Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.4.26

Cynefin

O hiraeth am y deadline ar ôl rhoi'r gorau i 'sgwennu yn Yr Herald Cymraeg, dwi wedi dechrau cyfrannu colofn achlysurol am yr amgylchedd ym Mro Stiniog i'n papur bro. Dyma bytiau o rifyn Chwefror a Mawrth 2026

Rhaeadr y Cwm

Mae Llafar Bro wedi dilyn hynt a helynt y cynlluniau amrywiol i ddatblygu tyrbein trydan dŵr yn y lleoliad eiconig hwn. 

Y diweddaraf ydi fod pwyllgor cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu gohirio eu penderfyniad (er i’w swyddogion argymell caniatâu) a hynny er mwyn rhoi ystyriaeth deg i’r nifer fawr iawn o llythyrau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r gwaith. 

Yn fuan iawn wedyn mi wnaeth Cyfarwyddiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru gamu i mewn er mwyn ystyried ydi’r mater angen cael ei graffu’n fanylach, o bosib mewn ymchwiliad cyhoeddus.

 

 

Coed Pengwern
Efallai eich bod wedi sylwi fod y coed conwydd yn cael eu towlyd yng nghoed Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngheunant Sych. Y bwriad yn y tymor hir yn fan hyn ydi peidio ail-blannu coed masnachol ar ôl torri’r cnwd yma, ond yn hytrach ganiatau i’r ardal ddatblygu’n goedwig dderw, sy’n fwy cydnaws â’r dyffryn. Mae nifer o fwsoglau a chennau diddorol yn y goedwig eisoes ar rai o’r coed derw a bedw sydd yno, a bydd clirio’r conwydd o fudd i fywyd gwyllt yn gyffredinol. Mae’r llwybrau cyhoeddus trwy’r coed wedi eu cau dros dro (am tua 6 mis yn ôl y rhybudd ffurfiol gan Gyngor Gwynedd).

Tywydd Ionawr a Chwefror
Roedd dechrau Ionawr yn oer, ac mi gawsom eira sylweddol dros nos ar y 3ydd/4ydd. Ar y 5ed oedd tymheredd isa'r mis sef -3.2°C. Cafwyd ambell ddiwrnod o awyr las ac ar ôl barrug caled ar y 10fed, arhosodd y tymheredd uwchben y rhewbwynt wedyn.
Cafwyd pum diwrnod heb ddiferyn o law, a phump arall efo llai nag 1mm. Y 6ed oedd y gwlypaf, efo 32.5mm, a chyfanswm y mis oedd 215mm, tua 8 modfedd a hanner.

Ar ôl Ionawr gwlyb, oerfel oedd prif nodwedd Chwefror efallai, a’r tymheredd isaf yn -2.1°C ar y 14eg.
Cafwydd rhywfaint o ddyddiau efo eirlaw a chenllysg, ond ambell ddiwrnod sych ac awyr las hefyd! Bu barrug caled ar Ddydd Mawrth Crempog; glaw mân yn aml; a dyddiau budr iawn at ddiwedd y mis wrth iddi gynhesu, er i Orymdaith Dewi Sant yr ysgolion cynradd lleol fwynhau bore sych ar y 27ain.
Cafwyd 4 diwrnod heb ddiferyn o law, a 2 arall efo llai nag 1mm. Y 21ain oedd y gwlypaf, efo 62.8mm, a chyfanswm y mis oedd 396mm, tua 15½ modfedd. 

Titws Prysur
Rydw i wedi gosod blwch nythu efo camera yn yr ardd, ac mae pâr o ditws tomos las eisoes wedi bod yn s’nwyro wrth chwilio am leoliad nythu. Llwyddodd 10 o gywion i adael y nyth ym mis Mai 2025*, ac er ei bod yn rhy fuan rwan, daeth y titw cyntaf i fysnesu ar y 10fed o Ionawr eleni. Mae dau aderyn wedi bod yn ôl ac ymlaen bron yn ddyddiol ers hynny. 

Ar ôl tair wythnos o gadw draw, yn swatio’n rhywle rhag yr oerfel, daeth y titws yn ôl i’r blwch wrth iddi’r dyddiau ymestyn a chynhesu rhywfaint at ddiwedd Chwefror. Tydi hi ddim yn amlwg hyd yma os ydyn nhw’n cario mwsog newydd ar gyfer y nyth, ond mae’n dal yn ddigon buan. 

Coed Ceirios
Bu cryn drafod yn y Blaenau os oedd angen torri’r ddwy goeden geirios addurnol sydd ar safle’r arosfan bws ar groesffordd y Stryd Fawr a Lordstryd. Roedd rhai yn teimlo fod y coed yn difrodi’r palmant ac yn cuddio’r murlun arbennig sydd ar dalcen y stryd, ac eraill yn dadlau eu bod yn goed hardd, sy’n werthfawr i ddiwyg ac amgylchedd ein Stryd Fawr. Llwyddwyd i ohirio’r llifio er mwyn trafod ymhellach; be’ ydych chi’n feddwl?

Gwarchodfeydd Lleol
Mae llawer iawn o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn nalgylch Llafar Bro, a gobeithir medru ychwanegu safle arall, ger Trawsfynydd i’r rhestr yn y blynyddoedd i ddod. Planhigfa o goed sbriws oedd safle Brynteg, ond fel llawer un arall roedd y coed wedi eu plannu mewn lle anaddas, ar fawn dwfn, ac yn effeithio ar ansawdd dŵr Afon Eden hefyd, felly torrwyd y coed i gyd. Erbyn hyn mae gwaith wedi dechrau i rannu’r safle efo ffens newydd er mwyn medru pori yno, a rheoli’r tir corsiog fel cynefin agored, a’r ardaloedd mwy sych i ddatblygu’n goedwig brodorol. Bu cydweithio efo Cyngor Gwynedd hefyd i adfer y llwybrau cyhoeddus yno, ond mae llawer i’w wneud eto. Mae murddyn ynghanol y safle, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gohebu efo Cyngor Cymuned Trawsfynydd am y bwriad i enwi’r safle yn Gors-wen o hyn ymlaen, ar ôl yr hen dyddyn hwnnw, gan fod Brynteg yn eiddo arall gyferbyn. Dafliad carreg o’r safle mae mawndir arbennig Cors Goch, a’r gobaith ydi denu rhai o adar a glöynnod byw prin fanno i ymestyn i’r Gors-wen hefyd.

- - - - - -

*Darn am Ditws Tomos Las 2025

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau