Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label amgueddfa. Show all posts
Showing posts with label amgueddfa. Show all posts

11.10.19

Waw! Trelew

Dipyn o dwll oedd yr hostel ar stryd Edwin Roberts yn Nhrelew, o'i gymharu efo bob man arall.

A deud y gwir, roedd Trelew dan anfantais braidd, a'r 'mynadd yn brin wedi i ni gyrraedd y ddinas tua awr yn gynt na'r disgwyl, am chwech y bore: dim byd yn agored ond caffi oer, di-groeso yr orsaf fysiau, a hen grinc o hogan anserchog yn gwerthu coffi sâl wysg ei thîn i gwsmeriaid cynta'r dydd.

Ond ar ôl tri chan milltir, a noson di-gwsg mewn bws yn croesi'r paith hir, mae'r hostel yn hafan i roi pen i lawr am awr neu ddwy, a manteisio ar gysylltiad wi-ffi da i wneud trefniadau'r dyddiau i ddod.

Ar ôl cael ail wynt, mae canol y dref yn galw. Mae'r amgueddfa baleontoleg newydd sgleiniog yn werth ei gweld, ac mae'r amgueddfa leol dafliad carreg i ffwrdd hefyd. Dwi'n diawlio fy niffyg Sbaeneg, ac yn drist am fethu gwerthfawrogi'r wybodaeth yn llawn.

Am ryw reswm (ymwelwyr o'r Unol Daleithiau yn cynyddu meddan nhw), mae'r amgueddfa newydd wedi cynnwys rhywfaint o Saesneg ar rai o'u paneli, ond dwi fawr callach wedyn, a'r cyfieithu ar ambell un yn codi gwên...

Yn achos panel y deinosor mwyaf yn y byd -y Patagotitan- doedd eu mathemateg ddim yn dda iawn chwaith!

Roedd yn siom i ddallt bod Parc Ffosiliau Bryn Gwyn, sy'n gysylltiedig efo'r amgueddfa, wedi cau ar gyfer ei ail-ddatblygu, ond o leia gawson ni fwynhau gwylio David Attenborough wedi'i isdeitlo mewn Sbaeneg, a'r gair ¡Guau! yn fawr ar y sgrîn wrth iddo ebychu 'wow' am faint anferthol y Patagotitan.

¡Guau! fuodd hi ryw ben bob dydd wedyn, am rywbeth neu'i gilydd!

Fel Trefelin, mae ambell arwydd Cymraeg yma, ar yr adeiladau cyhoeddus, ond gan fod Trelew yn ddinas fawr mewn cymhariaeth, tydi'r iaith ddim mor amlwg yma. Gwirion a naïf fysa disgwyl mwy mae'n siwr gen i.


Mae'r cinio bach yng ngwesty Touring Club yn plesio'n iawn. Mae pawb yn deud bod yn rhaid ymweld â'r lle... Ond, heblaw am fwynhau chwarter awr o roi'r byd yn ei le efo pedwar o Gymry eraill oedd yn crwydro Patagonia, anti-cleimacs ydi'r profiad ar y cyfan. Dwn 'im pam.

Ta waeth, mae Eisteddfod y Wladfa yn galw!

Ac am brofiad emosiynol. Tydw i ddim yn eisteddfodwr mawr. Gweithgareddau'r ffrinj: bar y maes a'r gigs sy'n denu mwy na'r pafiliwn. Ond yma, saith mil a mwy o filltiroedd i ffwrdd, roedd gwylio pobol a phlant yn canu a llefaru yn Gymraeg, ac yn dawnsio gwerin, bron a'm llorio. Eisteddais yn y neuadd yn crïo a gwenu fel giât bob-yn-ail.

¡Waw! yn wir.


Er y blinder, mi fuo ni yn yr Eisteddfod tan yr anthem, ganol nos; a mynd yn ôl am fwy drannoeth!

Tydi diwrnod a hanner yn sicr ddim yn ddigon i werthfawrogi lle newydd yn iawn, felly mae Trelew wedi'i ychwanegu at restr hir o lefydd i ddychwelyd iddyn nhw.

[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #8. PW 26-27 Hydref 2018]

 

22.10.18

La Boca

Mae'r strydoedd yn mynd yn fwy tlodaidd yr olwg wrth gerdded o San Telmo ar y ffordd i Distrito de las Artes -ardal gelf- La Boca, a chŵn yn crwydro ym mhob man.

Erbyn cyrraedd mynedfa stadiwm bêl-droed yr enwog Boca Juniors, mae ychydig mwy o lewyrch, a byseidiau o ymwelwyr yn tywallt i'r drysau bob ychydig funudau. Dwi'n eistedd gyferbyn, yn ffenast caffi La Gloriet, yn rhyfeddu at brysurdeb y lle, dros wydraid o gola melys, oer; caffi sy'n sy'n rhannu lliwiau glas a melyn yr anghenfil o stadwim goncrit ar draws y ffordd.


Gan ei bod yn bwrw glaw mân, waeth i mi biciad i mewn ddim! Yn rhy arw (neu gall) i dderbyn gwahoddiad yr hostel i ddarparu trafnidiaeth a thocyn i gemau cartref am 4,000 peso -tua £80- doeddwn i ddim dicach talu pumpunt am fynediad i'w hamgueddfa ac ymyl y cae.


