Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.10.18

La Boca

Mae'r strydoedd yn mynd yn fwy tlodaidd yr olwg wrth gerdded o San Telmo ar y ffordd i Distrito de las Artes -ardal gelf- La Boca, a chŵn yn crwydro ym mhob man.

Erbyn cyrraedd mynedfa stadiwm bêl-droed yr enwog Boca Juniors, mae ychydig mwy o lewyrch, a byseidiau o ymwelwyr yn tywallt i'r drysau bob ychydig funudau. Dwi'n eistedd gyferbyn, yn ffenast caffi La Gloriet, yn rhyfeddu at brysurdeb y lle, dros wydraid o gola melys, oer; caffi sy'n sy'n rhannu lliwiau glas a melyn yr anghenfil o stadwim goncrit ar draws y ffordd.


Gan ei bod yn bwrw glaw mân, waeth i mi biciad i mewn ddim! Yn rhy arw (neu gall) i dderbyn gwahoddiad yr hostel i ddarparu trafnidiaeth a thocyn i gemau cartref am 4,000 peso -tua £80- doeddwn i ddim dicach talu pumpunt am fynediad i'w hamgueddfa ac ymyl y cae.


I mewn a fi ar fy mhen, a mwynhau chwarter awr bach yn syllu trwy gistiau gwydr yn llawn cwpanau a thlysau arian gloyw. Tynnu llun y cae trwy ffens bymtheg troedfedd ac yn ôl allan i'r stryd, heb unrhyw demtasiwn i dalu hanner canpunt am grys y clwb wrth adael trwy'r siop sydd ar ddiwedd pob atyniad...


Dafliad carreg o'r stadiwm, gan ddilyn hen lein reilffordd flêr, mae ardal liwgar La Boca, yn llawn adeiladau lliwgar. Ond siomedig ydi'r profiad, a'r lle wedi'i feddiannu gan siarcod masnachol efo props i odro'r ymwelwyr ar stop nesa eu gwibdaith o atyniadau'r brifddinas. Mi gei di wisgo het ddu, neu flodyn plastig coch yn dy wallt i gymryd arnat dy fod yn dawnsio'r tango efo nhw, neu giwio i ddringo grisiau i gael tynnu dy lun ar falconi lliwgar: a thalu am bob braint wrth gwrs!

Os alli di anwybyddu'r rhai sy'n trïo'u gorau i dy ddenu i fwyta yn eu lle nhw, mae modd gwylio ychydig funudau o ddawnsio tango ar riniog pob bwyty. Ond buan iawn mae nofelti'r trap twristaidd yma'n gwisgo, ac mae canol y ddinas yn galw eto.


Wrth adael, mae murlun mawr yn tynnu'r sylw ar dalcen adeilad arall. Murlun yn darlunio brwydr hir mamau'r 'diflanedig' i gael gwybodaeth am be ddigwyddodd i'w plant dan y drefn filwrol a 'rhyfel fudr' y saithdegau a'r wythdegau cynnar.


Dwi'n aros am gyfnod i hel meddyliau; mae'n anodd iawn dychmygu'r fath sefyllfa.



Diolch i'r drefn.


"Heb anghofio; heb faddau"




Tydi deuddydd ddim hanner digon o amser i werthfawrogi bob dim mewn unrhyw brifddinas, ond rhaid symud ymlaen...

Yr Andes amdani.

[Cerdyn post rhif dau o'r Ariannin. PW 12 Hydref 2018]










4 comments:

  1. Dylsa ti wedi darllen erthygl Tommie Collins llynadd, pan fethodd o dechra'r China Cup am ei fod yn mynd o Buenos Aires i Chile

    ReplyDelete
  2. Yn falch dy fod wedi cael cipolwg ar stadiwm Boca Juniors. Profiad arbennig, a stadiwm sydd yn hen ffasiwn bellach, yn ôl safonau'r Premier Lîg. Beryg fod y blydi masnachwyr 'ma yn cymryd drosodd yna hefyd, os ydw nhw'n disgwyl 4,000 peso am grys Boca. Trap twristiaid go iawn bellach.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau