Mae’r llechen yn gynnes ar fy nghefn wrth imi orweddian yn ddiog yn yr haul ar lan Llyn Morwynion. Ymhell uwch fy mhen yn yr awyr las, mae ceiliog ehedydd yn canu nerth ei ben. Smotyn bach tywyll yn parablu’n ddi-baid; yn ribidires o nodau hyfryd byrlymus.
O nghwmpas, yn bell ac agos, mae’r brithyll yn neidio a throi ar wyneb y llyn, a phâr o wyddau Canada yn chwythu nodau bas o’r Badall Fawnog ym mhen pella’r llyn. Daw lleisiau dau bysgotwr ar draws y dŵr yn achlysurol o ardal y Cwt Gwyddal, a sŵn y gwynt dan adenydd cigfran yn amlwg am ychydig eiliadau wrth hedfan hebio, ond heblaw am hynny mae’r lleoliad yn dawel. Yr union heddwch yr oeddwn wedi dod i’w ganfod. Digon pell o dwrw ymwelwyr y Pasg, i lawr yn y trefi a’r atyniadau amlwg. Lle i ddianc iddo am orig.
Yna, cynnwrf! Aderyn diarth yn cylchu uwchben y dŵr dwfn, du ynganol y llyn. Gwalch y pysgod! Er bod yr adar yma wedi magu bri a sylw rhyfeddol wrth ddychwelyd i Gymru i fagu yn 2004, ac wedi eu gweld yn aml yn lleol, dyma’r tro cyntaf i mi weld un yn Llyn Morwynion.
Mwya’ sydyn, mae’n plymio, a tharo’r dŵr yn flêr a thrwsgl: ‘belly-flop’ fel yr oeddem yn arfer ddweud wrth dynnu coes ffrindiau oedd yn deifio’n llai gosgeiddig i bwll nofio neu lyn lleol yn ein plentyndod. Wrth godi ‘nôl o’r dŵr, daw’n amlwg na ddaliodd o bysgodyn y tro hwn, ac mae’n hedfan i glwydo am ennyd ar un o greigiau’r Drum. Ymhen hir, mae’n codi o’i glwydfan a hedfan am y llyn eto. Mae’n ymddangos fod yr amodau’n berffaith iddo ddal gan fod y pysgod mor brysur yn hela pryfetach ar wyneb y dŵr, ond mae’r gwalch wedi pwdu, ac ar ôl un cylchdro diog, yn hedfan dros y grib ac heibio cefn y Garnedd, mwy na thebyg yn anelu at Lynnau Gamallt i drïo’i lwc yn fanno.
Cronfa ddŵr ar gyfer Stiniog ydi Llyn ‘Morynion’ (i roi iddo’i ynganiad lleol). Llyn naturiol a wnaed yn fwy wrth i’r boblogaeth dyfu yn sgîl twf y diwydiant llechi, a llyn sy’n gysylltiedig â dwy chwedl sydd wedi ceisio egluro’r enw. Dyma fro Blodeuwedd; ardal sy’n frith o enwau o bedwaredd gainc y Mabinogi, fel Afon Cynfal, Llech Ronw, Bryn Cyfergyd, Tomen y Mur, ac ati. Yn y llyn yma boddwyd morwynion Blodeuwedd wrth ddianc rhag dialedd Gwydion a Lleu. Dyma hefyd ardal Beddau Gwŷr Ardudwy. Yr hanes honedig yn yr achos yma ydi i lanciau Ardudwy deithio i Ddyffryn Clwyd i hudo merched yn ôl efo nhw dros y mynydd, ond i fechgyn Clwyd eu dilyn a’u lladd ar y Migneint, ac mi foddodd y morwynion eu hunain yn eu galar.
Un arall o adar mudol ucheldir Cymru ydi tinwen y garn, ac mae plu trawiadol y ceiliog yn dwyn fy sylw wrth imi gychwyn am adra; y rhesen ddu am ei lygaid, a’i dîn gwyn yn amlwg iawn wrth hedfan i ffwrdd. Mae ceiliog clochdar y cerrig yn codi twrw i warchod ei diriogaeth ger y llwybr, a finnau’n gwneud fy ngorau glas i fynd heibio’n ddi-stŵr a chyflym; ac yn gefndir i’r cwbl mae’r gog yn taro’i ddau nodyn yn glir a chroyw i goroni pnawn dymunol iawn.
Roeddwn wedi clywed y gog am y tro cyntaf eleni -ychydig yn gynt na’r arfer- ar yr 11eg o Ebrill, wrth fynd efo Cymdeithas Archeolegol Bro Ffestiniog i baratoi’r safle cloddio yng Nghwmbowydd am dymor arall o chwilota, a neb ohonom wedi bod yn ddigon trefnus i ofalu bod newid mân yn ein pocedi i’w droi am lwc!
A hithau’n dymor yr wyau Pasg, y newyddion o’r blwch nythu sydd yn yr ardd acw, ydi bod erbyn hyn 12 o wyau gan y titws tomos las. Mae’r iâr yn gori am gyfnodau hir ar hyn o bryd, a’r ceiliog yn cludo bwyd iddi hi. Rydw i’n gwylio’r camera fel barcud bob dydd... mi gewch fwy o’r hanes y tro nesa!
ehedydd -skylark
brithyll -trout
gwydd Canada -Canada goose
cigfran -raven
gwalch y pysgod -osprey
tinwen y garn -wheatear
clochdar y cerrig -stonechat
cog -cuckoo
titw tomos las -blue tit
- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 24 Ebrill 2025