I mewn a fi ar fy mhen, a mwynhau chwarter awr bach yn syllu trwy gistiau gwydr yn llawn cwpanau a thlysau arian gloyw. Tynnu llun y cae trwy ffens bymtheg troedfedd ac yn ôl allan i'r stryd, heb unrhyw demtasiwn i dalu hanner canpunt am grys y clwb wrth adael trwy'r siop sydd ar ddiwedd pob atyniad...


Dafliad carreg o'r stadiwm, gan ddilyn hen lein reilffordd flêr, mae ardal liwgar La Boca, yn llawn adeiladau lliwgar. Ond siomedig ydi'r profiad, a'r lle wedi'i feddiannu gan siarcod masnachol efo props i odro'r ymwelwyr ar stop nesa eu gwibdaith o atyniadau'r brifddinas. Mi gei di wisgo het ddu, neu flodyn plastig coch yn dy wallt i gymryd arnat dy fod yn dawnsio'r tango efo nhw, neu giwio i ddringo grisiau i gael tynnu dy lun ar falconi lliwgar: a thalu am bob braint wrth gwrs!

Os alli di anwybyddu'r rhai sy'n trïo'u gorau i dy ddenu i fwyta yn eu lle nhw, mae modd gwylio ychydig funudau o ddawnsio tango ar riniog pob bwyty. Ond buan iawn mae nofelti'r trap twristaidd yma'n gwisgo, ac mae canol y ddinas yn galw eto.


Wrth adael, mae murlun mawr yn tynnu'r sylw ar dalcen adeilad arall. Murlun yn darlunio brwydr hir mamau'r 'diflanedig' i gael gwybodaeth am be ddigwyddodd i'w plant dan y drefn filwrol a 'rhyfel fudr' y saithdegau a'r wythdegau cynnar.


Dwi'n aros am gyfnod i hel meddyliau; mae'n anodd iawn dychmygu'r fath sefyllfa.



Diolch i'r drefn.


"Heb anghofio; heb faddau"




Tydi deuddydd ddim hanner digon o amser i werthfawrogi bob dim mewn unrhyw brifddinas, ond rhaid symud ymlaen...

Yr Andes amdani.

[Cerdyn post rhif dau o'r Ariannin. PW 12 Hydref 2018]










19.10.18

Cerdyn Post

Bedair awr ar hugain cyfa' ar ôl ffarwelio â'r Moelwynion dan awyr las hyfryd, mae'n anodd credu, ond dwi yn yr Ariannin.

Y Moelwynion o ffenast y llofft ar fore'r gadael

Ar ôl tair awr ar ddeg hir a diflas ar awyren, 'da ni yn Buenos Aires am wyth y bore, er i'r corff a'r ymennydd awgrymu'n gryf ei bod yn hanner dydd...

Wedi lluchio'r bagiau i hostel yn ardal ffasiynol San Telmo, 'da ni'n crwydro strydoedd hir, syth, o gerrig sets anwastad, nes cyrraedd bwrlwm prif sgwâr y brifddinas, Plaza de Mayo.

Casa Rosada: senedd-dy'r Ariannin
Adeilad gwyn trawiadol amgueddfa'r Cabildo a ddenodd sylw gynta' efo hanes chwyldro Mai 1810 a dechrau taith yr Ariannin i annibyniaeth. 

Roedd buarth y Cabildo'n arbennig o braf, ac mi ges eistedd am orig dan gysgod coeden yn drwm o orenau, a llwyni hardd Bougainvillea -Santa Rita maen nhw'n ei alw yma medd y ceidwad- yn diferu o flodau pinc dros ddrws a ffenest gyferbyn.


Wedi gadael yr hydref adra, rhaid atgoffa fy hun ei bod yn wanwyn yma yn hemisffer y de. Mae rhesi o goed ceirios yn blodeuo fel cymylau pinc candi-fflos Ffair Llan, ar lan y cei ger bont newydd modern, Puente de la Mujer i ardal o fwytai crand Puerto Madero.

Murluniau ym mhob man trwy'r ddinas. Ar y dde; Galería Solar

















Mae'r coed a'r llwyni ym Mharc Lezama yn llenwi efo dail newydd a blagur hefyd; yn torri bol isio ffrwydro i'w blwyddyn newydd. 'Dw inna' fel plentyn ar fore Dolig, yn dotio at amrywiaeth diarth y coed yno.

Ymysg eu canghennau, mae haid o parakeets gwyrdd yn cadw twrw, a'r brych torgoch, fel rhyw robin mawr, yn pigo trwy'r dail ar lawr heb sylwi na malio dim ar y bobl yn rhuthro heibio ar eu ffordd yn ôl i'w gwaith ar ôl cinio hir neu siesta, a
c ambell ymwelydd fel ni yn dilyn ein trwynau dow-dow.


Mae oriel gyntaf yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol yn ddifyr iawn, wrth adrodd hanes bobl frodorol y cyfandir, cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd. Ond llai diddorol i mi ydi hanes dylanwad yr Ewropeaid yma am ryw reswm.  Rhywfaint o ail-adrodd cynnwys y cabildo, a'r blinder yn dechrau dweud arna'i o bosib...

Bu'n ddiwrnod a hanner hir.

Ar ôl gwydrad neu ddau o gwrw artesanal da ar un o derasau uchel plaza bach Dorrego, mae gwely'r hostel yn galw: mi gaiff y Tango aros am y tro.






[Cerdyn post rhif un o'r Ariannin. PW 10-11 Hydref 2018]