Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.2.24

Boda a Broga

Dim ond hanner esgus oeddwn i angen i adael clydwch y tŷ i grwydro ar un o weunydd mwyaf Meirionnydd ddechrau’r wythnos. Roedd llygedyn o awyr las rhwng haenau o gymylau yn ddigon i’m denu fi allan ar ôl dyddiau o dywydd gwael eto! Dwi’n hoff iawn o fynd i’r un lleoliad ynghanol ardal fawr wyllt a chorsiog, tua diwedd Chwefror, er mwyn gwrando ar gân hyfryd yr ehedydd a chael teimlo fod y gwanwyn ar ei ffordd eto. 

Mae digon o son wedi bod ar grwpiau facebook y naturiaethwyr Cymraeg -Cymuned Llên Natur a Galwad Cynnar- am grifft llyffant, ac mi welais i grifft mewn pwll gerllaw tua bythefnos yn ôl, ond yr ehedydd sy’n fy nghynhyrfu i fwyaf yr adeg yma o’r flwyddyn.

Wrth drafod efo cyfeillion mi ddois i sylwi nad ydi’r gair ‘grifft’ yn gyfarwydd i bawb; ‘jeli llyffant’ oeddan ni’n ddweud wrth dyfu i fyny, a dyna mae llawer yn dal i’w ddweud heddiw. Difyr ydi nodi fod y gair llyffant yn golygu toad mewn ambell ardal, ond frog ydi llyffant i mi. Mi wnaeth panel enwau Cymdeithas Edward Llwyd son am “yr enw a barodd y drafferth fwyaf”, wrth gyhoeddi ‘Creaduriaid Asgwrn-Cefn’ -y llyfr cyntaf yn y gyfres wych ar ‘Enwau Creaduriaid a Phlanhigion’ ym 1994. 

Cyfaddawdu wnaethon nhw trwy roi llyffant melyn yn enw safonol ar frog (Rana temporaria) a llyffant dafadennog fel enw safonol ar toad (Bufo bufo) ond derbyn fod dim angen gorfodi neb i newid eu harferiad lleol. Efallai eu bod nhw’n dal i ddadlau mewn ystafell fyglyd yn rhywle os ddyliwn ni i gyd alw milk yn llefrith ‘ta llaeth, ond stori arall ydi honna!

Ta waeth, mi ges i wledd o ganu’r ehedydd ar y waun. Does dim byd gwell i godi calon na sefyll yn gwrando ar drydar bywiog a di-ben-draw ceiliog ehedydd, dau ohonyn nhw yn yr achos yma, rhywle uwch eich pen, wrth glochdar tiriogaeth a chwilio am gymar. Roeddwn yn dilyn dau lwybr ar draws sgwaryn 1km yn fan hyn ar gyfer yr Arolwg Adar Magu (Breeding Bird Survey) yn y 1990au ond am ryw reswm rhoddwyd y sgwâr i rywun arall ar ôl pum mlynedd a chynnig lle newydd i mi; llyncu mul wnes i mae gen’ i ofn! Ond roeddwn wedi dod i adnabod yr ardal arbennig yma, ac mi fum yma bob blwyddyn yn mwynhau gwrando ers ymhell dros ugain mlynedd. Y cyfnod brafiaf mae’n siwr oedd y blynyddoedd hynny pan oedd y plant efo fi, a phawb am y gorau i fod y cyntaf i weld lle’n union oedd yr ehedydd; smotyn bach tywyll yn uchel, uchel yn yr wybren.

Er fod cwmwl ar y copaon i gyd, roedd bysedd yr haul yn torri trwodd yn achlysurol. Serch hynny roedd gwynt main yn chwipio ar draws y tir gwlyb, a’r brwyn a glaswellt y gweunydd yn chwifio fel tonnau yn symud ar draws y tirlun o’m blaen. Roedd llen o law yn y pellter yn bygwth dod tuag ataf, felly mi droiais i gychwyn yn ôl am adra, a gweld ceiliog boda tinwyn! Rhaid oedd aros ychydig eto felly i wylio’r aderyn ysglyfaethus trawiadol yma’n torri cyt yn ei blu llwyd, du a chlaer wyn. Am eiliad meddyliais mae gwylan y môr oedd o wedi colli ei ffordd, ond o graffu’n nes mae’n amhosib cam-gymryd hwn am aderyn arall. 

Boda tinwyn- llun gan lywodraeth Ynys Manaw CC BY 2.0

Son am wefr cael ei wylio mor agos, yn hwylio dros y grug, prin yn rhoi curiad i’w adenydd. A mwya’ sydyn, daeth iâr i ymuno â fo, a hithau hefyd yn hedfan yn isel dros y rhos, a’i phen ôl gwyn yn amlwg iawn yn erbyn gweddill ei phlu brown. Ymhen ychydig funudau, roedd y ddau wedi mynd dros orwel ac o’r golwg, a welais i mohonyn nhw wedyn. Er bod eu niferoedd wedi cynyddu yng Nghymru ers y nawdegau, dim ond 30-40 pâr sydd yma (Cymdeithas Adaryddol Cymru 2021) ond mae’n sefyllfa well o lawer nag yn Lloegr, lle mae erlid anghyfreithlon dal yn felltith yn anffodus.

Adref amdani am banad, yn fodlon fy myd, ac i synfyfyrio am wanwyn braf.

Ehedydd -skylark
Grifft llyffant -frogspawn
Brwyn -rushes
Glaswellt y gweunydd -purple moorgrass
Boda tinwyn -hen harrier
- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, yn y Daily Post, 22ain Chwefror 2024 (Dan y bennawd 'Llyffant ta Broga?').

