Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

24.10.12

Fodca rhiwbob

Ydi. Mae o'n barod. Hir yw pob ymaros.


Mae o'n aeddfedu ers Mehefin, a dwi wedi edrych ymlaen am jochiad ohono ers i mi weld yr awgrym ar flog Hadau. Mae Tatws, awdur y blog, yn rhoi disgrifiad yn fan hyn o sut i'w wneud o, felly wna'i ddim ailadrodd. Dim ond dangos lluniau o'r broses.

Dwi wedi hepgor y sinamon a'r clofs, gan na fedra'i ddiodde'r sbeisus 'gaeafol'; nytmeg ac allspice a star anise aballu.

Deud y gwir, dwi ddim yn yfwr mawr o fodca, felly dim ond potel fach, 350ml wnes i. Ond mae'n well gen i fodca na gin, oherwydd mae blas y ffrwyth yn dod trwadd, yn fwy na blas y gwirod. Yn y gorffennol dwi wedi gwneud fodca eirin tagu, a'r gorau hyd yma ydi fodca llus.

Hel

Chwalu

Trwytho
A'r dyfarniad? Reit neis o'n i'n meddwl.
"Afiach. Ddim digon melys", meddai'r Pobydd! Siwgwr lwmp ynddo fo iddi hi ta..
Tydi o byth yn mynd i guro cwrw du Brains, neu botel o Ochr Tywyll y Mws, gan Fragdy Mws Piws, ond mi fydd o'n dda ar y nosweithiau oer dros y gaeaf, o flaen y tân. Gwell ei adael am rwan tan y penwythnos mae'n siwr. Wel... un fach arall efallai..



2 comments:

  1. Dw i'n licio gin eirin yn fawr. Yn anffodus, dw I wedi bwyta'r riwbob! Blwyddyn nesa!

    ReplyDelete
  2. Roedd eirin tagu -sloes- yn brin iawn eleni yma; siom.
    Mae'r crymbl gellyg yn dy flog heddiw yn swnio'n hyfryd.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau