Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

14.3.24

Titw Tomos Las a Bluetooth

Cyn mentro at y blwch nythu ar wal y cwt acw, mae’r titw tomos las yn canu’n bryderus o’r goeden helyg tu draw i ffens derfyn yr ardd. Ymhen hir a hwyr, mae’n gwibio o fanno i’r goeden gelyn gyferbyn â’r cwt, ac aros eto. Edrych o’i gwmpas rhyw ‘chydig; gwylio; gwrando’n hir. Yn betrus mae’n symud cam yn nes eto: i’r lein ddillad y tro hwn, lathan yn unig o’r twll crwn ym mlaen y bocs pren. Ydi o am fynd amdani..? Na! Yn ôl i’r gelynnen aeth o am ychydig funudau o wylio gofalus eto, yn gyndyn i ymrwymo, a finnau’n gwylio o ffenast y gegin, yn annog a diawlio bob-yn-ail.

Y blwch nythu ar wal y cwt, a murlun aderyn egsotig iawn yr olwg gan un o’r genod

Mae’r blwch nythu’n newydd sbon. Ei siap yn wahanol, ei liw’n wahanol. A tydi’r titw ddim yn siwr be i’w wneud efo fo. Wyddwn i ddim os ydi hwn yn un o’r pâr a nythodd yn yr hen flwch, llynedd, ond mae’n bosib, gan bod titws tomos las yn driw i’w lleoliad nythu nhw o flwyddyn i flwyddyn. O chwilio’n sydyn ar y we, mae’n debyg fod titws yn byw am tua tair blynedd fel arfer, er bod cofnodion am rai a fodrwywyd sy’n ddeg ac unarddeg oed.

Dair, bedair gwaith, mae’r titw’n dilyn yr un drefn- o’r goeden gelyn i’r lein ddillad ac yn ôl. Yna, o’r diwedd yn hedfan o’r lein i dwll y blwch, a dwi’n dal fy ngwynt... Ond er taro’i ben yn gyflym i mewn, tydi o ddim yn mynd amdani, a ‘nôl a fo i ddiogelwch y goeden! Yn y pendraw, rhoi’r ffidil yn y to wnaeth o a diflannu dros y ffens, heibio’r helygen ac i’r goedwig. Dydd Sul oedd hynny, a welis i mohono wedyn, ond dwi’n mawr obeithio y bydd pâr yn cymryd at y blwch newydd eleni. 

Fel wnes i son yn y golofn yn Ionawr bu llawenydd am ychydig eiliadau un gwanwyn wrth imi weld ceiliog gwybedog brith ar y blwch nythu yn bysnesu ar ôl cyrraedd yma o Affrica. Mi fyswn i wedi gwirioni gweld nythiad o wyau glas bendigedig yr adar trawiadol hynny yma, ond roedd titws eisoes wedi dechrau dodwy yno. Am rai blynyddoedd wedi hynny mi fum yn rhoi corcyn yn y twll trwy fis Mawrth, i gadw’r blwch yn wag nes oedd y gwybedogion wedi cyrraedd Cymru, ond titws oedd y cyntaf i’r felin bob tro ‘run fath!

Cafwyd dipyn o gyffro flwyddyn arall wrth i wenyn meirch hawlio’r gofod dros dro, cyn i mi eu perswadio i symud ymlaen trwy dynnu’r caead a rhedeg nerth fy nhraed i’r tŷ!

Y blwch nythu newydd yma ydi’r un a soniais amdano o’r blaen, efo camera ynddo. Ar ôl edrych ymlaen yn arw at osod y blwch, buan iawn y daeth yn amlwg nad hawdd fyddai medru gwylio lluniau byw o adar yn adeiladu nyth, dodwy wyau, a magu cywion. Er bod awgrym yng ngwybodaeth y camera ei fod yn gweithio trwy gyswllt Bluetooth, y gwirionedd ydi mae dim ond cyswllt wi-fi wnaiff y tro. Ac wrth gwrs, mae’r cwt rhy bell o’r tŷ a’r wi-fi ddim yn cyrraedd! Y gobaith wedyn oedd byddai modd creu cyswllt hotspot ar y ffôn, ond methu fu fy hanes- mae fy mhlant wedi gadael ein nyth ni a neb adra i helpu eu tad efo’r dechnoleg! Er mwyn cael llun o gwbl felly (heb orfod gwario ar offer ychwanegol), mae’n rhaid i mi redeg estyniad llinell ffôn ac estyniad trydan i roi’r hyb band-eang yn yr ardd dros dro. Poen braidd, ond o leiaf mae’n gweithio, a’r unig beth sydd ei angen rwan ydi adar i weld y blwch newydd fel lle addas a diogel i symud i mewn. Dwi’n byw mewn gobaith!

Y llun cyntaf o du mewn i’r blwch newydd

Titw tomos las       blue tit
Gwybedog brith     pied flycatcher
Gwenyn meirch     wasps
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),14eg Mawrth 2024. (*Dan y bennawd 'Amheus o'r Blwch')

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau