Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.10.18

Mae'r gwynt yn oer oddi ar y llyn

Profiad difyr oedd eistedd yn ffenast yr awyren i hedfan i ymylon gorllewinol yr Ariannin.

Roedd y brifddinas yn ymestyn hyd y gwelwn am gyfnod; wedyn croesi gwastatir anferthol y pampa, a miloedd o aceri -oedd yn amlwg yn hen dir corsiog a delta afon oedd wedi'u draenio i'w hamaethu.

Er hyn, roedd dal yn frith o lynnoedd a phyllau dirifedi yn disgleirio fel ceiniogau newydd trwy'r tirlun. Rhai ohonynt wedi'u hamgylchynu gan gylch o halen gwyn ar y glannau; eraill yn felyn yr olwg.

Ymhen dwyawr, daeth mynyddoedd yr Andes i'r golwg, a ngadael i'n gegrwth at raddfa'r cribau a'r copaon, dan eira claerwyn, a dwi'n ysu i gael mynd i grwydro.

Buan mae'r teithwyr yn llifo trwy fiwrocratiaeth maes awyr bach Bariloche, a thacsi'n dyrnu mynd a ni y deg milltir i'n hostel ar lan llyn enfawr Lago Nahuel Huapi, ynghanol Parc Cenedlaethol o'r un enw.

Mae'r haul yn isel erbyn hyn a'r gwynt yn rowlio'n oer oddi ar lethrau'r mynyddoedd ac yn codi rhesi o donnau gwynion ar ddŵr du y llyn, felly ar ôl cerdded i'r dre am blatiad o basta, mae'n bryd troi'n ôl am yr hostel i yrru nodyn adra, a diogi efo panad mewn ffenast fawr yn gwylio'r eira yn raddol newid lliw ar hyd y gorwel wrth iddi nosi.

Rhywbeth go hyblyg ydi amser i'r Archentwyr mae'n ymddangos. Popeth yn cychwyn yn hwyrach na'r disgwyl, ond yn cyrraedd yn aml iawn yn gynt nag awgrym yr amserlen. Weithia' daw dy fws, dro arall, wel, rhaid aros a gweld! Y traddodiad mañana yn gryf, ac efo 'chydig o ymarfer, dwi'n siŵr y byswn i'n gwneud yn iawn yma!

Drannoeth y cyrraedd, dwi'n eistedd mewn caffi yn gobeithio cael teithio i ben pella' penrhyn Llao Llao i gerdded yn y coedwigoedd naturiol eang sy'n gorchuddio godrau'r mynyddoedd anferth fel Cerro Lopez a Cerro Capilla.

Tywydd digon tebyg i 'Stiniog sydd yn nhref Bariloche tra 'da ni yno, yn newid fesul awr bron, ac wrth aros y bws heddiw, mae'n tywallt y glaw. Mae'r dilyw yn llifo'n un llen oddi ar y bondo gyferbyn, gan ffrwydro'n rhes o ddŵr gwyn ar hyd fflagiau cerrig amryliw y pafin, a chreu ffin amlwg rhwng 'mochel a gwlychu i'r rhai sy'n mentro ar hyd y stryd.


Ar ôl llwyddo i ddal bws 21, a dod oddi arno ar ben pellaf ei daith, mae llwybrau Llao Llao yn werth eu crwydro. Daeth yr haul allan yn ddigon hir i ni fedru cerdded milltiroedd trwy goedwigoedd hynafol o ffawydd deheuol a chypreswydd alerce -sydd wedi rhoi enw i Barc Cenedlaethol arall yn yr Andes. Mae rhai o'r coed yma'n gewri trawiadol; yn enfawr i gymharu efo coedwigoedd derw Cymru.


Yn eu cysgod mae blodau coch hyfryd y notro: llwyni tân Chile; a phetalau melyn llachar y fanhadlen retama, yn ychwanegu lliw i'r goedwig. Mewn ambell bant gwlyb, mae casgliad anhrefnus ond hynod, o fonion oren coed myrtwydd Chile yn teyrnasu, ac mewn ardaloedd eraill mae'r bambŵ cynhenid, colihue, yn drwch.

Daw'r llwybrau i olau dydd yn achlysurol, ar lan un o'r llynnoedd hardd o ddŵr clir oer: Lago Moreno; neu lyn bach Lago Escondido, a'i elyrch gyddf-ddu. Ar ôl cinio bach sydyn mewn gwynt main ar lan llyn Moreno, ac orig arall o ddilyn trwyn at ymylon gogledd-orllewin y penrhyn, mae'n braf cael ymlacio mewn bae bach clws a chysgodol, ar draeth gerrig, yn llyncu'r olygfa ar draws Llyn Nahuel Huapi at fân rewlifoedd hafnau deheuol Cerro Millaqueo.


Cyn mynd i aros am fws yn ôl, mae pen y glogwyn ar gopa mynydd Llao Llao yn rhoi golwg eang o'r Parc. Ychydig fetrau'n is na chopa'r Wyddfa ydi hwn, ond mae'r llawr gwlad ar uchder o tua 800m felly tydan ni fawr o dro yn rhuthro'n ôl i gysgod y coed, pan welwn gwmwl du, hyll yn dod tuag atom o'r mynydd.

Fel Stiniog ym Mharc Eryri, mi dynnodd rhywun linell ffiniau Parc Cenedlaethol Nahuel Huapi, o amgylch Bariloche, ac fel Stiniog, mae rhai yn sbïo lawr eu trwynau ar y dref. Dyna pam, e'lla, y gym'ris i at y lle. Byddai'n dda cael mynd yn ôl rywbryd.
--------------------------


[Cerdyn post rhif tri o'r Ariannin. PW 13-17 Hydref 2018]


1 comment:

  1. Disgrifiada' byw iawn o ardal Bariloche, Pôl. Y tywydd yn y rhan hon o Ariannin yn dra gwahanol i'r hyn sydd o'ch blaenau. Edrychwch 'mlaen am haul y Gaiman a Threlew! (Ac am glywed rhywfaint o Gymraeg)

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau