Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

7.11.16

Rhoi'r ffidil yn y tomato

Naw wfft i domatos. Ga'n nhw fynd i chw'thu!

Dwi newydd glirio'r planhigion o'r tŷ gwydr ar ôl i rai ohonyn nhw ddal yr aflwydd blight.


Eto fyth, mi gawson ni gnwd sâl iawn, er trio tri math eleni. Y ffefryn Ildi, a moneymaker a super sweet. Ond yr un oedd y canlyniad.

Ffrwyth yn hir iawn iawn yn aeddfedu; cnwd bach, siomedig.
Mi fuon ni'n hel llond dwrn bob hyn a hyn, ond y rhan fwya' wedi aros yn fach a gwyrdd ar y goeden. A dyna ddiwedd y tymor tyfu eto.

Ildi sy'n felyn, supersweet ydi'r rhai cochio bach, a moneymaker ydi'r rhai mwy
Mae angen buddsoddi amser i dendio tomatos yn amlwg. Fedri di ddim eu tyfu'n llwyddianus o hadau os ti'n arddwr drama, oriog a diog, fel fi!

O fawr ac s fach...  
Os ydw i am drafferthu eto bydd rhaid unai: prynu gwresogydd i'r tŷ gwydr i ymestyn dechrau'r tymor, ac er mwyn osgoi newid mawr yn y tymheredd o ddydd i nos yn ystod hafau uffernol Stiniog; neu anghofio'r hadau a phrynu planhigion o ganolfan arddio (...sy'n teimlo fel twyllo i mi...)

Be wna'i d'wch? Dwn 'im!


23.10.16

Hanner o be gymrwch chi?

O'r diwedd, daeth y sêr a'r planedau i gyd at eu gilydd i roi diwrnod rhydd a thywydd (gweddol) sych, i ni fedru troi rhywfaint o afalau yn sudd, a'r sudd yn seidr.


Methiant llwyr oedd ein coed afalau ni yma, felly casglwyd ychydig o afalau o fan hyn, a mwy o fan draw. Afalau Enlli a James Grieve o ardd fy rhieni -y rhan fwya' wedi eu hel tra oedden nhw yn Llundain am y penwythnos!

Digonedd o afalau coginio mawr efo gwawr goch ar y croen, gan ffrind o Sir Fôn, ac afalau bach melys coch, efo'r cochni yn treiddio trwy'r cnawd. Ac ychydig bwysi o afalau bramley a cox o hen, hen berllan mewn lleoliad cyfrinachol!

Golchi, didoli, chwarteru




Llifio a rhisglo coedyn er mwyn creu pastwn...



...wedyn stwnshio!

Trosglwyddo i'r wasg, a GWASGU pob diferyn.
Yfed rhywfaint i sicrhau fod y gymysgedd afalau wedi rhoi sudd blasus a melys. Wedyn yfed mwy, am ei fod o mor ddiawchedig o dda.


Ychwanegu burum, wedyn trosglwyddo i demi-johns i fywiogi am ychydig ddyddiau efo wadin yng ngwddw'r poteli. Wedyn glanhau'r ewyn o yddfau'r poteli a gosod corcyn eplesu ym mhob un.


Ac aros.

Am tua mis yn y lle cynta' mae'n siwr -mae'r gegin acw ychydig yn oerach nag sy'n ddelfrydol iddo weithio'n gynt- wedyn trosglwyddo i demi-johns glân ac ychwanegu siwgr, wedyn aros eto nes mae'r eplesu wedi gorffen a throsglwyddo i boteli tan y flwyddyn newydd!

Er bod y sterileiddio a'r paratoi a'r prosesu a'r gwasgu a'r clirio a'r golchi yn dipyn o waith, hynny oedd rhan hawdd y peth. Aros sy'n anodd!

Iechyd da bawb.



18.10.16

Nid wrth ei big mae mesur cyffylog

Diawlad twyllodrus ydi moron yn'de!

Gallan nhw gynhyrchu deiliach trwchus, tal a chyfoethog, yn swancio'n dalog a balch. Ond, tydi hynny'n ddim sicrwydd bod gwreiddyn gwerth ei gael yn y ddaear o dan y tyfiant gwyrdd addawol uwchben.

Dyna brofiad y ddau Daid a ninnau eleni wrth ddyfarnu'r gystadleuaeth moron hiraf.

Moron Taid Cae Clyd yn edrych yn dda iawn yn eu pibelli pwrpasol, proffesiynol yr olwg. Ond bu hen chwerthin wrth i un ar ôl y llall ddod o'r pridd yn stympia bach siomedig.













Taid Rhiwbach wedyn wedi codi ei foron cyn i bawb gyrraedd, ac wedi gosod ei ffefryn ar y bwrdd...

- a dyna syrpreis gafodd pawb ei fod wedi twyllo eto eleni!


Ein moronen ni oedd hiraf.

