Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

20.1.13

Eira mân, eira mawr


Dim ond ol fy nhraed i, a'r rhain, oedd ar y rhandir heddiw, a'r safle cyfan dan orchudd o eira glan.


Doeddwn i ddim yn bwriadu gweud dim byd yno, dim ond cymowta a bysnesu, ac i weld sut siap oedd ar y marchysgall yn fwy na dim:



Truenus! Y pedwar planhigyn yn llyncu mul yn llwyr efo fi am eu plannu yn y fath le.















Fawr o obaith am gnwd o ferwr dwr heddiw, a'r pwll bach wedi rhewi.












A'r Moelwyn yn gwisgo'i gap, daeth yr eira eto tra oeddwn yno, a hwnnw'n eira
mân, gan roi coel i'r rhagolygon sy'n gaddo llawer mwy yn ystod yr wythnos.

Dwi'n ysu rwan i gael ail-afael yn y gwaith paratoi, ond yn ddigon bodlon gohirio am ryw hyd, er mwyn mwynhau harddwch yr eira.












5 comments:

  1. Anonymous27/1/13 14:33

    Newydd ddarganfod dy flog Wilias. Mae'n wych gweld blog garddio arall yn y Gymraeg ac un mor ddifyr hefyd. Diolch yn fawr amdano. Rydyn ni wrth ein boddau yn ein gardd yn Nhre Taliesin ac yn tyfu llysiau, ffrwythau a blodau pan fydd y gwynt a'r glaw a'r malwod yn caniatáu. Pob hwyl,Sian a Martin

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am eich geiriau caredig. Mi ydan ni i gyd yn haeddu haf heb falwod eleni!

      Delete
  2. Ffaelu gwneud dim yma yn Asturias chwaith - ond dŵr y glaw yw'r broblem. Mae'r lle fel llyn.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Daeth y glaw mawr 'nol i Stiniog neithiwr hefyd, a gadael dim ond esgyrn eira ar y copaon.

      Delete
  3. This comment has been removed by a blog administrator.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau