Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.7.21

Adfer Cynefinoedd. Adfer Hen Ysgrif

Ddegawd yn ôl, mi o'n i'n blogio rhywfaint ar ran fy nghyflogwr ar y pryd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, am fy ngwaith ar warchodfeydd natur y gogledd-orllewin. Pan lyncwyd y corff hwnnw i gorfforaeth fwy, fe aeth blog Ein Golygfa i ebargofiant, gan golli cyfres o erthyglau Cymraeg am yr amgylchedd gan nifer o gydweithwyr.

Dyma ail-gylchu, neu adfer un o'r darnau sgwenais i -union ddeg mlynedd yn ôl- yng Ngorffennaf 2011.

- - - - - -

Da Was

Siom fu tywydd Gorffennaf ar y cyfan ym Meirionnydd hyd yma. Siom; ond ddim yn syndod chwaith, o ystyried y pedwar haf d’wytha! Mae’r prinder haul wedi bod yn rhwystr efo’r gwaith o gofnodi pryfetach y gwarchodfeydd, ond llwyddais i biciad rhwng cawodydd ambell dro i Gors Tanygader.

Fel arfer -ar gyfnod braf- gallaf ddisgwyl gweld hyd at 9 math o was neidr yn y ffosydd a’r pyllau yma, gan gynnwys y picellwr cribog, gwäell ddu, mursen werdd a  morwyn dywyll. Mae gan bob un anghenion gwahanol o ran cynefin: dŵr agored; dŵr llawn tyfiant; dŵr dwfn; yn llonydd, neu’n rhedeg; mwd; graean; ac yn y blaen, felly un o’r tasgau ar y warchodfa yma ydi sicrhau’r amrywiaeth hwn.


Dyma lun a dynnais ar y 15fed o’r mis, ar lan ffos fwyaf y safle. Ffos lle rwyf wedi gosod argae bob degllath i arafu’r llif o’r gors a gwlychu’r tir cyfagos. Gwas neidr eurdorchog benywaidd sydd yn y llun. Creadur hardd a gosgeiddig. Mae gallu’r gweision neidr i hedfan a hofran yn anhygoel, a gallaf eu gwylio’n hela a chadw golwg ar eu ‘milltir sgwâr’ am yn hir iawn (o, na fyddai’r amser gennyf i wneud hynny’n amlach!).

Roedd hon wedi glanio ar hen gangen yr oeddwn wedi’i stwffio i’r mawn ar lan y ffos. Mae un neu ddwy o’r rhain ar lan pob pwll, ac mae sawl rhywogaeth yn eu defnyddio i wylio’u tiriogaeth, i dorheulo, neu i wibio allan a dal pryfed, a dod yn ôl i fwyta’u helfa. O’r herwydd mae’r canghennau yma’n cynnig cyfleoedd da i dynnu lluniau, ac roedd y tywydd cymylog ar y pymthegfed yn golygu nad oedd gan y gwesyn lawer o egni i hedfan oddi wrthyf, gan wneud y ffotograffiaeth yn hawddach fyth.

Cefais lun o wyfyn bwrned pum smotyn y diwrnod hwnnw hefyd, yn y glaswelltir sydd ym mhen arall y safle. 

Mae ansawdd y glaswelltir yn gwella o flwyddyn i flwyddyn. 

Dyna’r tro cyntaf i mi weld y gwyfynod trawiadol coch-a-du yma yn Nhanygader, wedi’u denu yno gan y cyfoeth cynyddol o flodau gwyllt am wn i, gan gynnwys y blodau maent yn dodwy arnynt, sef teulu pys y ceirw.

Un pryfyn dwi wedi methu’n glir a’i ddal ar gamera ydi’r gwyfyn cliradain Gymreig. Dyma wyfyn prin, efo ecoleg ddiddorol iawn, yn ddibynnol ar goed bedw o oed a maint penodol; efo rhisgl llyfn; ac yn wynebu’r haul. Maen nhw i’w cael yn y cyffiniau, ond tydw i erioed wedi gweld yr oedolyn, er gwaethaf defnyddio’r abwyd a welir yn y llun olaf. Math o ‘lure’ fferomonaidd sydd yn y rhwyd, sy’n ceisio twyllo’r gwyfyn gwrywaidd i feddwl mai benyw ydyw. 

Dal i aros ydw i felly. Dyfal donc a dyr y garreg, medden nhw, ond byddai cael ychydig o ddyddiau heulog yn gymorth garw i’r ymdrech. Ydw i’n gofyn gormod dŵad?



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau