Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label nythu. Show all posts
Showing posts with label nythu. Show all posts

14.3.24

Titw Tomos Las a Bluetooth

Cyn mentro at y blwch nythu ar wal y cwt acw, mae’r titw tomos las yn canu’n bryderus o’r goeden helyg tu draw i ffens derfyn yr ardd. Ymhen hir a hwyr, mae’n gwibio o fanno i’r goeden gelyn gyferbyn â’r cwt, ac aros eto. Edrych o’i gwmpas rhyw ‘chydig; gwylio; gwrando’n hir. Yn betrus mae’n symud cam yn nes eto: i’r lein ddillad y tro hwn, lathan yn unig o’r twll crwn ym mlaen y bocs pren. Ydi o am fynd amdani..? Na! Yn ôl i’r gelynnen aeth o am ychydig funudau o wylio gofalus eto, yn gyndyn i ymrwymo, a finnau’n gwylio o ffenast y gegin, yn annog a diawlio bob-yn-ail.

Y blwch nythu ar wal y cwt, a murlun aderyn egsotig iawn yr olwg gan un o’r genod

Mae’r blwch nythu’n newydd sbon. Ei siap yn wahanol, ei liw’n wahanol. A tydi’r titw ddim yn siwr be i’w wneud efo fo. Wyddwn i ddim os ydi hwn yn un o’r pâr a nythodd yn yr hen flwch, llynedd, ond mae’n bosib, gan bod titws tomos las yn driw i’w lleoliad nythu nhw o flwyddyn i flwyddyn. O chwilio’n sydyn ar y we, mae’n debyg fod titws yn byw am tua tair blynedd fel arfer, er bod cofnodion am rai a fodrwywyd sy’n ddeg ac unarddeg oed.

Dair, bedair gwaith, mae’r titw’n dilyn yr un drefn- o’r goeden gelyn i’r lein ddillad ac yn ôl. Yna, o’r diwedd yn hedfan o’r lein i dwll y blwch, a dwi’n dal fy ngwynt... Ond er taro’i ben yn gyflym i mewn, tydi o ddim yn mynd amdani, a ‘nôl a fo i ddiogelwch y goeden! Yn y pendraw, rhoi’r ffidil yn y to wnaeth o a diflannu dros y ffens, heibio’r helygen ac i’r goedwig. Dydd Sul oedd hynny, a welis i mohono wedyn, ond dwi’n mawr obeithio y bydd pâr yn cymryd at y blwch newydd eleni. 

Fel wnes i son yn y golofn yn Ionawr bu llawenydd am ychydig eiliadau un gwanwyn wrth imi weld ceiliog gwybedog brith ar y blwch nythu yn bysnesu ar ôl cyrraedd yma o Affrica. Mi fyswn i wedi gwirioni gweld nythiad o wyau glas bendigedig yr adar trawiadol hynny yma, ond roedd titws eisoes wedi dechrau dodwy yno. Am rai blynyddoedd wedi hynny mi fum yn rhoi corcyn yn y twll trwy fis Mawrth, i gadw’r blwch yn wag nes oedd y gwybedogion wedi cyrraedd Cymru, ond titws oedd y cyntaf i’r felin bob tro ‘run fath!

Cafwyd dipyn o gyffro flwyddyn arall wrth i wenyn meirch hawlio’r gofod dros dro, cyn i mi eu perswadio i symud ymlaen trwy dynnu’r caead a rhedeg nerth fy nhraed i’r tŷ!

