Daeth yn amser i gyfarfod y 'criw coleg' eto am ychydig o grwydro a mwydro -a be gewch chi'n well na cherdded Llwybr yr Arfordir yn ystod gwyntoedd cryfa'r flwyddyn!
Amy oedd yr enw roddwyd ar storm gynta'r tymor (3-4ydd Hydref) ac er ei bod hi ar ei chryfaf yn yr Alban, roedd gwynt o 85 mya wedi'i gofnodi yng Nghapel Curig, ac Ynys Cybi yn ei dannedd hi hefyd ar y bore Sadwrn, wrth i ni gychwyn cerdded yn y glaw o draeth cysgodol Borthwen ar waelod deheuol yr ynys.
Os oedd y tonnau'n drawiadol yn fanno yng nghysgod Ynys Defaid, roedd nerth y gwynt yn hynod wrth i ni rowndio'r pentir a dod i olwg y môr mawr agored! Efo Eryri a Llŷn o'r golwg yn y cwmwl, yn gosod cefndir llwyd i'r olygfa, roedd creigiau a goleudy bach Ynysoedd Gwylanod yn drawiadol o dywyll a bygythiol, a thonnau gwyllt y môr yn chwalu dros y cwbl. Fel gwylio poster enwog goleudy La Jument, Llydaw, yn fyw o flaen ein ll'gadau (er nad ydw i wedi llwyddo i ddal hynny yn y llun isod).
Wrth wthio ymlaen ymlaen tua'r gogledd efo'n pennau i lawr, mae'r gwynt yn chwipio diferion o frig y tonnau i bigo'n hwynebau, fel cenllysg mân. Ac i gadw efo'r gymhariaeth aeafol, roedd yn rhaid cerdded trwy lluwchfeydd o ewyn gwyn yn hedfan ar y gwynt fel clapiau mawr o blu eira gwlyb.
Mae dringo i lawr y grisiau cerrig i ffynnon y Santes Gwenfaen yn rhoi pwt o gysgod am ychydig funudau cyn mentro dros graig gul Porth Gwalch a'n cefnau at un o'r waliau cerrig trawiadol sy'n cadw'r gwartheg yn y caeau a'r cerddwyr allan!
![]() |
| Y Bwa Gwyn. Yn bendant ddim yn saff i sefyll ar ei ben yn y fath wynt! |
Y Bwa Gwyn a'r Bwa Du, heb os, ydi sêr yr arfordir syfrdanol yma, ac uchafbwyntiau unrhyw daith ar y cymal yma o'r llwybr cenedlaethol. Tystion trawiadol i nerth y tonnau a rhyferthwy'r môr.
Er bod rhywfaint o awyr las rwan, llai deniadol ydi'r tirlun ar ein llaw dde wrth nesáu at Drearddur; y carafannau a chabannau gwyliau yn boenus o hyll, ond mae'r creigiau -sydd ymysg yr hynaf yng Nghymru- a'r mân ynysoedd, yr hafnau, a'r meini ar ein llaw chwith yn dal i gyfareddu. Allan ar y môr aflonydd du, mae honglad o fferi, wedi cychwyn efallai o harbwr cysgodol Dulun, ond erbyn hyn dwi'n siwr, yn llawn o deithwyr anfodlon iawn, yn aros i weld os fydd hi'n ddiogel i'r llong ddocio yng Nghaergybi, ynta' oes raid siglo a simsanu ar y don am oriau. Craduriaid!
Mae cyrraedd Trearddur yn golygu y cawn fwynhau peint sydyn cyn ail-gydio yn y cerdded am ychydig filltiroedd eto. Ac er bod talpiau o'r darn yma ar balmant a tharmac, ac olion o gyfoeth afiach yn nifer o'r tai Grand-designaidd, mae Porth yr Afon, Porth y Pwll, a Phorth y Corwgl yn werth eu gweld.
Ar ôl ychydig oriau o grwydro tirwedd gwych, mewn tywydd dychrynllyd ond cyffrous iawn, mae'n braf cyrraedd pen y daith ar dywod Porth Dafarch, a chroeso cynnes a chwrw da Bragdy Cybi'n galw.
Diolch eto am gael rhoi'r byd yn ei le, ac atgoffa'n hunain ein bod yn byw mewn lle gododog!
.jpg)
Difyr iawn Paul. Yn crynhoi hanes y daith ar y fath dwydd yn llawn, ac yn cofnodi enwau lleol Llwybr yr Arfordir yn wych. Y lluniau'n drawiadol iawn. hefyd. Diolch am gofnodi'r cyfan ar 'Asgwrn y Graig'. Pam ddiawl na ddarllenwch erthygl hynod ddifyr fel hon, chi gefnogwyr yr iaith Gymraeg, a dilynwyr bywyd gwyllt, honedig, yn hytrach na'r sothach arferol gewch chi ar y cyfryngau cymdeithasol arferol???
ReplyDeleteDiolch VP! Go dda 'wan ... 'Rhowch hél iddyn nhw!'
ReplyDelete