O drwch blewyn! A hynny dim ond am ein bod wedi llwyddo i godi'r gwreiddyn yn gyfa'  bob cam i lawr i'w waelod main.

Ond rheol ydi rheol, felly ni gafodd y wobr eto eleni!

Dewis a phwyso a mesur. Gwaith pwysig iawn! A Taid yn dal i ddadlau am y rheolau!
 
Paratoi cymysgedd bras tywodlyd 'nôl yn Ebrill
Hau mewn bwced ddofn yn y tŷ gwydr
Aros mae'r moron mawr...
Wrth dynnu llwch oddi ar dlws y gystadleuaeth, mi ollyngwyd o a'i falu'n deilchion, felly bu'n rhaid rhuthro i siopau elusen Stiniog i chwilio am rywbeth arall! A dyma fo: bron iawn mor hyll â desgl 2015! Ond yn werth bob dima' o bunt er mwyn cael 'chydig o hwyl teuluol.


Rhag ofn i'r teidiau ddigio a gwrthod cystadlu flwyddyn nesa, mi gawson nhw wobrau cysur am y foronen dewaf, a'r foronen fwyaf doniol!


Allan yn yr ardd, roeddwn i wedi hau hadau moron amryliw.
Da oedden nhw hefyd; melys a blasus iawn, yn goch, melyn, gwyn, ac oren. Byswn i'n fodlon iawn tyfu'r rhain eto.




[Cystadleuaeth 2015: blodyn haul talaf]


31.8.16

Crwydro ffiniau

Os dwi'n arddwr drama, blogiwr sâl ar y diawl dwi hefyd, ac wythnosau wedi mynd ers i mi fwydro ddwytha.

Parhau wnaeth y tywydd anwadal: ambell gyfnod braf, ond y rheiny byth yn par'a fawr hwy na deuddydd-dridia' (yn 'Stiniog o leia'). Ond dyna fo, rhaid i rywun wneud y gorau efo be maen nhw'n gael tydi!

Mi fuon ni'n crwydro 'chydig. Ddim yn bell iawn cofiwch, ond wedi cael ymweld â llefydd go arbennig, fel Gerddi Hergest. Rhywle nad oedd yr un ohono' ni'n siwr iawn os oeddan ni yng Nghymru yntau dafliad carreg dros y ffin.
 

A chrib Mynydd y Gadair (neu Hattersall Hill i'r locals), lle fuon ni'n dilyn llwybr Clawdd Offa, efo'n traed chwith ni yng Nghymru a'n traed dde ni yn Lloegr.


Caeau glas a gwrychoedd am filltiroedd, ar un llaw. Ffriddoedd a chreigiau ar yr aswy. Aur dan y rhedyn ar diroedd cyfoethog Swydd Henffordd, a newyn dan y grug ar fynyddoedd Mynwy.

Mi fuon ni'n crwydro'n lleol hefyd, rhwng cawodydd yn bennaf! Bu'r Fechan a finna yn pori mewn map a rhestru 37 llyn o fewn ffiniau plwyf Ffestiniog, a gosod her i gerdded at lan bob un ohonynt.
Mae'r amserlen wedi ymestyn erbyn hyn i: "cyn diwedd y flwyddyn" ar ôl methu cael digon o ddyddiau sych pan oedd gen' i wyliau haf!

Efallai bydd ambell lun a hanesyn o'r her yn ymddangos yn fan hyn. Gawn ni weld...




2.8.16

Glaw

Dwi isio rhegi. Isio crïo. Gwaeddi.

Mae'r glaw di-baid; dyddiol; cyson, yn ddigalon. A dim golwg am ddiwedd arno.

'Run ffordd dwi'n mynd allan yn hwn...

Ychydig funudau cyn hanner nos ar noson ola' Gorffennaf, roedd dyn tywydd y BBC yn canmol bod Ynys Wyth wedi cael eu mis Gorffennaf sychaf ar gofnod, efo dim ond 1.4mm o law. Ia, un pwynt pedwar! Ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd y crinc yn dweud "some welcome rain has watered the gardens of southern England..."    !#*&$*#!

Ar fore diwrnod cynta Awst, mi es i hanner ffordd i fyny ochr ddeheuol Cadair Idris (yn rhinwedd fy swydd fel rheolwr y warchodfa natur yno), er mwyn mesur glawiad mis Gorffennaf.

393mm. Ia, pymtheg modfedd a hanner!

Neis de! Ac mi ges i socsan wrth gerdded i fyny yn y glaw hefyd.


...ond wedyn dwi'n cofio be oedd ffrind coleg yn ddeud ers talwm...
"Mae 'na bobl yn llwgu ym Mwlch Tocyn".

Ac mae 'na bobl yn y byd sy'n byw mewn ofn, mewn rhyfel, heb gartref, heb ddŵr glan, heb hawliau sylfaenol... gwell peidio cwyno gormod am y tywydd s'bo.

Tynged y ceirios wrth aeddfedu yn y glaw...