth esgyrn ei ben, yn uchel, uchel yn yr awyr las. Yn datgan hyd a lled ei diriogaeth, fel tasa fo'n dweud 'dwi yma o hyd'.

Efallai y bydd y genod yn gwneud yr un peth dri deg mlynedd o rwan...


                                    *gwybodaeth am Fryn Castell -yn Saesneg- ar wefan heneb gan Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd


1.2.13

Egin

Mehefin 1979:    Rhandir 'Nhad, rhwng Rhydsarn a Maentwrog.   Y prentis ifanc yn palu a charrega am bres poced.



"Yr Ardd" oedden ni'n galw'r lle, cyn i mi glywed y geiriau 'rhandir' a 'lluarth' erioed mae'n siwr gen' i. Dim ond dwy ardd oedd yno, dros 600 o droedfeddi'n is, a dwy filltir yn nes at y môr, na 'Stiniog. Nefoedd!  Un o'i gyd-weithwyr, o bwerdy Tanygrisiau: y cymeriad diweddar, G'ronwy Post, oedd yn trin y llall.



Y ddau ohonyn nhw'n feistri ar dynnu coes, yn dadlau pwy oedd wedi cael y plot orau, ac yn chwarae triciau ar eu gilydd, fel ffugio llythyr cas gan adran gynllunio'r cyngor am dŷ gwydr plastig a godwyd heb ganiatâd; a phaentio chwilen i edrych fel y Colorado beetle yr oedd panig mawr amdani fel pla tatws yn y cyfnod!


Mae'n chwedl yn ein teulu ni sut y bu i'n tad dalu 10 ceiniog y bwcad i mi a 'mrawd hel cerrig o'r pridd, a phob bwcediad yn cymryd amser maith i'w lenwi am eu bod yn bwcedi tyllog. Bryd hynny wrth gwrs, tra oedd Dad yn palu a phlannu, chwynnu a chynaeafu, roeddwn i'n amlach na pheidio yn crwydro a chwarae a 'sgota hyd lannau'r afon Cynfal gerllaw, gan feddwl bod garddio yn beth digon diflas! Er, roeddwn yn mwynhau cyfrannu rhywfaint, a dwi'n edrych yn ddigon bodlon yn y llun tydw. Mae'n amlwg fod yr hadyn wedi ei blannu yn barod i aeddfedu efo fi!

Ar ol tua saith mlynedd o dendio'r tir yno, daeth lladrata llysiau yn draul ar yr ymdrech, ond mae o'n dal i arddio adra', er iddo addo peidio cyboli eto ar ol dilyw 2012. Gawn ni weld..

Mae'n barddoni hefyd -crefft nad oes gobaith gen' i ei efelychu- a dyma gerdd berthnasol ganddo, sy'n dweud llawer am ei deulu yn ogystal a'i ardd. Hyfryd. Diolch Dad!



Gardd

Rhois dro yma ac acw
i'r gwys, pan oedd raid,
rhwng chwynnu a thendio
a'r meithrin ddi-baid.

Maent yma'n blodeuo,
yn dysteb i mi
o'r gofal a gafwyd
yn f'Eden fach i.

Daeth amser i fedi,
fel cynhaeaf ar ddôl,
a'r gost, ar ei chanfed
ad-dalwyd yn ôl.

VPW, Chwefror 2010