Y blwch nythu newydd yma ydi’r un a soniais amdano o’r blaen, efo camera ynddo. Ar ôl edrych ymlaen yn arw at osod y blwch, buan iawn y daeth yn amlwg nad hawdd fyddai medru gwylio lluniau byw o adar yn adeiladu nyth, dodwy wyau, a magu cywion. Er bod awgrym yng ngwybodaeth y camera ei fod yn gweithio trwy gyswllt Bluetooth, y gwirionedd ydi mae dim ond cyswllt wi-fi wnaiff y tro. Ac wrth gwrs, mae’r cwt rhy bell o’r tŷ a’r wi-fi ddim yn cyrraedd! Y gobaith wedyn oedd byddai modd creu cyswllt hotspot ar y ffôn, ond methu fu fy hanes- mae fy mhlant wedi gadael ein nyth ni a neb adra i helpu eu tad efo’r dechnoleg! Er mwyn cael llun o gwbl felly (heb orfod gwario ar offer ychwanegol), mae’n rhaid i mi redeg estyniad llinell ffôn ac estyniad trydan i roi’r hyb band-eang yn yr ardd dros dro. Poen braidd, ond o leiaf mae’n gweithio, a’r unig beth sydd ei angen rwan ydi adar i weld y blwch newydd fel lle addas a diogel i symud i mewn. Dwi’n byw mewn gobaith!

Y llun cyntaf o du mewn i’r blwch newydd

Titw tomos las       blue tit
Gwybedog brith     pied flycatcher
Gwenyn meirch     wasps
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),14eg Mawrth 2024. (*Dan y bennawd 'Amheus o'r Blwch')

 

7.7.14

Nythu

O dan ein trwynau, mae par o ditws mawr wedi nythu yn yr ardd gefn acw. Roedden ni wedi hen feddwl nad oedd dim byd yn dod i'r blwch eleni, gan bod titws tomos las fel arfer wedi hen nythu ynddo erbyn yr adeg yma o'r flwyddyn. Efallai bod y par yma wedi cael methiant mewn nyth yn rhywle arall yn gynharach...

Mae'r titws mawr dipyn mwy swil wrth fynd a dod i'r blwch. Ar flynyddoedd blaenorol, mae'r titws tomos fel arfer yn dal ati nol-a-'mlaen efo deunydd nythu, ac wedyn efo bwyd i'r cywion, heb falio botwm corn be ydan ni'n wneud yn yr ardd. Ond mae'r titws mawr yn aros yn amyneddgar ar gangen coeden afalau drws nesa, nes ydan ni wedi mynd o'r golwg, a dim ond wedyn yn mentro i'r nyth.

Y Fechan yn cael cip sydyn ar y pedwar cyw yn galw am fwyd.
Mae cywion yno ar hyn o bryd, a'u gwichian nhw wnaeth hi'n amlwg ddoe bod rhywbeth yn defnyddio'r blwch. Mae'n amlwg bod tacteg swil yr oedolion wedi golygu na welson ni mohonyn nhw yn mynd a dod tan rwan, er ein bod yn yr ardd bob dydd.



Mi fuon ni'n astudio'r neidr ddefaid eto wythnos yn ol, a'r rhestr wenyn, gloynod byw, a phryfaid yn cynyddu. Ond y peth sydd wedi tynnu'n sylw ni eleni ydi tyfiant newydd ar un o'r planhigion bambw sydd yma mewn potiau. Am y tro cyntaf eleni mae'r bambw du (Phyllostachys nigra) wedi cynhyrchu bonion newydd, a'r cyflymder tyfu wedi'n rhyfeddu!



Bob yn ail ddiwrnod -pan oedden ni'n cofio- roedden ni'n mesur coesyn newydd, ac mae o wedi hen basio taldra y planhigyn gwreiddiol. Roedd yn tyfu tair modfedd y dydd, a'r Fechan wrth ei bodd yn ei wylio'n tyfu'n dalach na hi! Tydi o ddim yn ddu ar hyn o bryd ychwaith; mi ddaw hynny efo oed efallai..












 Dwn i ddim faint dyfith o eto, ond mae'n braf cael gwneud gwyddoniaeth a mathemateg yn rhywbeth diddorol a hwyliog i'r Fechan. (Gr'aduras!)


Cyn cau; diolch i Gerallt Pennant am roi sylw i'r blog eto forw Sadwrn.