Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

15.8.21

Wythnos y Rhandiroedd

Mae hi wedi bod yn Wythnos y Rhandiroedd medden' nhw... wel, gweld ein prif weinidog Mark Drakeford yn trydar amdano wnes i a deud y gwir.

Da 'di Drakeford 'de. Mae o'n gymeriad digon hoffus. 

Ydi, mae o'n unoliaethwr Prydeinig difrifol yn anffodus (cym'on: plaid lafur 'dio wedi'r cwbwl!); ond yn boblogaidd iawn serch hynny, am arwain Cymru ar hyd llwybr culach a challach na Lloegr Fawr yn ystod Gofid Covid. Ac am ddweud fod Boris Johnson 'really, really is awful'!

Roedd y rhaglen ddogfen 'Prif Weinidog Mewn Pandemig' ar S4C yn y gwanwyn, yn rhoi portread o was cyhoeddus cydwybodol ac annwyl, â'i draed ar y ddaear. 

 Ta waeth am hynny, mwydro am randiroedd oeddwn i, am wn i.

Dwi wedi rhoi'r gorau i'r rhandir ers pum mlynedd, ond yn dal i dyfu bwyd yn yr ardd gefn. Braidd yn fach yd'r ardd, a dyna pam gymris i randir, ond mi fethais ei dal hi ymhob man. Roedd jyglo rhwng dau le yn ormod, ac roedd tir rhandiroedd Stiniog yn dorcalonnus. Fel cors yn y glaw; fel concrit yn yr haul!

Llwyddiannau mwya'r ardd eleni: 

mwyar cochion (loganberry, wedi ei phlannu yn y ddaear o'r diwedd ac yn mwynhau ei lle); pys a ffa (hoff iawn o'r holl law yn Stiniog); tomatos indigo cherry (cnwd da, ffrwythau deniadol, blasus).

Ffrwythau duon: tomatos indigo cherry a chilis duon Hwngari, yn y tŷ gwydr

Hefyd, am y tro cynta' erioed -er dwi ddim isio'u jinxio nhw- mae 5 ffrwyth wedi aros ar y goeden eirin Dinbych, a thyfu i faint da. Maen nhw angen aeddfedu rwan felly dwi'n croesi fy mysedd. Dwi wedi cwyno mwy am y goeden yma nag unrhyw beth arall yn yr ardd! Mae hi yma ers tua 9 mlynedd a heb gynhyrchu un ffrwyth erioed. Mae'r label yn dweud ei bod hi'n hunan-beillio, ac mae'r feithrinfa dyfodd hi wedi ein sicrhau bod hynny'n wir a bod angen amynedd... Esu, alli di ddeud hynna eto gyfaill! 

Eleni, mi wnes i arbrofi trwy dorri darn o gangen oddi ar goeden eirin gwyllt o safle yn fy ngwaith -cangen oedd yn llawn blodau- a'i rhoi hi mewn dŵr o dan yr eirinen Ddinbych. 

Bob blwyddyn, mae ffrwythau yn cnapio ar y goeden ond yn disgyn cyn cyrraedd maint marblis tua diwedd mis Mai.

Eleni, mae 5 ffrwyth oedd agosaf at y gangen eirin gwyllt yn dal i dyfu, gan brofi, dwi'n meddwl, yr angen i groes-beillio efo coeden arall!

[Saga'r Eirin- swnian 'nôl yn 2016]


Siomedigaethau mwyaf yr ardd eleni:

tatws newydd (cnwd bach); ceirios (dim un!); tomatos galina (addewid gwag o gnwd cynnar iawn mewn hinsawdd oer, a'r hadau yn ddrud iawn gan gwmni o Gymru sydd wedi siomi yn y gorffennol hefyd).

Ond yn siom mwyaf oedd gweld y mefus yn gwneud cystal, a mwy nag erioed yn cochi'n braf, wedyn rhoi rhwydi drostyn nhw ar ôl colli ambell un, dim ond i ganfod -yn rhy hwyr- nad adar oedd y lladron, ond llygod! Ychydig iawn gawson ni yn y diwedd, a bron dim gwsberins am yr un rheswm.

*$%*#!  

Mae ein hagwedd elusengar tuag at bethau sy'n rhannu ein bwyd ni wedi erydu braidd ar hyn o bryd. Ond, tydi 'fory heb ei gyffwrdd, ac mi ddaw gwanwyn eto'r flwyddyn nesa, felly daliwn i gredu. 

Er nad oes gennym randir!


Y lluarth (gardd lysiau) eleni

13. Eirinen Ddinbych

C. Tatws newydd yn wreiddiol, brocoli piws a bresych deiliog at y gaeaf rwan

B. India corn, courgette, pwmpen (dan blastig)

A. Pys, salad, ffa dringo

CH. Ffa melyn (broad)- cennin i ddilyn yn fuan

11. Mwyar cochion, mafon, marchysgall (globe artichoke)

x. radish, betys, moron (dan garthen i warchod rhag bryfaid)

(Y rhifau a'r llythrennau yn dod o gynllun yr ardd, ond doedd gwely x ddim yno bryd hynny)





2 comments:

  1. Da gweld arasgwrygraig yn ól gyda'r pytiau difyr fel arfer. Tipyn o drefn acw, o'r diwedd! Taclus iawn.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch VP. Amser a ddengys os ydi o'n ôl, ta mond chwilan dros dro oedd y mwydro diweddara' ma...

      Delete

Diolch am eich sylwadau