 

Tra Bo Hedydd, mis Mawrth 2013

1.2.24

Crwydro'r Bannau

Hyd yn oed cyn cychwyn am y bwlch, roedd y gwynt yn rhuo a chymylau duon yn hel yn y pellter. Roeddwn i lawr ym Mynwy wythnos dwytha, rhwng stormydd Isha a Joslyn ac wedi trefnu crwydro dipyn ym mryniau dwyrain Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Mi anelais yn gyntaf am Fynydd Llangatwg a Gwarchodfa Natur Craig y Cilau. Mae clogwyni’r Darren, Darren Cilau, Disgwylfa, a Chraig y Cilau yn drawiadol iawn, a dwi wedi eu hedmygu o’r A40 wrth yrru heibio sawl gwaith. Braf cael mynd yno o’r diwedd, gan barcio ar Ffordd yr Hafod; ffordd gul, serth, droellog uwchben pentref Llangatwg.


O fewn dau funud o gychwyn cerdded, mi oeddwn yn gwylio haid o socanod eira (fieldfares) yn gwledda ar yr aeron cochion sy’n dal yn amlwg iawn ar sgerbydau gaeafol y coed drain gwynion (hawthorn). Doniol oedd gwylio’r adar yn glanio ar frigyn a hwnnw’n symud yn y gwynt, gorfod sadio’u hunain cyn medru pigo’r ffrwythau; eu traed yn siglo ‘nôl-a-mlaen odditanynt a’u cyrff yn llonydd, gan fy atgoffa o rywun yn cerdded ar raff! 

Dyma aderyn prydferth. Daw i Gymru o Sgandinafia bob gaeaf i chwilio am fwyd. Mae’n rhannu rhai o nodweddion ei gefnder, y brych coed (mistle thrush): ei fol brith er enghraifft, ond yn sefyll allan yn drawiadol efo’i ben a’i ben-ôl llwydlas a mwy o goch yn ei blu brown. Wrth i mi nesáu mae pob un yn codi o’u canghennau a hedfan i ffwrdd gan ddweud y drefn yn swnllyd efo galwad sy’n swnio i mi fel cnociwr drws blin!

Wrth i mi godi o’r bwlch rhwng dau glogwyn i’r llwyfandir agored, fi oedd yn cael trafferth aros ar fy nhraed yn y gwynt, ond mi rois fy mhen i lawr a thynnu fy het yn dynnach dros fy nghlustia a gyrru ymlaen. Roedd croesi’r gweundir eang o dwmpathau glaswellt y gweunydd (purple moorgrass) yn waith caled ond yn werth yr ymdrech gan fod cymaint o nodweddion archeolegol difyr ar ben Tŵr Pen-cyrn. Yn ôl Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys, bu brwydr yno yn yr wythfed ganrif rhwng Rhodri Molwynog -brenin y Brythoniaid- a’r Sacsoniaid. Mae’r mynydd hefyd yn frith o garneddi claddu o’r oes efydd; a llawer o olion trin y cerrig calch o bob oes, yn llyncdyllau ac odynnau, cyn i’r chwareli mwy modern ddatblygu i ddwyn cerrig o’r clogwyni islaw. 


O’r copa mae’n bosib gweld dau wahanol fyd bron. Tua’r de mae cymoedd diwydiannol Gwent, ardal y glo a’r gwaith haearn, caledi cymdeithasol a sosialaeth. I’r gogledd, tir amaeth cyfoethog y tywodfaen coch, trefi marchnad llewyrchus Y Fenni a Chrughywel ac etholaethau ceidwadol Brycheiniog a Mynwy.

Ond roedd yn rhy oer i sefyllian, felly mi ddilynais lwybr arall i lawr, heibio cwt crwn o’r enw Hen Dŷ Aderyn, nes cyrraedd yn ôl at ymyl y tarenni, a’r gwynt o’r tu ôl i mi wedi bod yn gymorth i’r cerdded y tro hwn. Roedd yr haul dal yn weddol isel yn y de-ddwyrain, ac ar draws dyffryn Wysg i’r gogledd roedd enfys fendigedig yn ymestyn o Fynydd Troed i Ben-y-fâl. Uwch fy mhen, cigfran yn hongian ar y gwynt heb symud fawr ddim, ac oddi tanaf bwncath yn cylchu dros goedwig Cwm Onneu Fach.

Tydi Ionawr ddim yn fis da i gymryd maintais lawn o gyfoeth botanegol Craig y Cilau, lle mae clogwyni calchfaen mwyaf Cymru yn gartref i flodau Arctic-Alpaidd a rhedynnau prin. Mae yno hefyd nifer o fathau prin o goed cerddin (whitebeam), tair ohonyn nhw yn tyfu’n unlle arall ar y ddaear heblaw’r Bannau. Rhywle arall i’w ychwanegu i’r rhestr o lefydd i ddychwelyd iddyn nhw yn y gwanwyn felly!

 

Trwy lwc, mi gadwodd yn sych trwy’r dydd -nes cyrraedd ‘nôl i’r cerbyd, a phan ddaeth y glaw a’r cenllysg mi es am fy mywyd i lawr i Eglwys y Santes Fair yn Y Fenni, a rhyfeddu at y ffenest newydd hardd yno, uwchben eu prif drysor, cerflun derw canoloesol o Jesse, tad Dafydd Frenin. Gwledd o liw sy’n cynnwys lluniau hyfryd o fywyd gwyllt a phlanhigion llesol, fel y wermod wen ac eurinllys, cacynen a gwyfyn (feverfew, StJohn’s wort, bumblebee, moth). Lle hyfryd iawn i ymochel am ennyd cyn chwilio am baned cynnes yn y dref!
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),1af Chwefror 2024.

*Heb y ddau lun gyntaf