Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

14.8.13

Troi'r rhod

Pan ddaethon ni adra o'n gwyliau, roedd hi dal yn sych, ond erbyn hyn dychwelodd y glaw, ac mae'n dipyn oerach nag oedd hi cyn inni fynd. Mi fyddai'n braf cael wythnos neu ddwy arall o haul, cyn gorfod cadw popeth am y gaeaf!

Bob hyn a hyn, pan mae'n sych a chynnes, mi fyddai'n rhoi trap gwyfynod allan yn yr ardd, a'r Fechan a finna'n cofnodi'r bore canlynol be' ddaeth at y golau.


Pedwar o'r helfa ddiwethaf: gem pres gloyw; gwyfyn corn carw; gwyfyn bwau llwydfelyn; gem fforch arian. Bu'r lamp ymlaen am deirawr, tan hanner awr wedi hanner nos, ac mi rois geuad ar y trap dros nos. Erbyn codi'r bore daeth yn amlwg nad oedd y ceuad wedi gorchuddio'r trap yn iawn ac roedd y rhan fwya' o'r gwyfynod wedi dianc i'r tywyllwch!

Gwyfyn cynffon gwennol oedd yr un oeddwn eisiau tynnu ei lun fwyaf, ond denig wnaeth hwnnw.

Mefus a mafon efo crempog. Byddai'n dda cael dyddiau braf eto er mwyn cael bwyta allan yn yr ardd. Anodd curo pryd o fwyd yn yr haul.

Mae'r llun ar ddechrau'r darn yma'n dangos cacen wnaeth Yr Arlunudd i'w rhieni i ddathlu penblwydd priodas, y gwpan wedi'i wneud o 'icing' i gynrychioli llestr 'china'. Da oedd hi hefyd. Blas mwy.

Yn groes i'r disgwyl, daeth blagur da iawn oddi ar y marchysgall yn y rhandir. A mwy i ddod.
Y broblem rwan ydi be ddiawl dwi'n mynd i wneud efo nhw? Dim ond allan o jar neu mewn bwyty dwi wedi cael artichokes o'r blaen, felly bydd angen chwilio am fanylion sut i goginio a thrin y pethau diarth, rhyfedd yma.


Ydi'r haf ar ben? Gobeithio ddim... ond o leia' cafwyd haf eleni. Diolch amdano.


2 comments:

  1. Wyt ti wedi gyrru'r cofnodion ymalen i Llen Natur neu Cofnod?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Naddo, ddim eto. Ti'n iawn, mi ddyliwn wneud. Diolch

      Delete

Diolch am eich sylwadau