Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label afalau. Show all posts
Showing posts with label afalau. Show all posts

10.8.17

Cowbois ac Impiaid

Wrth docio'r goeden afal Enlli sy'n tyfu fel espalier acw, mi darodd fi y gallwn i ddefnyddio ambell frigyn i greu coed afal Enlli newydd.

Bu'r Fechan yn tyfu coed afalau o hadau tua tair/pedair blynedd yn ôl. Mae un yn tyfu yma fel coeden fach 'step-over' ac ambell un wedi eu plannu'n ddistaw bach yn y dull 'guerilla' mewn llefydd eraill! Ond mae rhai o'r coed ifanc dal yma mewn potiau. Y peryg ydi y byddai'r rhain yn tyfu'n goed mawr, ac yn debygol o gynhyrchu afalau gwael.

Bonyn y goeden hâd, wedi'i dorri'n bîg.

Felly, er ei bod hi'r adeg anghywir o'r flwyddyn mwy na thebyg, dwi wedi trio impio pren afal Enlli ar fonion yr afalau hâd.

Impyn o frigyn afal Enlli. Torriad gwennol ar y dde i eistedd yn daclus ar bîg y bonyn.

Dwi heb drio impio dim byd erioed o'r blaen, ac am fod y syniad wedi dod i mi mwya' sydyn allan yn yr ardd, wnes i ddim mynd i chwilio am gyfarwyddiadau na chyngor. Dim ond bwrw iddi'n fyrbwyll a brysiog fel tân siafins. Nodweddiadol iawn ohona' i mae'n siwr...

Os ydyn nhw'n fethiant llwyr? Wel, dwi heb golli unrhyw beth o werth, a dim ond wedi treulio awr o fy mywyd yn yr haul yn gwneud y gwaith. Awr braf oedd hi hefyd.

Bonyn un goeden ac impiad o goeden arall wedi'u huno i greu coeden newydd sbon. Handi ydi clingffilm weithiau...

Job gowboi braidd!
Ond os bydd yn llwyddianus, byddaf yn sicr o frolio amdano'n fan hyn yn y dyfodol!




23.10.16

Hanner o be gymrwch chi?

O'r diwedd, daeth y sêr a'r planedau i gyd at eu gilydd i roi diwrnod rhydd a thywydd (gweddol) sych, i ni fedru troi rhywfaint o afalau yn sudd, a'r sudd yn seidr.


Methiant llwyr oedd ein coed afalau ni yma, felly casglwyd ychydig o afalau o fan hyn, a mwy o fan draw. Afalau Enlli a James Grieve o ardd fy rhieni -y rhan fwya' wedi eu hel tra oedden nhw yn Llundain am y penwythnos!

Digonedd o afalau coginio mawr efo gwawr goch ar y croen, gan ffrind o Sir Fôn, ac afalau bach melys coch, efo'r cochni yn treiddio trwy'r cnawd. Ac ychydig bwysi o afalau bramley a cox o hen, hen berllan mewn lleoliad cyfrinachol!

Golchi, didoli, chwarteru




Llifio a rhisglo coedyn er mwyn creu pastwn...



...wedyn stwnshio!

Trosglwyddo i'r wasg, a GWASGU pob diferyn.
Yfed rhywfaint i sicrhau fod y gymysgedd afalau wedi rhoi sudd blasus a melys. Wedyn yfed mwy, am ei fod o mor ddiawchedig o dda.


Ychwanegu burum, wedyn trosglwyddo i demi-johns i fywiogi am ychydig ddyddiau efo wadin yng ngwddw'r poteli. Wedyn glanhau'r ewyn o yddfau'r poteli a gosod corcyn eplesu ym mhob un.


Ac aros.

Am tua mis yn y lle cynta' mae'n siwr -mae'r gegin acw ychydig yn oerach nag sy'n ddelfrydol iddo weithio'n gynt- wedyn trosglwyddo i demi-johns glân ac ychwanegu siwgr, wedyn aros eto nes mae'r eplesu wedi gorffen a throsglwyddo i boteli tan y flwyddyn newydd!

Er bod y sterileiddio a'r paratoi a'r prosesu a'r gwasgu a'r clirio a'r golchi yn dipyn o waith, hynny oedd rhan hawdd y peth. Aros sy'n anodd!

Iechyd da bawb.